Amcanestyniad poblogaeth aelwydydd un person sy'n seiliedig ar 2022 yn ôl awdurdod lleol, oedran, rhyw, blwyddyn ac amrywiolyn
Disgwylir y diweddariad nesaf:Ni ddisgwylir i'r set ddata hon gael ei diweddaru, ond disgwylir iddi gael ei disodli yn y dyfodol
Diweddariadau
- 1af Gorffennaf 2026
Cafodd yr amcanestyniadau amrywiolion poblogaeth isel ac uchel a gyhoeddwyd yn wreiddiol ar 20 Tachwedd 2025 eu diwygio ar 24 Mehefin 2026 oherwydd gwall bach yn y data a ddefnyddiwyd yn yr amcanestyniadau amrywiolion poblogaeth isel ac uchel.
- 23ain Ionawr 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol achrededig
- Darparwr data 1
- Llywodraeth Cymru
- Ffynhonnell y data 1
- Amcanestyniadau poblogaeth ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru
- Darparwr data 2
- Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
- Ffynhonnell y data 2
- Cyfrifiad 2021
- Darparwr data 3
- Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
- Ffynhonnell y data 3
- Cyfrifiad 2011
- Darparwr data 4
- Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
- Ffynhonnell y data 4
- Cyfrifiad 2001
- ID y set ddata
- b9b58daa-967e-496d-82b0-37675fb0534b
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae'r set ddata hon yn dangos amcanestyniadau poblogaeth aelwydydd un person ar gyfer Cymru. Mae'n rhoi syniad o nifer a nodweddion y bobl sy'n byw mewn aelwydydd un person yn y dyfodol. Mae'r amcanestyniadau yn cwmpasu'r cyfnod canol 2022 i ganol 2047. Nid ydynt yn rhagfynegiad na rhagolwg o angen tai yn y dyfodol. Yn hytrach, maent yn dangos beth allai ddigwydd os bydd tueddiadau'r gorffennol yn parhau.
Mae'r set ddata yn cynnwys amcanestyniad niferoedd poblogaeth aelwydydd un person ar gyfer pob canol blwyddyn, ardal ac amrywiolyn. Mae hefyd yn darparu dadansoddiad yn ôl oedran a rhyw.
Ar gyfer yr amcanestyniadau amrywiadol, mae prif amcanestyniad a phum amcanstyniad amrywiadol ychwanegol. Mae'r amcanestyniadau amrywiadol hyn yn seiliedig ar wahanol dybiaethau am dueddiadau ffrwythlondeb, marwolaethau a mudo. Maent yn cynnwys poblogaeth isel, poblogaeth uchel, amrywiolyn mudo cyfartalog 10 mlynedd, amrywiolyn mudo cyfartalog 15 mlynedd ac amrywiolyn mudo sero.
- Cyfrifo neu gasglu data
Cynhyrchir yr amcanestyniadau poblogaeth aelwydydd un person ar gyfer Cymru gan Wasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi, Llywodraeth Cymru.
Mae amcanestyniadau poblogaeth aelwydydd un person yn destun ansicrwydd ac maent yn seiliedig ar dybiaethau ynghylch cyfansoddiad poblogaeth ac aelwydydd yn y dyfodol. Nid rhagolygon ydynt ac nid ydynt yn ceisio rhagweld yr effaith y gallai polisïau llywodraeth yn y dyfodol, amgylchiadau economaidd newidiol neu ffactorau eraill, fel nifer y cartrefi a adeiladwyd, ei chael ar boblogaeth aelwydydd un person. Yn hytrach, maent yn dangos sut y gallai poblogaeth aelwydydd un person newid os yw poblogaeth Cymru yn parhau i newid fel y gwnaeth rhwng canol 2018 a chanol 2022, ac yn parhau i ffurfio aelwydydd fel y gwnaeth rhwng 2001, 2011 a 2021.
Mae'r amcanestyniadau hyn yn defnyddio data am gyfraddau aelodaeth aelwydydd o'r cyfrifiadau o'r boblogaeth diweddaraf sydd ar gael ac yn eu cymhwyso i amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol diweddaraf.
Gall amcanestyniadau poblogaeth aelwydydd un person fod yn wahanol i amcangyfrifon poblogaeth aelwydydd un person a gyhoeddwyd nawr ac yn y dyfodol agos. Rydym yn argymell defnyddio'r amcangyfrifon diweddaraf ar gyfer pob blwyddyn lle maent ar gael.
Datblygwyd y fethodoleg ar y cyd â grŵp Amcanestyniadau Is-genedlaethol Cymru (WaSP). Mae aelodau WaSP yn cynnwys cynrychiolwyr sydd â phrofiad o ddata demograffig a thai o awdurdodau lleol Cymru, Data Cymru a Llywodraeth Cymru.
Rydym wedi gwneud rhai newidiadau i'r dulliau ar gyfer cyfrifo'r amcanestyniadau hyn. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y datganiad amcanestyniadau aelwydydd awdurdodau lleol.
- Ansawdd ystadegol
Mae'r amcanestyniadau yn seiliedig ar dybiaethau am dueddiadau'r dyfodol. Nid rhagolygon ydynt a byddant yn wahanol i'r canlyniadau gwirioneddol.
Cafodd yr amcanestyniadau amrywiolion poblogaeth isel ac uchel a gyhoeddwyd yn wreiddiol ar 20 Tachwedd 2025 eu diwygio ar 24 Mehefin 2026 oherwydd gwall bach yn y data a ddefnyddiwyd yn yr amcanestyniadau amrywiolion poblogaeth isel ac uchel. Mae'r amrywiolion poblogaeth isel ac uchel ar gyfer amcanestyniadau aelwydydd yn seiliedig ar y data hyn ac felly maent wedi'u diwygio hefyd.
Am ragor o wybodaeth am ansawdd yr ystadegau, gweler y datganiad ystadegol sydd wedi'i gysylltu yn 'Adroddiadau cysylltiedig'. Mae'r datganiad hwn yn egluro'r fethodoleg, y rhagdybiaethau a'r cyfyngiadau.
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru