Tanau a fynychwyd yn ôl cymhelliad, lleoliad, categori, blwyddyn ariannol, ac awdurdod tân ac achub
Disgwylir y diweddariad nesaf:Hydref 2027
Diweddariadau
- 6ed Hydref 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol achrededig
- Darparwr data
- Y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraethau Lleol
- Ffynhonnell y data
- Platfform Data Tân ac Achub
- Cyfnod amser dan sylw
- Ebrill 2009 i Mawrth 2026
- ID y set ddata
- a2d25473-5509-4edc-ba58-545a762f2907
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae’r tabl yn dangos nifer y tanau yn ôl categori, math o leoliad, cymhelliad, awdurdod tân ac achub a blwyddyn ariannol.
Mae’r categori tân yn cynnwys prif danau, tanau eilaidd a thanau simneiau.
Mae prif danau yn cynnwys yr holl danau mewn adeiladau nad ydynt wedi dadfeilio a cherbydau neu mewn strwythurau awyr agored, neu unrhyw dân sy’n cynnwys anafusion, ymgais i achub pobl, neu danau y mae pump neu ragor o gerbydau tân yn ymateb iddynt.
Tanau eilaidd yw’r rhan fwyaf o danau awyr agored, gan gynnwys tanau glaswelltir a sbwriel oni bai bod anafusion neu angen achub pobl, eiddo a gollir neu lle y mae pump neu ragor o gerbydau tân yn ymateb iddynt. Maent yn cynnwys tanau mewn adeiladau adfeiliedig sengl.
- Cyfrifo neu gasglu data
Gan ddechrau yn y flwyddyn ariannol 2025-26, mae data wedi’u hechdynnu o’r Platfform Data Tân ac Achub (FaRDaP) a weinyddir gan y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol.
Rhwng 2009-10 a 2024-25, echdynnwyd data o’r System Cofnodi Digwyddiadau (IRS).
Mae “annedd arall” yn cynnwys “cwch preswyl”, “adeilad ag anheddau lluosog”, “palas brenhinol”, “plasdy”, a “castell”, yn ogystal â digwyddiadau a gofnodir gan ddefnyddio’r categori “annedd arall”.
- Ansawdd ystadegol
Mae FaRDaP (a’r IRS cyn hynny) yn system fyw ac felly mae’n bosibl na fydd data a echdynnwyd ar adeg wahanol yn cyfateb i’r ffigurau yn y tabl hwn. Adolygir y data bob blwyddyn, ac mae’r data ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiweddaraf wedi’u marcio fel data dros dro.
Gweler yr Adroddiad Ansawdd am ragor o wybodaeth.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru