Data dangosyddion Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2025 fesul Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is (AGEHI) ac awdurdod lleol: meysydd incwm a chyflogaeth
Crynodeb o newidynnau a gwerthoedd a ddewiswyd
| Newidyn | Gwelededd | Gwerthoedd a ddewiswyd | Gweithred |
|---|---|---|---|
| Disgrifiad o’r data | Wedi'i ddangos yn y tabl | Canran | Ni ellir newid y gwerth |
| Cod Ardal | Wedi'i ddangos yn y tabl | Pob un o'r 1939 gwerth | Newid gwerthoedd |
| Enw Ardal | Wedi'i ddangos yn y tabl | Pob un o'r 1939 gwerth | Newid gwerthoedd |
| Dangosydd | Wedi'i ddangos yn y tabl | Pob un o'r 4 gwerth | Newid gwerthoedd |
| Gwerthoedd data | Disgrifiad o’r data | Cod Ardal | Enw Ardal | Dangosydd |
|---|---|---|---|---|
| 36.3 | Canran | W01000003 | Porth Amlwch | Pobl mewn amddifadedd incwm |
| 21.0 | Canran | W01000003 | Porth Amlwch | Pobl o oedran gweithio mewn amddifadedd cyflogaeth |
| 50.0 | Canran | W01000003 | Porth Amlwch | Plant mewn amddifadedd incwm |
| 33.8 | Canran | W01000003 | Porth Amlwch | Pobl hŷn mewn amddifadedd incwm |
| 17.4 | Canran | W01000004 | Amlwch Wledig | Pobl mewn amddifadedd incwm |
| 14.2 | Canran | W01000004 | Amlwch Wledig | Pobl o oedran gweithio mewn amddifadedd cyflogaeth |
| 37.0 | Canran | W01000004 | Amlwch Wledig | Plant mewn amddifadedd incwm |
| 10.9 | Canran | W01000004 | Amlwch Wledig | Pobl hŷn mewn amddifadedd incwm |
| 27.0 | Canran | W01000005 | Biwmares | Pobl mewn amddifadedd incwm |
| 17.6 | Canran | W01000005 | Biwmares | Pobl o oedran gweithio mewn amddifadedd cyflogaeth |
| 61.8 | Canran | W01000005 | Biwmares | Plant mewn amddifadedd incwm |
| 18.1 | Canran | W01000005 | Biwmares | Pobl hŷn mewn amddifadedd incwm |
| 15.9 | Canran | W01000006 | Botffordd | Pobl mewn amddifadedd incwm |
| 12.2 | Canran | W01000006 | Botffordd | Pobl o oedran gweithio mewn amddifadedd cyflogaeth |
| 22.5 | Canran | W01000006 | Botffordd | Plant mewn amddifadedd incwm |
| 14.9 | Canran | W01000006 | Botffordd | Pobl hŷn mewn amddifadedd incwm |
| 18.2 | Canran | W01000007 | Bodorgan | Pobl mewn amddifadedd incwm |
| 12.5 | Canran | W01000007 | Bodorgan | Pobl o oedran gweithio mewn amddifadedd cyflogaeth |
| 24.6 | Canran | W01000007 | Bodorgan | Plant mewn amddifadedd incwm |
| 16.8 | Canran | W01000007 | Bodorgan | Pobl hŷn mewn amddifadedd incwm |
| 10.8 | Canran | W01000008 | Braint | Pobl mewn amddifadedd incwm |
| 7.3 | Canran | W01000008 | Braint | Pobl o oedran gweithio mewn amddifadedd cyflogaeth |
| 14.0 | Canran | W01000008 | Braint | Plant mewn amddifadedd incwm |
| 10.4 | Canran | W01000008 | Braint | Pobl hŷn mewn amddifadedd incwm |
| 27.1 | Canran | W01000009 | Bryngwran | Pobl mewn amddifadedd incwm |
Disgwylir y diweddariad nesaf:Ni ddisgwylir i'r set ddata hon gael ei diweddaru, na'i disodli yn y dyfodol
Diweddariadau
- 6ed Chwefror 2026
Newidiadau fformatio bach
- 16eg Rhagfyr 2025
Mae amcangyfrifon dangosyddion awdurdodau lleol wedi'u cynhyrchu lle mae'r data gwreiddiol yn caniatáu i’w hagregu i ddaearyddiaethau uwchben lefel ACEHI.
- 27ain Tachwedd 2025
- 27ain Tachwedd 2025
- 27ain Tachwedd 2025
- 27ain Tachwedd 2025
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol achrededig
- Darparwr data 1
- Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)
- Ffynhonnell y data 1
- Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
- Darparwr data 2
- Cyllid a Thollau EF
- Ffynhonnell y data 2
- Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
- Darparwr data 3
- Swyddfa Gartref
- Ffynhonnell y data 3
- Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
- Darparwr data 4
- Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
- Ffynhonnell y data 4
- Amcangyfrifon poblogaeth canol-blwyddyn
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yw'r mesur swyddogol o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru. Mae’n pennu safle pob un o'r 1,917 o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (ACEHIau) o'r mwyaf (safle 1) i'r lleiaf (safle 1,917) difreintiedig. Mae'n cyfuno 54 o ddangosyddion wedi'u grwpio o dan 8 maes sydd â'r pwysau canlynol yn y mynegai cyffredinol: Incwm (22%), Cyflogaeth (20%), Iechyd (15%), Addysg (14%), Mynediad at Wasanaethau (10%), Tai (9%), Diogelwch Cymunedol (5%), a'r Amgylchedd Ffisegol (5%).
Mae MALlC yn cynhyrchu safleoedd maes a mynegai cyffredinol i nodi ardaloedd gyda'r crynodiadau uchaf o sawl math o amddifadedd. Mae'r rhan fwyaf o'r gwerthoedd dangosydd, rhai gwerthoedd is-ddangosydd a rhai safleoedd is-faes hefyd yn cael eu cyhoeddi ar StatsCymru. Gweler yr adroddiad canllawiau ac adroddiad technegol MALlC am ragor o wybodaeth.
Mae'r tabl hwn yn cynnwys data ar gyfer cyfanswm o 4 dangosydd – y 2 brif ddangosydd sy'n ffurfio'r meysydd incwm a chyflogaeth a 2 is-ddangosydd ychwanegol, sy'n is-setiau o'r dangosydd amddifadedd incwm: sef amddifadedd incwm i blant (0 i 15 oed) ac amddifadedd incwm i bobl hŷn (60 oed neu'n hŷn). Mae'r holl ddangosyddion yn cael eu talgrynnu i 1 lle degol.
Mae amcangyfrifon dangosyddion awdurdodau lleol wedi'u cynhyrchu lle mae'r data gwreiddiol yn caniatáu i’w hagregu i ddaearyddiaethau uwchben lefel ACEHI. Lle nad yw hyn yn bosibl ar gyfer dangosydd penodol, bydd cofnodion data awdurdod lleol yn dangos [x] yn y golofn Data.
- Cyfrifo neu gasglu data
Y Maes Incwm
Diben y maes hwn yw mesur cyfran y bobl sy'n cael profiad o amddifadedd yn ymwneud ag incwm isel. Mae gan y maes bwysoliad cymharol o 22% yn y mynegai cyffredinol. Mae prif ddangosydd y maes yn cynnwys sawl elfen, ac yn rhoi ciplun trawsdoriadol o bobl sy'n derbyn budd-daliadau a chredydau treth sy'n gysylltiedig ag incwm, a cheiswyr lloches â chefnogaeth ar ddiwedd mis Mawrth 2024.
Mae'r maes yn defnyddio cyfrifiadau nad ydynt yn gorgyffwrdd o hawlwyr prawf modd ac yn cymhwyso trothwy incwm i aelwydydd sy'n gweithio. Yna mynegir y cyfrifiadau cryno fel canran o gyfanswm y boblogaeth amcangyfrifedig ar gyfer yr AGEHI yn seiliedig ar amcangyfrifon poblogaeth ardal fach canol 2022 (SAPE) a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) ar 25 Tachwedd 2024. Mae gan y maes incwm hefyd ddau is-ddangosydd ychwanegol, sef amddifadedd incwm i blant (0 i 15 oed) ac amddifadedd incwm i bobl hŷn (60 oed neu'n hŷn).
Ffynhonnell a chyfnod amser
- Yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP): hawlwyr budd-daliadau sy'n gysylltiedig ag incwm a phobl sy'n cael Credyd Cynhwysol ar ddiwedd mis Mawrth 2024
- Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF): derbynwyr credydau treth ar ddiwedd mis Mawrth 2024
- Y Swyddfa Gartref: Ceiswyr Lloches sy'n Derbyn Cymorth, Mawrth 2024
- SYG: amcangyfrifon poblogaeth ardal fach canol 2022
Y Maes Cyflogaeth
Diben y maes hwn yw mesur cyfran y bobl o oed gweithio sydd wedi'u cau allan o'r farchnad lafur yn anfwriadol. Mae hyn yn cynnwys pobl a allai fod eisiau gweithio ond sy'n methu â gwneud hynny oherwydd diweithdra, salwch neu anabledd, neu gyfrifoldebau gofalu. Mae gan y maes bwysoliad cymharol o 20% yn y mynegai cyffredinol.
Mae gan y maes un dangosydd, sy’n cynnwys sawl cydran, sef ciplun o bobl oed gweithio sy'n derbyn budd-daliadau cysylltiedig â diweithdra, wedi'u cyfartaleddu dros 12 o bwyntiau amser misol ar wahân o fis Ebrill 2022 i fis Mawrth 2023, fe'i mynegir fel canran o'r boblogaeth amcangyfrifedig rhwng 18 a 66 oed mewn Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is (AGEHI), a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ar 25 Tachwedd 2024.
Ffynhonnell a chyfnod amser
- Yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), Ebrill 2022 i Fawrth 2023
- SYG: amcangyfrifon poblogaeth ardal fach canol 2022
- Ansawdd ystadegol
Mae data MALlC 2025 wedi'u cynhyrchu gan ystadegwyr proffesiynol gan ddefnyddio'r data diweddaraf, dulliau dadansoddol trylwyr, a dilysu annibynnol ar bob cam. Mae MALlC 2025 yn adeiladu ar fersiynau blaenorol i sicrhau cywirdeb a dibynadwyedd, gan gyfuno 54 o ddangosyddion o ffynonellau amrywiol (mae rhai, ond nid pob un ohonynt, yn seiliedig ar ffynonellau ystadegau swyddogol) i leihau rhagfarn a chryfhau cadernid. Roedd sicrhau ansawdd yn cynnwys gwiriadau lluosog, atgynhyrchu canlyniadau, ac adolygiad arbenigol gydag arbenigwyr maes ac awdurdodau lleol.
Mae pob un o'r 4 dangosydd yn y tabl hwn yn seiliedig ar gofnodion gweinyddol ac amcangyfrifon poblogaeth. Cawsant eu cynhyrchu gan MHCLG yn gweithio gyda'r DWP, a ddarparodd sicrwydd ansawdd yn ogystal â swyddogion Llywodraeth Cymru.
- Talgrynnu wedi'i wneud
Mae pob dangosydd yn y parth hwn wedi'i dalgrynnu i 1 lle degol.
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru