Ardrethi annomestig gwirioneddol yn ôl awdurdod lleol
Disgwylir y diweddariad nesaf:Ebrill 2027
Diweddariadau
- 15fed Ebrill 2026
Mae data 2024-25 wedi'u hychwanegu.
Mae rhesi cyfansymiau ar gyfer rhyddhadau gorfodol a dewisol wedi'u hychwanegu er hwylustod i ddefnyddwyr.
- 14eg Ionawr 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data
- Awdurdodau Lleol
- Ffynhonnell y data
- Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
- Cyfnod amser dan sylw
- Ebrill 1996 i Mawrth 2025
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae'r ystadegau hyn yn rhoi manylion y symiau o ardrethi annomestig a gasglodd yr awdurdodau lleol yn y flwyddyn ariannol.
Mae ardrethi annomestig, y cyfeirir atynt yn aml fel ardrethi busnes, yn dreth leol y mae perchnogion neu feddianwyr (‘talwyr ardrethi’) eiddo annomestig yn cyfrannu'n ariannol at ddarparu gwasanaethau lleol drwyddi.
Caiff y bil ardrethi annomestig ar gyfer pob eiddo ei gyfrifo drwy gymryd ei werth ardrethol a'i luosi â'r ‘lluosydd ardrethi annomestig' ar gyfer y flwyddyn dan sylw. Mae gwahanol ryddhadau ar gael hefyd er mwyn helpu talwyr ardrethi. Os bydd talwr ardrethi yn gymwys i gael rhyddhad, bydd hyn hefyd yn lleihau'r bil ardrethi ar gyfer yr eiddo.
Caiff yr holl refeniw ardrethi annomestig a gesglir gan awdurdodau bilio ei dalu i ‘Gronfa Ardrethi Annomestig’ Llywodraeth Cymru. Caiff arian a gesglir o'r rhestr ganolog ei ychwanegu at y gronfa hon hefyd. Yna, caiff yr holl refeniw ei ddosbarthu i'r awdurdodau bilio fel rhan o setliad refeniw llywodraeth leol bob blwyddyn. Caiff y gronfa ei rhannu rhwng y 22 o gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol a’r pedwar comisiynydd yr heddlu a throseddu a'i dosbarthu rhwng pob awdurdod yn ôl cyfrannau o'r boblogaeth oedolion.
- Cyfrifo neu gasglu data
Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma wedi'i chymryd o'r datganiadau ariannol NDR3 blynyddol a gyflwynwyd gan y 22 awdurdod bilio yng Nghymru.
- Ansawdd ystadegol
Mae gwybodaeth lawn am ansawdd y data sy'n ymwneud â'r holl gyhoeddiadau Cyllid Llywodraeth Leol ar gael yn yr adroddiad ansawdd ystadegol
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- localtaxationpolicy@llyw.cymru