Achosion a fynychwyd yn ôl categori, blwyddyn ariannol, ac awdurdod tân ac achub
Disgwylir y diweddariad nesaf:Hydref 2027
Diweddariadau
- 6ed Hydref 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol achrededig
- Darparwr data
- Y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraethau Lleol
- Ffynhonnell y data
- Platfform Data Tân ac Achub
- Cyfnod amser dan sylw
- Ebrill 2009 i Mawrth 2026
- ID y set ddata
- a28a2b6e-b937-491c-9336-ab7c5752dec1
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae’r tabl yn dangos nifer y digwyddiadau yr ymatebodd y gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru iddynt, yn ôl y categorïau digwyddiad, awdurdod tân ac achub a blwyddyn ariannol.
Mae’r categori digwyddiad yn cynnwys tanau, galwadau tân diangen, Digwyddiadau Gwasanaeth Arbennig a’r galwadau Digwyddiadau Gwasanaeth Arbennig diangen.
Mae’r digwyddiadau o danau wedi’u dadansoddi ymhellach i ddangos nifer y prif danau, tanau eilaidd a thanau simneiau.
Mae prif danau yn cynnwys yr holl danau mewn adeiladau nad ydynt wedi dadfeilio a cherbydau neu mewn strwythurau awyr agored, neu unrhyw dân sy’n cynnwys anafusion, ymgais i achub pobl, neu danau y mae pump neu ragor o gerbydau tân yn ymateb iddynt.
Tanau eilaidd yw’r rhan fwyaf o danau awyr agored, gan gynnwys tanau glaswelltir a sbwriel oni bai bod anafusion neu angen achub pobl, eiddo a gollir neu lle y mae pump neu ragor o gerbydau tân yn ymateb iddynt. Maent yn cynnwys tanau mewn adeiladau adfeiliedig sengl.
- Cyfrifo neu gasglu data
Gan ddechrau yn y flwyddyn ariannol 2025-26, mae data wedi’u hechdynnu o’r Platfform Data Tân ac Achub (FaRDaP) a weinyddir gan y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol.
Rhwng 2009-10 a 2024-25, echdynnwyd data o’r System Cofnodi Digwyddiadau (IRS).
- Ansawdd ystadegol
Mae FaRDaP (a’r IRS cyn hynny) yn system fyw ac felly mae’n bosibl na fydd data a echdynnwyd ar adeg wahanol yn cyfateb i’r ffigurau yn y tabl hwn. Adolygir y data bob blwyddyn, ac mae’r data ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiweddaraf wedi’u marcio fel data dros dro.
Gweler yr Adroddiad Ansawdd am ragor o wybodaeth.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru