Arolwg Poblogaeth Blynyddol: ethnigrwydd yn ôl ardal a blwyddyn

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn sy'n dod i ben ar
77 o 77 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ardal
23 o 23 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ethnigrwydd
3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Mawrth 2026

Diweddariadau

16eg Ionawr 2026
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data 1
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
Ffynhonnell y data 1
Arolwg o'r Llafurlu (LFS)
Darparwr data 2
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
Ffynhonnell y data 2
Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (APS)
Cyfnod amser dan sylw
Rhagfyr 2001 i Rhagfyr 2023

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r set ddata hon yn rhoi gwybodaeth am ethnigrwydd pobl yn ôl awdurdod lleol yng Nghymru.

Mae canran y bobl sy'n Ddu, Asiaidd a lleiafrif ethnig yn seiliedig ar y rhai a atebodd y cwestiwn yn unig.

Cyfrifo neu gasglu data

Cymerir y data hyn o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth ar gyfer 2005 ymlaen ac Arolwg Llafurlu Lleol Cymru cyn hynny. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) sy'n cynnal yr arolygon hyn.

Mae'r arolwg yn gofyn i'r ymatebwyr beth maent yn barnu yw eu tarddiad ethnig. Mae'r tabl hwn yn cyfuno rhai grwpiau ethnig i'r categori “Du, Asiaidd a lleiafrif ethnig” er mwyn cynyddu dibynadwyedd yr amcangyfrifon. Mae'r categori hwn yn cynnwys:

  • Grwpiau ethnig cymysg/aml-ethnig
  • Asiaidd/Asiaidd Prydeinig
  • Du/Affricanaidd/Caribïaidd/Du Prydeinig
  • Tsieineaidd
  • Arabaidd
  • Grŵp ethnig arall
Ansawdd ystadegol

Gan fod y data'n dod o arolwg, mae'r canlyniadau'n amcangyfrifon wedi'u seilio ar samplau ac felly'n destun graddau gwahanol o amrywioldeb samplu, h.y. mae'r gwir werth ar gyfer unrhyw fesur mewn ystod wahanol o amgylch y gwerth amcangyfrifedig. Mae'r ystod neu amrywioldeb samplu hwn yn cynyddu wrth i'r manylder yn y data gynyddu, er enghraifft mae mwy o amrywioldeb yn nata awdurdodau lleol nag yn y data rhanbarthol.

Mae data sy'n seiliedig ar lai na 10 o ymatebion arolwg wedi cael ei atal, ac mae data sy'n seiliedig ar lai na 40 o ymatebion arolwg wedi cael ei nodi ei fod o ansawdd gwael. Mae data ar gyfer 2011 C1-3 wedi ei dynnu oherwydd newid yn y cwestiynau sydd wedi arwain at doriad yn y gyfres.

Nomis yw'r porth swyddogol y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer ystadegau'r farchnad lafur. Sylwer y gall rhai amcangyfrifon o Nomis ar gyfer yr APS fod yn ychydig yn wahanol i'r rhai a gyflwynir yma, oherwydd y gwahaniaethau yn y ffordd mae’r daearyddiaethau awdurdodau lleol yn cael eu hadeiladu

Talgrynnu wedi'i wneud

Mae'r cyfrifiadau wedi'u talgrynnu i'r cant agosaf. Mae'r canrannau wedi'u talgrynnu i'r 0.1% agosaf.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru