Cymorth ar gyfer gwelliannau tai yn ôl gweithgaredd
Disgwylir y diweddariad nesaf:Ni ddisgwylir i'r set ddata hon gael ei diweddaru, ond disgwylir iddi gael ei disodli yn y dyfodol
Diweddariadau
- 29ain Ionawr 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data
- Llywodraeth Cymru
- Ffynhonnell y data
- Casgliad data am adfywio sector preifat
- Cyfnod amser dan sylw
- Ebrill 2003 i Mawrth 2024
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae’r wybodaeth a gyflwynir yma yn gysylltiedig a chymorth ar gyfer adnewyddu tai, sydd yn cael ei ariannu yn bennaf gan Awdurdodau Lleol.. Mae’r wybodaeth yn cael ei gasglu yn flynyddol gan Lywodraeth Cymru er mwyn sefydlu a monitro cyfanswm y gwariant ar draws Cymru ar adnewyddu'r sector preifat a nifer yr anheddau sydd wedi gwella. Mae’n cael ei defnyddio i fonitro tueddiadau mewn gweithgareddau sydd yn cael eu cynnal gan Awdurdodau Lleol i wella ansawdd y stoc tai o fewn eu hardal. Mae hyn yn helpu i fonitro effeithiolrwydd y polisi presennol yn enwedig y cynnydd yn erbyn amcanion y Strategaeth Tai Genedlaethol ac ar gyfer datblygu polisi yn y dyfodol.
Gall awdurdodau lleol gynnig cymorth ariannol i berchnogion tai ar gyfer gwelliant ac atgyweirio’r cartref. Gall hyn gynnwys grantiau a benthyciadau ar gyfer caffael, adnewyddu, gwella, atgyweirio, cael gwared ac adleoli llety. Mewn nifer o achosion mae’r cymorth yn targedu grwpiau bregus fel yr anabl neu’r henoed. Cyfeirir at y cymorth yma fel gweithgaredd adnewyddu’r sector preifat.
Mae’r wybodaeth a ddangosir yn cynnwys gweithgarwch o dan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 a Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Cymorth Tai) (Cymru a Lloegr) 2002. Ym mis Gorffennaf 2003, cyflwynodd Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Cymorth Tai) (Cymru a Lloegr) 2002 drefniadau newydd, yn rhoi mwy o hyblygrwydd i awdurdodau lleol wrth ymdrin â phroblemau cyflwr y stoc leol.
- Cyfrifo neu gasglu data
Cesglir y wybodaeth a gyflwynir yma yn flynyddol drwy ddatganiadau blynyddol awdurdodau cynllunio Cymru am gymorth ar gyfer adnewyddu tai.
- Ansawdd ystadegol
Gallwch weld y wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol cysylltiedig trwy ddilyn y ddolen we a roddir:
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.tai@llyw.cymru