Cynnydd ym mhwysau’r fam rhwng yr asesiad cychwynnol ac adeg rhoi genedigaeth, yn ôl grŵp BMI yn yr asesiad cychwynnol a bwrdd iechyd lleol
Disgwylir y diweddariad nesaf:Awst 2026
Diweddariadau
- 4ydd Awst 2026
Mae’r diweddariad hwn yn cynnwys data’r flwyddyn ddiweddaraf.
- 19eg Rhagfyr 2025
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol achrededig
- Darparwr data
- Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)
- Ffynhonnell y data
- Set Ddata Dangosyddion Mamolaeth (MIDS)
- Cyfnod amser dan sylw
- Ionawr 2016 i Rhagfyr 2025
- ID y set ddata
- bc054818-eaae-4505-b3ed-234c77ef14df
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Nifer a chanran o ennill pwysau’r fam rhwng yr asesiad cychwynnol a’r geni, yn ôl grŵp BMI, wedi’i ddadansoddi yn ôl bwrdd iechyd lleol.
Mae’r data hyn yn deillio o’r set ddata Dangosyddion Mamolaeth a ddarperir i Lywodraeth Cymru gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru.
Mae’r set ddata Dangosyddion Mamolaeth yn cyfuno cofnodion o asesiad cychwynnol y fam â chofnod genedigaeth y plentyn.
Mae manylion llawn pob eitem ddata sydd ar gael yn y set ddata Dangosyddion Mamolaeth ar gael yng Ngeiriadur Data GIG Cymru
- Cyfrifo neu gasglu data
Mae’r data o’r set ddata Dangosyddion Mamolaeth dim ond yn cynnwys data asesiadau cychwynnol lle’r oedd yr asesiad cychwynnol a’r enedigaeth wedi digwydd yn yr un bwrdd iechyd, a hynny yng Nghymru yn unig. Nid yw genedigaethau i famau sy’n byw yng Nghymru a roddodd enedigaeth yn Lloegr neu mewn unrhyw wlad arall y tu allan i Gymru wedi’u cynnwys yn y data.
Mae data ar gyfer pob blwyddyn galendr yn cyfeirio at ba bryd y ganed y babi. Mae’n bosibl bod asesiadau cychwynnol wedi digwydd yn y flwyddyn flaenorol, ond cânt eu cyfrif ym mlwyddyn yr enedigaeth.
Mae’r ganran ar lefel Cymru ar gyfer menywod beichiog sydd â BMI o 30 neu fwy yn seiliedig ar bob cofnod llai o gofnodion sydd â gwerth ‘heb ei nodi’ neu annilys.
Mae cofnodion lle mae BMI, taldra neu bwysau yn werthoedd afrealistig yn cael eu hystyried yn annilys, er enghraifft lle mae BMI yn llai na 10 neu’n fwy na 100; os yw pwysau’r fenyw feichiog yn llai na 30kg neu’n fwy na 250kg; a lle roedd taldra’r fenyw feichiog yn llai na 120cm neu’n fwy na 200cm.
Nid yw'r cyfrifiad ond yn cynnwys menywod a gafodd eu hasesiad cychwynnol adeg 14 wythnos o feichiogrwydd neu’n gynharach. Diben hyn yw lleihau cymariaethau annheg lle mae’r cyfrifiad BMI yn cael ei effeithio gan dwf babanod lle digwyddodd yr asesiad cychwynnol ar ôl 15 wythnos. Mae rhwng 11 i 15% o achosion beichiogrwydd wedi cael eu heithrio am y rheswm hwn bob blwyddyn.
Gellir dod o hyd i nifer y cofnodion a eithriwyd yn Nhabl 4 o’r Ystadegau mamolaeth a genedigaethau: adroddiad ansawdd (tablau)
Mae canllawiau'r Institute of Medicine (IOM) yn argymell cyfanswm cynnydd pwysau o rhwng 12.5 a 18 kg ar gyfer menywod beichiog sydd â BMI llai na 18.5 ("o dan bwysau"); rhwng 11.5 a 16 kg ar gyfer menywod beichiog sydd â BMI rhwng 18.5 a 24.9 ("ystod pwysau arferol"); rhwng 7 a 11.5 kg ar gyfer menywod beichiog sydd â BMI rhwng 25 a 29.9 ("dros bwysau"); a rhwng 5 a 9 kg ar gyfer menywod beichiog sydd â BMI o 30 neu fwy ("ordew").
- Ansawdd ystadegol
Ar gyfer BMI, roedd gan fwy na 90% o gofnodion ddata dilys ar gyfer eitemau data taldra a phwysau, ar draws pob bwrdd iechyd, yn y mwyafrif o flynyddoedd ar wahân i’r rhai a ganlyn: Bwrdd Iechyd Cwm Taf/Cwm Taf Morgannwg yn 2016 (77%), 2019 (88%) ac yn 2024 (88%); Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn 2019 (89%) ac Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn 2024 (23%).
Ar gyfer 2024, mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi’i eithrio o’r dadansoddiad oherwydd lefelau uchel o ddata annilys ar gyfer taldra sy’n arwain at 77% o ddata coll ar gyfer BMI.
Er mwyn cyfrifo faint o bwysau a enillwyd, mae angen pwysau dilys ar bob mam wedi'i gofnodi yn yr asesiad cychwynnol a rhwng 36-38 wythnos neu adeg geni. Mae cyfran gymharol uchel o ddata coll ar gyfer pwysau mamau adeg geni sy'n cyfyngu ar ddibynadwyedd y data ennill pwysau. O 2020 i 2023, darparodd bwrdd iechyd Hywel Dda ychydig neu ddim data ar gyfer pwysau'r fam adeg geni. Darparodd Bae Abertawe ychydig neu ddim data o 2021 a 2025. O ganlyniad, mae data Cymru yn eithrio'r byrddau iechyd hyn. Mae Aneurin Bevan wedi'i eithrio yn 2024 gan fod ganddo lefelau uchel o ddata annilys ar gyfer pwysau adeg geni. O ganlyniad i lefel y data coll, cynghorir bod yn ofalus wrth ddefnyddio'r ystadegyn hwn.
O 1 Ebrill 2019 ymlaen, symudodd darpariaeth y gwasanaeth iechyd ar gyfer preswylwyr awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Fwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg i Fwrdd Iechyd Cwm Taf. Newidiodd enwau’r byrddau iechyd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae data ar gyfer Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Cwm Taf ar gael ar gyfer blynyddoedd blaenorol yn y tabl hwn.
Mae gwybodaeth fanylach am y ffynonellau data a’r dadansoddiadau yn y datganiad ystadegol hwn ar gael yn yr adroddiad ansawdd
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.iechyd@llyw.cymru