Eitemau presgripsiwn a chostau yn ôl mesur (presgripsiynau practisau cyffredinol, ac eitemau a ddosberthir yn y gymuned) yn ôl pennod BNF

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

4 o 4 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn
24 o 24 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Pennod
22 o 22 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewiswch newidyn ar gyfer colofnau'r tabl

Bydd gwerthoedd y newidyn hwn yn mynd ar draws brig eich tabl. Er enghraifft, ar gyfer newidyn sy'n cynnwys blynyddoedd, byddai gan bob blwyddyn ei golofn ei hun. Gallwch ddewis newidyn yn y ddewislen 'Hidlyddion newidynnau' i weld pa werthoedd sydd ynddo.

Disgwylir y diweddariad nesaf:Medi 2026

Diweddariadau

6ed Hydref 2025
30ain Medi 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data
Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Ffynhonnell y data
Gwasanaethau Presgripsiwn
Cyfnod amser dan sylw
Ebrill 2001 i Mawrth 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae 'eitemau' yn cyfeirio at bob un eitem wahanol o feddyginiaeth neu gyfarpar a restrir ar bresgripsiwn, waeth beth fo'r swm neu'r cyfaint. Dim ond eitemau sy'n cael eu cyflenwi sy'n cael eu cyfrif. Cost net cynhwysion, wedi'i mesur mewn punnoedd sterling, yw cost sylfaenol yr eitem, cyn unrhyw ffioedd ychwanegol (er enghraifft, ffioedd cyflenwi i fferyllfeydd) neu ostyngiadau (adfachiadau'r GIG). Mae 'eitemau a bresgripsiynir gan feddygon teulu' yn cyfrif eitemau sy'n cael eu presgripsiynu gan unrhyw aelod o staff practis cyffredinol yn Nghymru sy'n gymwys i wneud hynny, sy'n cael eu cyflenwi wedyn yn y gymuned yn y DU. Dyma'r prif fesur a ddefnyddir ar gyfer presgripsiynu yng Nghymru gan fod y data’n dangos yr hyn sy’n cael ei roi ar bresgripsiwn i bobl sydd wedi cofrestru â phractisau meddygon teulu yng Nghymru, a bod polisïau'r byrddau iechyd yn monitro'r gweithgarwch hwn ac yn dylanwadu arno. Mae 'eitemau a gyflenwir yn y gymuned' yn cyfrif eitemau a bresgripsiynir yn unrhyw le yn y DU, sy'n cael eu cyflenwi wedyn yn y gymuned yng Nghymru. Dylid defnyddio'r mesur hwn at ddibenion mwy penodol pan fo diddordeb gan ddefnyddwyr yn yr eitemau a gyflenwyd yng Nghymru yn unig, ac wrth wneud cymariaethau uniongyrchol rhwng gwahanol wledydd y DU.

Cyfrifo neu gasglu data

Daw'r data am bresgripsiynau i law oddi wrth Wasanaethau Presgripsiynu Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ac maent yn seiliedig ar yr wybodaeth ar ffurflenni presgripsiwn a anfonir gan bresgripsiynwyr i gael eu talu.

Ansawdd ystadegol

Mae nodiadau manwl, cefndir a diffiniadau i'w gweld yn y datganiad ystadegol a'r adroddiad ansawdd cysylltiedig.

Adroddiadau cysylltiedig

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru