Gweithgarwch orthodonteg yn ôl statws triniaeth ac oedran y claf
Disgwylir y diweddariad nesaf:Hydref 2026
Diweddariadau
- 20ain Tachwedd 2025
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data
- Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG
- Ffynhonnell y data
- Gwasanaethau deintyddol
- Cyfnod amser dan sylw
- Ebrill 2010 i Mawrth 2025
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn dangos nifer y ffurfiau FP17WO yn ôl statws triniaeth ac oedran y claf. Mae orthodonteg yn faes deintyddol arbenigol sy'n ymwneud â thwf a datblygiad y dannedd a'r genau, ac atal a thrin annormaleddau yn y datblygiad hwn, felly mae'r rhan fwyaf o gleifion yn blant.
- Cyfrifo neu gasglu data
Mae’r data yn seiliedig ar ffurflenni orthodonteg (FP17WO) a gyflwynwyd gan ddeintyddion i’w talu.
Mae’r data yn cyfeirio at bob blwyddyn ariannol, lle y mae FP17WO wedi’u trefnu rhwng mis Ebrill a mis Mehefin a dyddiad cwblhau’r driniaeth neu’r ymweliad diwethaf rhwng 1 Ebrill a 31 Mawrth.
Mae oedran y claf yn cyfeirio at oedran y claf ar ddyddiad derbyn triniaeth, fel y’i cofnodwyd ar y ffurflen FP17WO.
Ffurflenni gydag Asesu a Chyfarpar wedi’u Gosod: Dyma gyfrif o nifer y ffurflenni a gyflwynwyd lle y mae’r blwch asesu a derbyn wedi’i dicio a’r dyddiad y dechreuodd y driniaeth wedi’i nodi ar y ffurflen FP17WO. I bob pwrpas, dyma nifer y triniaethau a gychwynnwyd.
Ffurflenni gydag Asesu ac Adolygu: Dyma gyfrif o nifer y ffurflenni a gyflwynwyd lle y mae’r blwch asesu ac adolygu yn rhan 5 o’r ffurflen FP17WO wedi’i dicio.
Ffurflenni gydag Asesu a Gwrthod Triniaeth: Dyma gyfrif o nifer y ffurflenni a gyflwynwyd lle y mae’r blwch asesu a gwrthod triniaeth yn rhan 5 o’r ffurflen FP17WO wedi’i dicio.
Ffurflenni gyda Thriniaeth wedi’i Chwblhau: Dyma gyfrif o nifer y ffurflenni lle y mae’r blwch triniaeth wedi’i gwblhau yn rhan 6 o’r ffurflen FP17WO wedi’i dicio. Rhaid cynnwys y dyddiad cwblhau a’r sgôr mynegai angen triniaeth orthodontig (IOTN) wrth gwblhau’r driniaeth.
Ffurflenni gyda Thriniaeth wedi’i Gadael: Dyma gyfrif o nifer y ffurflenni lle y mae’r blwch triniaeth wedi’i gadael yn rhan 6 o’r ffurflen FP17WO wedi’i dicio. Gellid ystyried bod triniaeth wedi’i gadael os na wnaeth y claf fynd i’w apwyntiad nesaf neu ar gais y claf.
Ffurflenni gyda Thriniaeth wedi’i Therfynu: Dyma gyfrif o nifer y ffurflenni lle y mae’r blwch triniaeth wedi’i therfynu yn rhan 6 o’r ffurflen FP17WO wedi’i dicio. Mae hyn yn digwydd pan fydd yr ymarferydd (deintydd) yn penderfynu y dylid terfynu triniaeth weithredol. Rhaid cynnwys dyddiad yr ymweliad diwethaf a’r sgôr mynegai angen triniaeth orthodontig (IOTN) neu nodi nad yw sgôr IOTN yn berthnasol.
Ffurflenni gydag Atgyweirio i Gyfarpar wedi’u Gosod gan Ddeintydd arall: Dyma gyfrif o nifer y ffurflenni a gyflwynwyd lle y mae’r blwch atgyweirio i gyfarpar wedi’u gosod gan ddeintydd arall yn rhan 6 o’r ffurflen FP17WO wedi’i dicio.
Ffurflenni gyda Chyfarpar Newydd Orthodontig Rheoliad 11: Dyma gyfrif o nifer y ffurflenni a gyflwynwyd lle y mae’r blwch cyfarpar newydd Rheoliad 11 yn rhan 6 o’r ffurflen FP17WO wedi’i dicio. Yn yr achos hwn, rhoi cyfarpar newydd yn lle cyfarpar orthodontig y GIG sydd wedi’i golli neu ei dorri.
Cyfanswm y Ffurflenni: Dyma gyfrif o nifer y FP17WOau sydd wedi’u trefnu, gan gynnwys addasiadau ar gyfer FP17WOau sydd wedi’u diwygio neu eu dileu. Nid yw FP17WOau a dynnwyd yn ôl wedi’u cynnwys yng nghyfanswm y FP17WOau.
- Ansawdd ystadegol
Dewch o hyd i'r wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol ac adroddiad ansawdd cysylltiedig, fel y dangosir yn y ddolen a ddarparwyd.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.iechyd@llyw.cymru