Amcanestyniadau aelwydydd yn seiliedig ar 2022 yn ôl awdurdod lleol, math o aelwyd, blwyddyn ac amrywiolyn

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn
26 o 26 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ardal
23 o 23 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Math o aelwyd
16 o 16 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Amrywiolyn
6 o 6 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Ni ddisgwylir i'r set ddata hon gael ei diweddaru, ond disgwylir iddi gael ei disodli yn y dyfodol

Diweddariadau

20ain Tachwedd 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol achrededig
Darparwr data 1
Llywodraeth Cymru
Ffynhonnell y data 1
Amcanestyniadau poblogaeth ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru
Darparwr data 2
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
Ffynhonnell y data 2
Cyfrifiad 2001
Darparwr data 3
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
Ffynhonnell y data 3
Cyfrifiad 2011
Darparwr data 4
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
Ffynhonnell y data 4
Cyfrifiad 2021

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r set ddata hon yn dangos amcanestyniadau aelwydydd ar gyfer Cymru. Mae'n rhoi syniad o'r nifer a mathau o aelwydydd yn y dyfodol. Mae'r amcanestyniadau ar gael ar gyfer y cyfnod 2022 i 2047. Nid ydynt yn rhagfynegiad na rhagolwg o faint o dai y dylid eu hadeiladu yn y dyfodol. Yn hytrach, maent yn dangos beth allai ddigwydd os bydd tueddiadau'r gorffennol yn parhau.

Mae'r set ddata yn cynnwys niferoedd yr aelwydydd a amcanestynnir ar gyfer pob canol blwyddyn ac ardal. Mae math o aelwyd yn disgrifio cyfansoddiad yr aelwyd, fel nifer y bobl ac a oes plant ai peidio.

Ar gyfer yr amrywiolion, mae prif amcanestyniad a phum amcanestyniad amrywiadol yn ychwanegol. Mae'r amrywiolion hyn yn seiliedig ar wahanol dybiaethau ynglŷn â thueddiadau ffrwythlondeb, marwolaethau a mudo. Maent yn cynnwys amrywiolion poblogaeth isel, poblogaeth uchel, mudo cyfartalog 10 mlynedd, mudo cyfartalog 15 mlynedd a dim mudo.

Cyfrifo neu gasglu data

Cynhyrchir yr amcanestyniadau aelwydydd ar gyfer Cymru gan Wasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi, Llywodraeth Cymru. Datblygwyd y dulliau ar y cyd â grŵp Amcanestyniadau Is-genedlaethol Cymru (WaSP). Mae aelodau WaSP yn cynnwys cynrychiolwyr sydd â phrofiad o ddata demograffig a thai o awdurdodau lleol Cymru, Data Cymru a Llywodraeth Cymru.

Mae amcanestyniadau aelwydydd yn destun ansicrwydd ac yn seiliedig ar ragdybiaethau am dueddiadau yn y dyfodol o ran y boblogaeth a mathau o aelwydydd. Nid rhagolygon yw’r amcanestyniadau hyn. Nid ydynt yn ceisio rhagweld yr effaith y gallai polisïau’r llywodraeth yn y dyfodol, newid mewn amgylchiadau economaidd, na chwaith ffactorau eraill fel nifer y cartrefi a adeiladir, ei chael ar nifer yr aelwydydd. Yn hytrach, maent yn dangos faint o aelwydydd ychwanegol fyddai’n cael eu ffurfio pe bai poblogaeth Cymru yn parhau i newid fel y gwnaeth rhwng canol 2018 a chanol 2022, ac yn parhau i ffurfio aelwydydd fel y gwnaeth rhwng 2001, 2011 a 2021.

Mae’r amcanestyniadau aelwydydd hyn yn defnyddio data am gyfraddau aelodaeth aelwydydd o’r cyfrifiadau poblogaeth diweddaraf sydd ar gael ac yn eu cymhwyso i’r amcanestyniadau o boblogaeth awdurdodau lleol diweddaraf.

Rydym wedi gwneud rhai newidiadau i'r dulliau ar gyfer cyfrifo'r amcanestyniadau hyn. Ceir rhagor o wybodaeth yn y datganiad amcanestyniadau aelwydydd awdurdod lleol.

Gall amcanestyniadau aelwydydd fod yn wahanol i amcangyfrifon aelwydydd sydd eisoes wedi eu cyhoeddi nawr ac yn y dyfodol agos. Rydym yn argymell defnyddio'r amcangyfrifon aelwydydd diweddaraf ar gyfer pob blwyddyn lle maent ar gael.

Ansawdd ystadegol

Mae'r amcanestyniadau aelwydydd yn seiliedig ar dybiaethau am dueddiadau'r dyfodol. Nid rhagolygon ydynt a byddant yn wahanol i'r amcangyfrifon gwirioneddol yn y dyfodol.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag ansawdd yr ystadegau, gweler y datganiad ystadegol sydd yn yr 'Adroddiadau cysylltiedig'. Mae'r datganiad hwn yn egluro'r dulliau, y rhagdybiaethau ac unrhyw gyfyngiadau.

Talgrynnu wedi'i wneud

Mae'r amcanestyniadau aelwydydd wedi'u talgrynnu i'r rhif cyfan agosaf.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru