Data dangosyddion Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2019 fesul Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is (AGEHI) ac awdurdod lleol: maes iechyd

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Cod ardal
1932 o 1932 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Enw ardal
1932 o 1932 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Dangosydd
7 o 7 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Ni ddisgwylir i'r set ddata hon gael ei diweddaru, na'i disodli yn y dyfodol

Diweddariadau

16eg Ionawr 2026
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol achrededig
Darparwr data 1
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
Ffynhonnell y data 1
Cyfrifiad 2011
Darparwr data 2
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
Ffynhonnell y data 2
Amcangyfrifon poblogaeth canol-blwyddyn
Darparwr data 3
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
Ffynhonnell y data 3
Cofrestriadau genedigaeth
Darparwr data 4
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
Ffynhonnell y data 4
Cofrestriadau marwolaethau
Darparwr data 5
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Ffynhonnell y data 5
Rhaglen Mesur Plant (RMP) Cymru
Darparwr data 6
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Ffynhonnell y data 6
Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru (WCISU)
Darparwr data 7
Weinyddiaeth Gyfiawnder
Ffynhonnell y data 7
Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Nodyn: nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: am y data diweddaraf ewch i Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2025 adroddiad canlyniadau.

Roedd y rhifyn 2019 wedi raddio pob un o’r 1,909 Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (LSOAs a ddiffinnir ar ôl Cyfrifiad 2011) o’r mwyaf (gradd 1) i’r lleiaf (gradd 1,909) difreintiedig. Mae'n cyfuno 47 o ddangosyddion wedi'u grwpio o dan 8 maes sydd â'r pwysau canlynol yn y mynegai cyffredinol: Incwm (22%), Cyflogaeth (22%), Iechyd (15%), Addysg (14%), Mynediad at Wasanaethau (10%), Tai (7%), Diogelwch Cymunedol (5%), a'r Amgylchedd Ffisegol (5%).

Mae'r data sydd yma ar gyfer dangosyddion sylfaenol sy'n bwydo i mewn i fynegai amddifadedd lluosog Cymru 2019.

Mae'r tabl hwn yn cynnwys data ar gyfer y 7 dangosydd sy'n ffurfio'r maes iechyd. Mae'r holl ddangosyddion yn cael eu talgrynnu i un lle degol.

Mae amcangyfrifon dangosyddion awdurdodau lleol wedi'u cynhyrchu lle mae'r data gwreiddiol yn caniatáu i’w hagregu i ddaearyddiaethau uwchben lefel ACEHI. Lle nad yw hyn yn bosibl ar gyfer dangosydd penodol, bydd cofnodion data awdurdod lleol yn dangos [x] yn y golofn Data.

Cyfrifo neu gasglu data

Diben y maes hwn yw casglu gwybodaeth am amddifadedd sy'n ymwneud ag iechyd gwael. Mae gan y maes bwysoliad cymharol o 15% yn y mynegai cyffredinol. Mae'r ffigur hwn wedi cynyddu o 14% ym mynegai 2014, o ganlyniad i ychwanegu tri dangosydd newydd sy'n casglu gwybodaeth am ystod ehangach o gyflyrau sy'n gysylltiedig ag iechyd. Mae saith dangosydd yn y maes iechyd, sydd wedi'u pwysoli fel a ganlyn.

  • 31% Cyflyrau cronig a gofnodwyd gan feddygon teulu (cyfradd fesul 100), wedi'i safoni yn ôl oedran-rhyw
  • 30% Salwch hirdymor cyfyngol (cyfradd fesul 100), wedi'i safoni yn ôl oedran-rhyw
  • 18% Marwolaethau cynamserol (cyfradd fesul 100,000), wedi'i safoni yn ôl oedran-rhyw
  • 10% Cyflyrau iechyd meddwl a gofnodwyd gan feddygon teulu (cyfradd fesul 100), wedi'i safoni yn ôl oedran-rhyw
  • 4% Achosion o ganser (cyfradd fesul 100,000), wedi'i safoni yn ôl oedran-rhyw
  • 4% Pwysau geni isel (genedigaethau byw sengl sy'n llai na 2.5 Kg, canran)
  • 3% Plant 4-5 oed sy'n ordew (canran)

Cymhwyswyd proses safoni yn ôl oedran-rhyw anuniongyrchol at bump o'r dangosyddion, er mwyn addasu ar gyfer gwahanol ddosbarthiadau oedran a rhyw ymhlith poblogaethau ardaloedd bach. Er enghraifft, byddid yn disgwyl gweld cyfradd marwolaethau uwch mewn poblogaeth sy'n heneiddio nag mewn un sy'n cynnwys teuluoedd ifanc yn bennaf. Mae safoni yn ceisio addasu ar gyfer ygwahaniaethau hyn yn y boblogaeth.

Ar gyfer pob dangosydd, cafodd pob ardal ei rhoi mewn trefn restrol, gyda'r ardal fwyaf difreintiedig yn y safle 1af a'r ardal leiaf difreintiedig yn safle 1,909. Cafodd y safleoedd hyn eu pennu i wasgariad normal, gyda safleoedd isel yn cael gwerth wedi'i normaleiddio isel. Wedyn, defnyddiwyd y dechneg dadansoddi ffactorau i gyfrifo pwysoliadau'r dangosyddion. Fel gyda phob maes, cafodd safleoedd terfynol y meysydd eu trawsffurfio'n esbonyddol i roi sgoriau meysydd i'w defnyddio wrth gyfrifo mynegai cyffredinol MALlC 2019.

Ansawdd ystadegol

Mae data MALlC 2019 wedi'u cynhyrchu gan ystadegwyr proffesiynol gan ddefnyddio'r data diweddaraf, dulliau dadansoddol trylwyr, a dilysu annibynnol ar bob cam. Mae MALlC 2019 yn adeiladu ar fersiynau blaenorol i sicrhau cywirdeb a dibynadwyedd, gan gyfuno 47 o ddangosyddion o ffynonellau amrywiol (mae rhai, ond nid pob un ohonynt, yn seiliedig ar ffynonellau ystadegau swyddogol) i leihau rhagfarn a chryfhau cadernid. Roedd sicrhau ansawdd yn cynnwys gwiriadau lluosog, atgynhyrchu canlyniadau, ac adolygiad arbenigol gydag arbenigwyr maes ac awdurdodau lleol.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru