Ystadegau swyddi gwag y GIG, yn ôl sefydliad a grwp staff

Hidlwyr

Dyddiad
13 o 13 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Sefydliad
14 o 14 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Grwp Staff
7 o 7 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Crynodeb o newidynnau a gwerthoedd a ddewiswyd
NewidynGwelededdGwerthoedd a ddewiswydGweithred
DyddiadWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 13 gwerthNewid gwerthoedd
SefydliadWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 14 gwerthNewid gwerthoedd
Grwp StaffWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 7 gwerthNewid gwerthoedd
Disgrifiad o’r dataWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 2 gwerthNewid gwerthoedd

Tabl

Lawrlwytho'r tabl hwn

Defnyddir Llawfer safonol yn y tabl hwn: [z] = amherthnasol.

Gwerthoedd dataDisgrifiad o’r dataDyddiadSefydliadGrwp Staff
5,652Nifer y swyddi gwag cyfwerth ag amser llawn31/12/2025Pob sefydliadHoll grŵpiau staff
459Nifer y swyddi gwag cyfwerth ag amser llawn31/12/2025Pob sefydliadMeddygol a deintyddol (ac eithrio hyfforddeion)
862Nifer y swyddi gwag cyfwerth ag amser llawn31/12/2025Pob sefydliadNyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd (cofrestredig)
1,221Nifer y swyddi gwag cyfwerth ag amser llawn31/12/2025Pob sefydliadNyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd (cymorth)
2,183Nifer y swyddi gwag cyfwerth ag amser llawn31/12/2025Pob sefydliadGweinyddiaeth, ystadau a chyfleusterau
717Nifer y swyddi gwag cyfwerth ag amser llawn31/12/2025Pob sefydliadGwyddonol, therapiwtig a thechnegol
211Nifer y swyddi gwag cyfwerth ag amser llawn31/12/2025Pob sefydliadAmbiwlans
1,737Nifer y swyddi gwag cyfwerth ag amser llawn31/12/2025Betsi CadwaladrHoll grŵpiau staff
184Nifer y swyddi gwag cyfwerth ag amser llawn31/12/2025Betsi CadwaladrMeddygol a deintyddol (ac eithrio hyfforddeion)
361Nifer y swyddi gwag cyfwerth ag amser llawn31/12/2025Betsi CadwaladrNyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd (cofrestredig)
340Nifer y swyddi gwag cyfwerth ag amser llawn31/12/2025Betsi CadwaladrNyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd (cymorth)
597Nifer y swyddi gwag cyfwerth ag amser llawn31/12/2025Betsi CadwaladrGweinyddiaeth, ystadau a chyfleusterau
253Nifer y swyddi gwag cyfwerth ag amser llawn31/12/2025Betsi CadwaladrGwyddonol, therapiwtig a thechnegol
0Nifer y swyddi gwag cyfwerth ag amser llawn31/12/2025Betsi CadwaladrAmbiwlans
259Nifer y swyddi gwag cyfwerth ag amser llawn31/12/2025PowysHoll grŵpiau staff
10Nifer y swyddi gwag cyfwerth ag amser llawn31/12/2025PowysMeddygol a deintyddol (ac eithrio hyfforddeion)
85Nifer y swyddi gwag cyfwerth ag amser llawn31/12/2025PowysNyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd (cofrestredig)
14Nifer y swyddi gwag cyfwerth ag amser llawn31/12/2025PowysNyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd (cymorth)
81Nifer y swyddi gwag cyfwerth ag amser llawn31/12/2025PowysGweinyddiaeth, ystadau a chyfleusterau
70Nifer y swyddi gwag cyfwerth ag amser llawn31/12/2025PowysGwyddonol, therapiwtig a thechnegol
0Nifer y swyddi gwag cyfwerth ag amser llawn31/12/2025PowysAmbiwlans
966Nifer y swyddi gwag cyfwerth ag amser llawn31/12/2025Hywel DdaHoll grŵpiau staff
118Nifer y swyddi gwag cyfwerth ag amser llawn31/12/2025Hywel DdaMeddygol a deintyddol (ac eithrio hyfforddeion)
167Nifer y swyddi gwag cyfwerth ag amser llawn31/12/2025Hywel DdaNyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd (cofrestredig)
273Nifer y swyddi gwag cyfwerth ag amser llawn31/12/2025Hywel DdaNyrsio, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd (cymorth)
Yn dangos 1 i 25 o 2,548 rhes
Page 1 of 102

Dewiswch beth i'w lawrlwytho

Dewiswch fformat lawrlwytho

Dewiswch fformat rhifau

Mae hyn yn cynnwys talgrynnu i leoedd degol a chomas er mwyn gwahanu miloedd

Dewiswch a ddylid cynnwys codau cyfeirio a hierarchiaethau

  • Mae codau cyfeirio yn ddynodwyr unigryw ar gyfer gwerthoedd newidyn penodol, fel ardaloedd daearyddol
  • Mae hierarchiaethau'n dangos sut mae gwerthoedd newidyn yn cael eu grwpio gyda'i gilydd, fel pa ardaloedd daearyddol sydd ym mha ardaloedd daearyddol mwy
  • Os oes gan y tabl presennol newidynnau cudd, ni allwch ei lawrlwytho gyda chodau cyfeirio a hierarchiaethau
Bydd y rhain yn cael eu cynnwys fel colofnau ychwanegol yn y tabl a lawrlwythwyd

Dewiswch iaith

Disgwylir y diweddariad nesaf:Ionawr 2026

Diweddariadau

19eg Mai 2026

Mae’r diweddariad hwn yn cynnwys data’r chwarter diweddaraf.

12fed Chwefror 2026

Mae’r diweddariad hwn yn cynnwys data’r chwarter diweddaraf.

29ain Hydref 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol yn cael eu datblygu
Darparwr data
Llywodraeth Cymru
Ffynhonnell y data
Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
Cyfnod amser dan sylw
Rhagfyr 2022 i Rhagfyr 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae ystadegau swyddi gwag GIG Cymru yn cael eu cyhoeddi fel ystadegau arbrofol gan fod y broses sylfaenol ar gyfer casglu data newydd gael ei chreu ac yn parhau I gael ei datblygu wrth iddi ymwreiddio yn unffurf ar draws holl sefydliadau'r GIG. Mae'r ystadegau hyn yn cynnwys y staff hynny yn unig sy'n cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan GIG Cymru. Nid yw'r ystadegau'n cynnwys contractwyr gofal sylfaenol megis Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol ac Ymarferwyr Deintyddol.

Cyfrifo neu gasglu data

Diffinnir ‘swydd wag’ fel y gwahaniaeth rhwng nifer y swyddi cyfwerth ag amser llawn (FTE) a ariennir fel y'I cofnodir ar y cyfriflyfr cyffredinol cyllid, a nifer y staff FTE sydd yn eu swydd fel y'I cofnodir ar y Cofnod Staff Electronig (ESR) ar bwynt mewn amser. Y gyfradd swyddi gwag yw nifer y swyddi gwag wedi'u rhannu â nifer y swyddi FTE a ariennir sydd wedi'u cofnodi ar y cyfriflyfr cyffredinol. Mae grwpiau staff yn cael eu pennu gan y cod goddrychol sy'n eitem ddata yn y cyfriflyfr cyffredinol cyllid a'r ESR. Mae ganddo'r un rhestr ddiffiniedig o werthoedd y dylid eu cymhwyso'n gyson rhwng y ddwy ffynhonnell. Cynlluniwyd y broses casglu data a bydd yn cael ei datblygu ymhellach mewn ymgynghoriad â holl sefydliadau'r GIG. Cyhoeddir yr ystadegau hyn gan fod diddordeb eang o du'r cyhoedd. Gwahoddir pob rhanddeiliad I roi adborth ar eu haddasrwydd a'u hansawdd wrth I'r broses newydd hon gael ei datblygu.

Ansawdd ystadegol

Cyhoeddir yr ystadegau hyn gyda datganiad ansawdd data sy'n tynnu sylw at nifer o faterion ansawdd data. O'u cymryd ar eu pen eu hunain, effaith rhai o'r materion yw goramcangyfrif nifer y swyddi gwag ac effaith rhai yw tanamcangyfrif nifer y swyddi gwag. Pan ystyrir yr holl faterion hysbys yn eu crynswth, credir bod y materion sy'n arwain at danamcangyfrif nifer y swyddi gwag ar lefel Cymru, yn cael effaith fwy ar yr ystadegau na'r effeithiau goramcangyfrif.

Datganiad ansawdd data:

  1. Mae'r fethodoleg wedi'I chymhwyso'n gyson ar draws y mwyafrif o sefydliadau'r GIG. Nid oedd un bwrdd iechyd lleol yn gallu darparu nifer y swyddi FTE a ariennir drwy'r cyfriflyfr cyffredinol cyllid, ond fe ddarparodd nifer y staff FTE cyflogedig mewn swydd trwy'r cyfriflyfr cyffredinol cyllid fel bras amcan. Mae hyn yn debygol o arwain at danadrodd swyddi gwag yn y bwrdd iechyd hwn gan fod nifer y staff FTE cyflogedig yn debygol o fod yn is na nifer y staff FTE sydd wedi'u cyllidebu.
  2. Roedd y dull casglu data hefyd yn golygu bod dau fwrdd iechyd arall yn adrodd nifer isel iawn o swyddi gwag ar draws rhai grwpiau staff. Rydym yn ymchwilio I'r rhesymau dros hyn ond mae'n annhebygol bod y data a ddarperir yn adlewyrchiad gyfan cwbl gywir o swyddi gwag ar y pryd ac mae'n golygu bod tanadrodd tebygol ar swyddi gwag yn y byrddau iechyd hyn.
  3. Nid yw unrhyw staff a gofnodir fel meddygon o dan hyfforddiant, deintyddion o dan hyfforddiant, neu fferyllwyr cyn-gofrestru, wedi'u cynnwys yn y datganiad hwn. Mae cymhlethdodau wrth gyfrif ‘swyddi gwag’ o'r mathau hyn gan fod gan y byrddau iechyd lleol gyllideb I'r staff hyn ond bydd y mwyafrif yn cael eu cyflogi gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru drwy'r cynllun Cyflogwr Arweiniol Sengl. Gall byrddau iechyd hefyd gyflogi staff sydd wedi'u codio fel hyfforddeion yn uniongyrchol, heb iddynt fod yn hyfforddeion ffurfiol drwy'r Cyflogwr Arweiniol Sengl. Bydd mesur swyddi gwag o'r mathau hyn o staff yn cael eu datblygu yn y misoedd I ddod, ond gellir mesur ‘y nifer sy'n manteisio’ ar y mathau hyn o swyddi' yn fwy cywir gan ddefnyddio ‘cyfraddau llenwi’ sy'n cael eu casglu gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru.
  4. Gall fod nifer negyddol o swyddi gwag neu gyfradd swyddi gwag os yw'r nifer o staff mewn swydd ar ESR yn fwy na'r nifer a gyllidebwyd o staff trwy'r cyfriflyfr cyffredinol cyllid. Gall hyn ddigwydd pan fo un o sefydliadau'r GIG yn gor-recriwtio yn wybodus a/neu lle nad yw rhywfaint o gyllid anghylchol neu dymor byr penodol wedi'I gynnwys yn y cyfriflyfr cyffredinol cyllid. Lle bo cyllid ar gyfer swyddi yn bodoli nad yw wedi'I recordio ar y cyfriflyfr cyffredinol a lle mae staff wedi'u cyflogi trwy'r cyllid hwnnw, byddai nifer y swyddi gwag yr adroddir arnynt yn tanamcangyfrif o nifer gwirioneddol y swyddi gwag yn y cyfnod cyfeirio.
  5. Efallai y bydd nifer y swyddi gwag yn y grwp staff meddygol a deintyddol yn cael ei oramcangyfrif oherwydd gwahaniaethau o ran sut mae FTEs yn cael eu cyfrif rhwng y cyfriflyfr cyffredinol cyllid ac ESR. Gall aelod llawn amser o'r grwp staff hwn gyfrif fel 1 FTE ar ESR trwy eu contract a ddiffinnir fel 10 sesiwn yr wythnos. Er hynny, yn ymarferol gall rhai staff weithio 12 sesiwn yr wythnos a gellir eu cofnodi fel 1.2 FTE ar y cyfriflyfr cyffredinol cyllid. Byddai hyn yn creu ‘swydd wag’ o 0.2 drwy'r broses hon o gasglu data hon, ond yn ymarferol nid oedd swydd wag gan fod yr aelod o staff yn gweithio'n hirach na'u horiau wedi'u contractio.
  6. Fel arfer, nid yw staff FTE mewn swydd ar ESR yn cynnwys staff banc, asiantaeth, contractwyr neu staff eraill nad ydynt ar y gyflogres. Gall hyn arwain at oramcangyfrif bach o nifer y swyddi gwag a'r gyfradd swyddi gwag gan y gallai staff fod yn darparu gwasanaethau ond heb gael eu cofnodi ar ESR ar y dyddiad cyfeirio.
  7. Mae swyddi gwag ar gyfer ‘gweinyddiaeth ac ystadau’, a ‘chynorthwywyr gofal iechyd a staff cymorth eraill’ wedi'u cyhoeddi fel grwp staff cyfun ar gyfer 31 Rhagfyr 2022 gan y gallai fod rhai anghysondebau o ran sut mae rhai rolau staff yn cael eu codio rhwng y ddau grwp staff hyn ar draws sefydliadau'r GIG.
  8. Nid yw'r data ar gyfer 31 Rhagfyr 2022 yn cynnwys yr Uned Cyflawni Ariannol na Chydweithrediaeth Iechyd GIG Cymru (a gynhelir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru), lle'r oedd ychydig o dan 180 o staff FTE yn cael eu cyflogi. Bwriedir I'r unedau hyn yn cael eu cynnwys mewn rhifynnau o'r datganiad ystadegol hwn yn y dyfodol.
  9. Wrth I staff symud swyddi, gall diweddariadau I FTEs fesul cod goddrychol fod yn fwy amserol ar y cyfriflyfr cyffredinol cyllid nag ydynt I niferoedd y staff mewn swydd trwy ESR. Felly, efallai y bydd anghysondeb bach yn nifer y swyddi gwag yr adroddir amdanynt a nifer gwirioneddol y swyddi gwag ar y dyddiad cyfeirio.
  10. Nid yw pob gwasanaeth o fewn byrddau iechyd lleol yn anelu at recriwtio'r nifer llawn o staff FTE sydd wedi'u cyllidebu. Gall rhai gwasanaethau ddewis defnyddio cyllideb eu staff yn hyblyg I gyflawni eu blaenoriaethau a/neu gallant ddewis defnyddio eu cronfa o staff dros dro (banc nyrsys, staff locwm, asiantaeth) yn hyblyg drwy gydol y flwyddyn wrth I'r galw ar y gwasanaeth newid. Felly, mae nifer bach o'r ‘swyddi gwag’ yr adroddwyd arnynt wedi'u cynllunio mewn rhai amgylchiadau.
  11. Mae dyrannu staff I god goddrychol yn y cyfriflyfr cyffredinol cyllid ac ar ESR yn cynnwys prosesau llaw a gall arwain at gamgymhariad o godau goddrychol rhwng y ddwy ffynhonnell.
  12. Mae'n debygol y bydd effeithiau tymhorol ar nifer y swyddi gwag a'r gyfradd swyddi gwag, sy'n effeithio'n benodol ar grwpiau staff ‘meddygol a deintyddol’ a ‘nyrsys, bydwreigiaeth ac ymwelwyr iechyd cofrestredig’ wrth I staff sydd newydd gymhwyso raddio (a dod ar gael I'w recriwtio) ar adegau penodol o'r flwyddyn yn unig.
Talgrynnu wedi'i wneud

Mae’r canrannau yn y datganiad hwn wedi’u talgrynnu i’r 0.1 agosaf. Mae’r newidiadau mewn pwyntiau canran wedi’u cyfrifo ar sail y rhifau heb eu talgrynnu.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru