Data dangosyddion Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2019 fesul oedran, Ardal Adeiledig: maes incwm

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Cod ardal
195 o 195 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Enw ardal
195 o 195 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Grwp oedran
1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Dangosydd
16 o 16 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Ni ddisgwylir i'r set ddata hon gael ei diweddaru, na'i disodli yn y dyfodol

Diweddariadau

3ydd Chwefror 2026
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol achrededig
Darparwr data 1
Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)
Ffynhonnell y data 1
Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
Darparwr data 2
Cyllid a Thollau EF
Ffynhonnell y data 2
Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
Darparwr data 3
Swyddfa Gartref
Ffynhonnell y data 3
Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
Darparwr data 4
Weinyddiaeth Gyfiawnder
Ffynhonnell y data 4
Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
Darparwr data 5
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
Ffynhonnell y data 5
Amcangyfrifon poblogaeth ardaloedd bychain (SAPE)

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Nodyn: nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: am y data diweddaraf ewch i Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2025 adroddiad canlyniadau.

Roedd y rhifyn 2019 wedi raddio pob un o’r 1,909 Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (LSOAs a ddiffinnir ar ôl Cyfrifiad 2011) o’r mwyaf (gradd 1) i’r lleiaf (gradd 1,909) difreintiedig. Mae'n cyfuno 47 o ddangosyddion wedi'u grwpio o dan 8 maes sydd â'r pwysau canlynol yn y mynegai cyffredinol: Incwm (22%), Cyflogaeth (22%), Iechyd (15%), Addysg (14%), Mynediad at Wasanaethau (10%), Tai (7%), Diogelwch Cymunedol (5%), a'r Amgylchedd Ffisegol (5%).

Mae'r data sydd yma ar gyfer dangosyddion sylfaenol sy'n bwydo i mewn i fynegai amddifadedd lluosog Cymru 2019.

Mae'r tabl hwn yn cynnwys data ar gyfer y dangosydd amddifadedd incwm fesul oedran ac Ardal Adeiledig. Mae'r dangosydd wedi'i dalgrynnu i un lle degol.

Cyfrifo neu gasglu data

Diben y maes hwn yw mesur cyfran y bobl sydd ag incwm islaw lefel ddiffiniedig. Mae gan y maes incwm bwysoliad cymharol o 22% ym Mynegai cyffredinol MALlC 2019.

Mae'r maes incwm yn cynnwys un dangosydd, gyda phedair elfen iddo, sef:

  • Hawlwyr Budd-daliadau sy'n Gysylltiedig ag Incwm
  • Derbynwyr Credydau Treth
  • Ceiswyr Lloches sy'n Derbyn Cymorth
  • Pobl sy'n cael Credyd Cynhwysol (heb gynnwys y rhai “sy'n gweithio heb unrhyw ofynion”)

Mae plant dibynnol yr uchod hefyd wedi'u cynnwys.

Mynegir y dangosydd hwn fel canran o'r boblogaeth breswyl ar gyfer pob ACEHI, gyda phoblogaeth y carchardai yn cael ei didynnu o'r pedair ACEHI sy'n cynnwys carchardai yng Nghymru (yn 2016). Cafodd gwerthoedd y dangosyddion eu graddio, wedyn cafodd y graddau eu trawsffurfio'n esbonyddol i roi sgoriau meysydd i'w defnyddio wrth gyfrifo mynegai cyffredinol MALlC 2019.

Ansawdd ystadegol

Mae data MALlC 2019 wedi'u cynhyrchu gan ystadegwyr proffesiynol gan ddefnyddio'r data diweddaraf, dulliau dadansoddol trylwyr, a dilysu annibynnol ar bob cam. Mae MALlC 2019 yn adeiladu ar fersiynau blaenorol i sicrhau cywirdeb a dibynadwyedd, gan gyfuno 47 o ddangosyddion o ffynonellau amrywiol (mae rhai, ond nid pob un ohonynt, yn seiliedig ar ffynonellau ystadegau swyddogol) i leihau rhagfarn a chryfhau cadernid. Roedd sicrhau ansawdd yn cynnwys gwiriadau lluosog, atgynhyrchu canlyniadau, ac adolygiad arbenigol gydag arbenigwyr maes ac awdurdodau lleol.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru