Canlyniad apwyntiadau WGOS 4 yn ôl y math o glefyd a bwrdd iechyd
Disgwylir y diweddariad nesaf:Hydref 2027
Diweddariadau
- 8fed Hydref 2026
Diweddariad data ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26
- 9fed Ionawr 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data
- Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
- Ffynhonnell y data
- Cyflwyno Ffurflenni Microsoft
- Cyfnod amser dan sylw
- Ebrill 2024 i Mawrth 2026
- ID y set ddata
- 9f086ccb-28c5-454e-82fd-d11075d52146
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae’r set ddata hon yn dangos nifer yr apwyntiadau Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol Cymru (WGOS) 4 yng Nghymru yn ôl canlyniad yr apwyntiad, math o glefyd y llygad, bwrdd iechyd a blwyddyn ariannol. Ar gyfer pob math o glefyd, dangosir hefyd ganran yr apwyntiadau yn ôl canlyniad yr apwyntiad.
Mae WGOS 4 yn wasanaeth lle mae cleifion a fyddai gynt wedi cael eu hatgyfeirio at Wasanaeth Llygaid yr Ysbyty (HES) neu eu rheoli yno, yn lle hynny yn aros mewn gofal sylfaenol ar gyfer asesiad estynedig pellach fel rhan o lwybr mireinio atgyfeiriadau neu fonitro y cytunwyd arno.
Mae’r canlyniadau’n cynnwys rhyddhau, atgyfeirio at Wasanaethau Llygaid yr Ysbyty (HES) ac atgyfeirio at WGOS 4.
- Cyfrifo neu gasglu data
Caiff hawliadau WGOS 4 eu cyflwyno'n electronig drwy ffurflenni Microsoft i Bartneriaeth Cydwasanaethau'r GIG a'u lanlwytho i'w system taliadau K2.
Mae categorïau canlyniad yr apwyntiad wedi'u dosbarthu fel a ganlyn o'r data crai:
Atgyfeiriwyd i WGOS 4: yn cynnwys 'WGOS 4' a 'WGOS 4 gyda hawliau rhagnodi annibynnol (IP) wedi'u defnyddio i atal atgyfeiriad ymlaen i HES'.
Atgyfeiriwyd i'r ysbyty: yn cynnwys 'Atgyfeiriad i HES' ac 'Atgyfeirio i HES am wenwyndra posibl neu bendant'.
Rhyddhawyd: yn cynnwys 'Rhyddhau' a 'Rhyddhau gyda hawliau rhagnodi annibynnol (IP) wedi'u defnyddio i atal atgyfeiriad ymlaen i HES'.
Yn ogystal, mae categorïau ar wahân ar gyfer 'Dim atgyfeiriad i HES' ac 'Adroddiad wedi'i anfon at y meddyg rhagnodi' (sy'n gysylltiedig â nifer fach o apwyntiadau).
- Ansawdd ystadegol
Nid yw data blwyddyn ariannol 2024 i 2025 yn uniongyrchol gymaradwy â data blwyddyn ariannol 2025 i 2026 ymlaen, gan fod WGOS 4 wedi’i gyflwyno ar adegau gwahanol ar draws byrddau iechyd yn ystod blwyddyn ariannol 2024 i 2025.
Mae apwyntiadau lle nad yw’r math o glefyd wedi’i gofnodi yn ymwneud â chleifion hydroxychloroquine (HCQ).
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.iechyd@llyw.cymru