Amcangyfrif o nifer yr apwyntiadau a fynychwyd mewn practisau cyffredinol yn ôl cyfuniad o ddull, math o ymarferydd a'r rheswm dros yr apwyntiad, a mis

Hidlwyr

Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Modd
5 o 5 wedi'u dewis
Moth o ymarferwr
5 o 5 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Rheswm
4 o 4 wedi'u dewis
Dyddiad
55 o 55 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Crynodeb o newidynnau a gwerthoedd a ddewiswyd
NewidynGwelededdGwerthoedd a ddewiswydGweithred
Disgrifiad o’r dataWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 2 gwerthNewid gwerthoedd
ModdWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 5 gwerthNewid gwerthoedd
Moth o ymarferwrWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 5 gwerthNewid gwerthoedd
RheswmWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 4 gwerthNewid gwerthoedd
DyddiadWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 55 gwerthNewid gwerthoedd

Tabl

Lawrlwytho'r tabl hwn
Gwerthoedd dataDisgrifiad o’r dataModdMoth o ymarferwrRheswmDyddiad
12,718,192Nifer yr apwyntiadauCyfanswmCyfanswmCyfanswm2025-26
1,304,839Nifer yr apwyntiadauCyfanswmCyfanswmCyfanswmRhagfyr 2025-26
1,359,262Nifer yr apwyntiadauCyfanswmCyfanswmCyfanswmTachwedd 2025-26
1,753,736Nifer yr apwyntiadauCyfanswmCyfanswmCyfanswmHydref 2025-26
1,425,549Nifer yr apwyntiadauCyfanswmCyfanswmCyfanswmMedi 2025-26
1,236,133Nifer yr apwyntiadauCyfanswmCyfanswmCyfanswmAwst 2025-26
1,470,217Nifer yr apwyntiadauCyfanswmCyfanswmCyfanswmGorffennaf 2025-26
1,402,574Nifer yr apwyntiadauCyfanswmCyfanswmCyfanswmMehefin 2025-26
1,365,226Nifer yr apwyntiadauCyfanswmCyfanswmCyfanswmMai 2025-26
1,400,656Nifer yr apwyntiadauCyfanswmCyfanswmCyfanswmEbrill 2025-26
18,186,235Nifer yr apwyntiadauCyfanswmCyfanswmCyfanswm2024-25
1,468,041Nifer yr apwyntiadauCyfanswmCyfanswmCyfanswmMawrth 2024-25
1,375,941Nifer yr apwyntiadauCyfanswmCyfanswmCyfanswmChwefror 2024-25
1,550,974Nifer yr apwyntiadauCyfanswmCyfanswmCyfanswmIonawr 2024-25
1,383,149Nifer yr apwyntiadauCyfanswmCyfanswmCyfanswmRhagfyr 2024-25
1,545,138Nifer yr apwyntiadauCyfanswmCyfanswmCyfanswmTachwedd 2024-25
1,914,894Nifer yr apwyntiadauCyfanswmCyfanswmCyfanswmHydref 2024-25
1,456,351Nifer yr apwyntiadauCyfanswmCyfanswmCyfanswmMedi 2024-25
1,365,512Nifer yr apwyntiadauCyfanswmCyfanswmCyfanswmAwst 2024-25
1,565,809Nifer yr apwyntiadauCyfanswmCyfanswmCyfanswmGorffennaf 2024-25
1,413,999Nifer yr apwyntiadauCyfanswmCyfanswmCyfanswmMehefin 2024-25
1,532,513Nifer yr apwyntiadauCyfanswmCyfanswmCyfanswmMai 2024-25
1,613,914Nifer yr apwyntiadauCyfanswmCyfanswmCyfanswmEbrill 2024-25
1,498,560Nifer yr apwyntiadauCyfanswmCyfanswmCyfanswmMawrth 2023-24
18,493,244Nifer yr apwyntiadauCyfanswmCyfanswmCyfanswm2023-24
Yn dangos 1 i 25 o 5,382 rhes
Page 1 of 216

Dewiswch beth i'w lawrlwytho

Dewiswch fformat lawrlwytho

Dewiswch fformat rhifau

Mae hyn yn cynnwys talgrynnu i leoedd degol a chomas er mwyn gwahanu miloedd

Dewiswch a ddylid cynnwys codau cyfeirio a hierarchiaethau

  • Mae codau cyfeirio yn ddynodwyr unigryw ar gyfer gwerthoedd newidyn penodol, fel ardaloedd daearyddol
  • Mae hierarchiaethau'n dangos sut mae gwerthoedd newidyn yn cael eu grwpio gyda'i gilydd, fel pa ardaloedd daearyddol sydd ym mha ardaloedd daearyddol mwy
  • Os oes gan y tabl presennol newidynnau cudd, ni allwch ei lawrlwytho gyda chodau cyfeirio a hierarchiaethau
Bydd y rhain yn cael eu cynnwys fel colofnau ychwanegol yn y tabl a lawrlwythwyd

Dewiswch iaith

Disgwylir y diweddariad nesaf:Mawrth 2026

Diweddariadau

26ain Mawrth 2026

Metadata wedi'i ddiwygio

26ain Mawrth 2026

Data newydd wedi'i ychwanegu

16eg Rhagfyr 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol yn cael eu datblygu
Darparwr data
Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)
Ffynhonnell y data
Porth Gwybodaeth Gofal Sylfaenol
Cyfnod amser dan sylw
Hydref 2021 i Mawrth 2026

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae hyn yn dangos y nifer amcangyfrifedig misol o apwyntiadau lle’r oedd y claf yn bresennol drwy gyfuniad o ddull ymgynghori, math o ymarferydd a’r rheswm dros yr apwyntiad, mesur (nifer yr apwyntiadau lle’r oedd y claf yn bresennol neu nifer cyfartalog yr apwyntiadau lle’r oedd y claf yn bresennol fesul diwrnod gwaith) ac ardal (bwrdd iechyd a chlwstwr).

Cyfrifo neu gasglu data

Mae’r term ‘apwyntiad’ yn cyfeirio at yr holl weithgareddau sy’n gysylltiedig â chleifion a gofnodir yn llyfr apwyntiadau practis cyffredinol. Bydd mwyafrif helaeth y gweithgareddau a gofnodir yn apwyntiadau traddodiadol lle mae claf yn cael ymgynghoriad â meddyg teulu, nyrs neu weithiwr iechyd proffesiynol arall. Bydd y term hefyd yn cwmpasu rhai gweithgareddau eraill y mae staff yn eu cyflawni ar gyfer cleifion, ond heb gynnal ymgynghoriad (fel adolygiad o feddyginiaethau) os byddant wedi’u cofnodi yn y llyfr apwyntiadau. Ni fydd yn cwmpasu unrhyw weithgareddau sy’n gysylltiedig â chleifion nad ydynt wedi’u cofnodi yn y llyfr apwyntiadau.

Fel rhan o brosiect gwella ansawdd data gweithgareddau’r Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd (QAIF) ar gyfer 2021-22, gofynnwyd i bractisau gategoreiddio apwyntiadau yn ôl dull, math o ymarferydd a rheswm dros yr ymgynghoriad gan ddefnyddio’r Porth Gwybodaeth Gofal Sylfaenol. Daeth yn ofynnol i bractisau ymgymryd â’r ymarfer hwn ar gyfer data o fis Gorffennaf 2022 ymlaen.

Apwyntiadau wyneb yn wyneb yw’r rhai lle mae’r claf yn bresennol yn bersonol yn y practis. Apwyntiadau o bell yw’r rhai a gynhelir dros y ffôn neu drwy alwad fideo. Bydd apwyntiadau ymweliadau â’r cartref yn cynnwys apwyntiadau lle mae staff y practis yn ymweld â phreswylfa’r claf sy’n cynnwys sefydliadau byw cymunol fel cartrefi nyrsio.

Dylai apwyntiadau â meddyg teulu ac â phresgripsiynydd annibynnol gwmpasu apwyntiadau â phob math o feddygon teulu, gan gynnwys cofrestryddion mewn practis cyffredinol, yn ogystal ag apwyntiadau â staff fel uwch-ymarferwyr nyrsio, fferyllwyr a ffisiotherapyddion sydd wedi cymhwyso i roi presgripsiynau fel y diffinnir gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.

Dylai apwyntiadau â nyrsys, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, neu â rolau clinigol eraill gwmpasu apwyntiadau â staff clinigol sydd wedi cofrestru â chorff proffesiynol (er enghraifft, nyrsys sydd wedi cofrestru â’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth) ond nad ydynt wedi cymhwyso i roi presgripsiynau. Ni ddylent gynnwys enghreifftiau o ryngweithio â staff gweinyddol neu staff cymorth anghlinigol.

Mae apwyntiadau sy’n cael eu dosbarthu yn ôl eu rheswm yn rhai ar gyfer cyflyrau cronig, a gynlluniwyd, neu gyflyrau nad ydynt yn acíwt fel arfer yn rhai ar gyfer cyflyrau sy’n bodoli eisoes ac sy’n barhaus ers cyfnod hirach o amser ac maen nhw’n cael eu rheoli fel clefydau cronig. Ar y llaw arall, mae cyflyrau brys neu acíwt fel arfer yn rhai sydd wedi digwydd dros y tymor byr. Gall rheswm claf dros drefnu apwyntiad fod yn gymhleth a dylai staff sy’n cofnodi’r wybodaeth hon farnu yn y ffordd orau wrth gategoreiddio’r rheswm dros yr apwyntiad. Fel arfer, byddai hyn yn cael ei wneud gan aelod gweinyddol o staff am resymau clinigol ac yn amodol ar gael ei newid, yn dilyn cyngor gan y gweithiwr iechyd proffesiynol sy’n darparu’r apwyntiad neu reolwr y practis.

Ansawdd ystadegol

Nid yw’r data a gyflwynir i’r Porth Gwybodaeth Gofal Sylfaenol (PCIP) yn cael eu diwygio fel mater o drefn, ond gall practisau ail-gategoreiddio data apwyntiadau yn ôl-weithredol ar gyfer y dull ymgynghori, math o ymgynghoriad a’r rheswm dros yr apwyntiad ar unrhyw amser. Nid oes cyfyngiad ar ba mor bell yn ôl y gall practisau adolygu data a byddai unrhyw ddata a adolygwyd yn cael eu cynnwys yn PCIP y diwrnod canlynol.

Y bwriad yw y bydd ystadegwyr Llywodraeth Cymru yn prosesu data y 12 mis blaenorol ar yr un pryd â phob cyhoeddiad ystadegol chwarterol. Mae hyn yn golygu y gall y data a gyhoeddwyd ar gyfer y 12 mis blaenorol gael eu hadolygu. Bydd unrhyw adolygiadau mawr yn cael eu hamlygu yn y datganiadau ystadegol a’r tablau data.

Ni fydd data cyhoeddedig, o gyfnodau amser sy’n fwy na 12 mis cyn y cyfnod cyfeirio yn cael eu hadolygu oni bai bod gwall yn cael ei ddarganfod. Os bydd hyn yn digwydd, bydd yr adolygiad hefyd yn cael ei amlygu yn y datganiadau ystadegol a’r tablau data.

Mae rhaglen ar y gweill i gyflwyno un system apwyntiadau i bob practis yng Nghymru, y bwriedir ei chwblhau erbyn haf 2026. Mae hyn yn golygu bod rhai practisau wedi trosglwyddo systemau o amgylch dyddiadau cyfeirio’r data, a allai arwain at faterion ychwanegol o ran ansawdd y data. Pan nodir bod materion o ran ansawdd y data, maent yn cael eu rhannu ag Iechyd a Gofal Digidol Cymru sy'n gweithio gyda’r byrddau iechyd a’r practisau i wella ansawdd y data. Mae'r ystadegau ar gyfer y chwarter mwyaf diweddar yn seiliedig ar y data fel y'u cofnodwyd i gychwyn. Mae data anghywir fel arfer yn cael eu golygu yn y data ffynhonnell ar ôl eu cyhoeddi ac adolygir yr ystadegau wedi hynny yn y cyhoeddiad ar gyfer y chwarter dilynol.

Mae’r data ar gyfer y cyfnod o fis Ionawr i fis Medi 2025 wedi’u hadolygu yn unol â’n polisi ar adolygiadau a gynlluniwyd. Roedd newidiadau bach ar lefel Cymru gyfan, ac roedd y newidiadau yn amrywio rhwng 0.1% a 2.7% ar gyfer data apwyntiadau.

Bydd y data ar gyfer y cyfnod o fis Ebrill i fis Rhagfyr 2025 yn cael eu hadolygu yn y cyhoeddiad nesaf.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru