Enedigaethau byw i drigolion Cymru, yn ôl statws Dechrau’n Deg ac awdurdod lleol

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Awdurdod lleol
23 o 23 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn
10 o 10 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Statws Dechrau’n Deg
3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Hydref 2027

Diweddariadau

23ain Medi 2026

Mae’r diweddariad hwn yn cynnwys data’r flwyddyn ddiweddaraf. Mae'r diweddariad hwn yn cynnwys newid i deitl y set ddata.

15fed Medi 2026

Tynnwyd y côd llaw fer [t] o’r data

8fed Hydref 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data
Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)
Ffynhonnell y data
Cronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD)
Cyfnod amser dan sylw
Ionawr 2016 i Rhagfyr 2025
ID y set ddata
abe99fe2-7f70-4334-aec4-64c46f7890cc

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r set ddata hon yn darparu nifer y genedigaethau byw i breswylwyr Cymru sy'n byw mewn ardaloedd Dechrau'n Deg ac mewn ardaloedd nad ydynt yn rhai Dechrau'n Deg, wedi'u rhannu yn ôl awdurdod lleol. Mae hyn yn ôl blwyddyn galendr (mis Ionawr i fis Rhagfyr).

Rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer y blynyddoedd cynnar yw Dechrau'n Deg, a ddarperir gan awdurdodau lleol sy'n cynnig cymorth i deuluoedd â phlant pedair oed ac iau, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig, gyda'r nod o wella canlyniadau i blant a'u teuluoedd.

Mae’r rhaglen yn darparu pecyn o gymorth sy'n cynnwys gofal plant rhan-amser a ariennir o safon i blant 2 oed; cymorth rhianta; cymorth gwell gan ymwelwyr iechyd; a chymorth gwasanaethau lleferydd, iaith a chyfathrebu.

Cafodd Dechrau’n Deg ei lansio yn 2006, a cafodd pob un o bedair elfen Dechrau'n Deg ei ehangu i fwy o deuluoedd ym mis Medi 2022.

Cyfrifo neu gasglu data

Prif ffynhonnell y data a ddefnyddiwyd yn y datganiad ystadegol hwn yw’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol. Mae’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn cynnwys cofnodion dienw ar gyfer yr holl blant a anwyd yng Nghymru, yr holl blant sy’n byw yng Nghymru neu’r holl blant sydd wedi’u trin yng Nghymru ac a anwyd ar ôl 1987. Mae’r set ddata’n cyfuno data a gynhwysir yng nghronfeydd data’r System Iechyd Plant Cymunedol leol a gedwir gan fyrddau iechyd lleol.

Mae cyfanswm Cymru yn y tabl hwn yn cynnwys genedigaethau lle na nodwyd enw'r awdurdod lleol, ac felly nid yw'n gyfwerth â chyfanswm yr awdurdodau lleol.

Mae rhagor o wybodaeth am ffynonellau data a newidiadau i ddarpariaeth gwasanaethau Dechrau'n Deg oherwydd y pandemig ar gael yn yr adran adroddiad ansawdd.

Ansawdd ystadegol

Nid oes unrhyw faterion penodol o ran ansawdd ystadegol mewn perthynas â’r data hwn. Am faterion cyffredinol o ran ansawdd ystadegol sy’n ymwneud â’r set ddata genedigaethau, gweler yr adroddiad ansawdd ystadegau mamolaeth a genedigaethau.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru