Amddifadedd ar lefel Practis Meddygon Teulu

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Practis
398 o 398 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Dyddiad
5 o 5 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

4 o 4 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Dull
2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Gorffennaf 2027

Diweddariadau

30ain Mehefin 2026

Data newydd ar gyfer Ebrill 2026 – sydd nawr yn seiliedig ar MALlC 2025.

19eg Mehefin 2026

Yn nata mis Ebrill 2024, mae gan W93125 a W93061 yr un nifer o gleifion sy'n byw yn yr 20% mwyaf difreintiedig o MALlC. O’r blaen, roeddent yn cael eu neilltuo’n fympwyol i gwintelau amddifadedd 5 a 4 ar gyfer practisau, yn y drefn honno. Mae'r fethodoleg bellach wedi'i diwygio fel bod y practis sydd â mwy o gleifion yn byw yn y MALlC mwyaf difreintiedig ond un yn cael y safle amddifadedd uwch (h.y. cwintel mwy difreintiedig). Mae gan W93125 fwy o gleifion yng nghwintel 2 MALlC nag sydd gan W93061. Felly mae W93125 wedi'i ailneilltuo i gwintel amddifadedd 4, ac W93061 i gwintel 5.

Yn flaenorol, dangoswyd y cwintel amddifadedd practisau anghywir ar gyfer rhai practisau yn nata Ebrill 2024. Mae’r gwerthoedd 'cwintel amddifadedd practisau' bellach wedi’u cywiro fel a ganlyn:

Ar gyfer y dull ‘canran poblogaeth y practis yn 20% mwyaf difreintiedig MALlC’: ar gyfer W97024 mae cwintel 4 nawr yn cael ei ddangos yn hytrach na chwintel 5, ac ar gyfer W98044 mae cwintel 2 nawr yn cael ei ddangos yn hytrach na chwintel 1.

Ar gyfer y dull ‘nifer poblogaeth y practis yn 20% mwyaf difreintiedig MALlC’: ar gyfer W93125 mae cwintel 4 nawr yn cael ei ddangos yn hytrach na chwintel 5, ac ar gyfer W97611 mae cwintel 2 nawr yn cael ei ddangos yn hytrach na chwintel 1.

15fed Mai 2026
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data 1
Llywodraeth Cymru
Ffynhonnell y data 1
Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALIC)
Darparwr data 2
Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Ffynhonnell y data 2
Gwasanaethau Contractwyr
Cyfnod amser dan sylw
Ionawr 2022 i Ebrill 2026
ID y set ddata
97175678-3003-43f1-b39a-33503c2ef989

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae hyn yn dangos nifer y bobl sydd wedi'u cofrestru gyda phob practis meddygon teulu yng Nghymru (poblogaeth y practis). Mae'n dangos hefyd nifer a chanran y cleifion sydd wedi'u cofrestru gyd phob practis sy'n byw yn yr 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) a chwintel amddifadedd y practis. Mae dau ddull o gyfrifo cwintel amddifadedd y practis wedi'u cynnwys.

Cyfrifo neu gasglu data

Defnyddir MALlC 2025 i bennu’r 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru ar gyfer data o Ebrill 2026 ymlaen. Ar gyfer cyfnodau cyfeirio cyn hyn, mae data yn seiliedig ar MALlC 2019.

Mae'r data ar gyfer poblogaethau practisau yn cyfeirio at fis Ionawr 2022 a mis Ebrill ar gyfer blynyddoedd dilynol.

Diben y data hyn yw darparu opsiynau ar gyfer dadansoddi amddifadedd cymharol y boblogaeth sydd wedi'i chofrestru gyda phob practis cyffredinol yng Nghymru.

Mae penderfynu pa ddull mesur sydd fwyaf priodol i'w ddefnyddio yn dibynnu ar ddiben yr hyn y defnyddir y mesur ar ei gyfer. Argymhellir defnyddio dulliau mesur 'rhif' wrth dargedu'r nifer fwyaf o bobl sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig, tra ei bod yn fwy priodol defnyddio'r dulliau mesur 'canrannol' wrth dargedu'r crynodiad uchaf o bobl sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig.

Er bod y canlyniadau ar lefel practis a chlwstwr yn weddol debyg, bydd y data ar lefel practis yn darparu dadansoddiad mwy gronynnog o amddifadedd. Mae clystyrau'n grwpio practisau, felly er y gall rhai wasanaethu poblogaethau tebyg yn fras, mae'n anochel y bydd gan rai practisau boblogaeth fwy difreintiedig nag eraill yn yr un clwstwr. Efallai y bydd dadansoddiad o glystyrau’n fwyaf priodol wrth dargedu ardaloedd ehangach, ond gall y darlun manylach gael ei guddio wrth gyfuno data ar gyfer practisau unigol.

Darperir data poblogaeth practisau gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ac mae'n gipolwg a gymerwyd ar un adeg benodol.

Cafodd ardaloedd cynnyrch ehangach haen is (ACEHI) preswyl ar gyfer cleifion a gofrestrwyd gyda phob practis cyffredinol eu paru â Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) er mwyn cyfrif nifer y cleifion sy'n byw yn yr 20% mwyaf difreintiedig o ACEHI fel y'u pennwyd gan eu safle MALlC. Yna, roedd practisau cyffredinol yn cael eu graddio yn seiliedig ar ddau dull mesur er mwyn amcangyfrif amddifadedd ar lefel practis cyffredinol. Y rhain oedd:

  1. Nifer y cleifion sydd wedi'u cofrestru gyda'r practis cyffredinol sy'n byw yn yr 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
  2. Canran poblogaeth pob practis cyffredinol sy'n byw yn yr 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Nid fydd data poblogaeth practisau ar gyfer 2023-2025 a ddefnyddir yn y dadansoddiad amddifadedd o reidrwydd yn cyd-fynd â data cyhoeddedig am boblogaeth practisau ar gyfer yr un cyfnod. Mae'r data cyhoeddedig yn defnyddio mapio diweddaraf LSOA 2021. Er hynny, gan fod y dadansoddiad amddifadedd yn dibynnu ar MALIC 2019 sy'n defnyddio mapio LSOA 2011, roedd angen i'r dadansoddiad amddifadedd hefyd gyplysu poblogaethau practisau 2023-2025 ag LSOA 2011 ac o'r herwydd ni chafodd nifer bach o gleifion eu cyplysu.

Data mis Ebrill 2026: Roedd 368 o bractisau cyffredinol. Gan na ellir rhannu 368 â phump i rif cyfan, nid yw'r cwintelau'n cynnwys yr un nifer o bractisau yn union. Mae 74 o bractisau ar gyfer cwintelau 1, 3 a 5 ac 73 practisau ar gyfer gweddill y cwintelau. Defnyddir cwintelau i ddadansoddi grwpiau cymharol debyg o bractisau, gyda chwintel practis 1 yn cynnwys y 74 o bractisau sydd â'r poblogaethau mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Data mis Ebrill 2025: Roedd 370 o bractisau cyffredinol. Graddiwyd y practisau hyn yn ôl amddifadedd cymharol eu cleifion cofrestredig a'u rhannu'n gyfartal i gwintelau'n cynnwys 74 o bractisau'r un. Defnyddir cwintelau i ddadansoddi grwpiau o bractisau sy'n eithaf tebyg, gyda chwintel practis 1 yn cynnwys y 74 practis sydd â'r poblogaethau mwyaf ac sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Data mis Ebrill 2024: Roedd 372 o bractisau cyffredinol. Gan na ellir rhannu 372 â phump i rif cyfan, nid yw'r cwintelau'n cynnwys yr un nifer o bractisau yn union. Mae 75 o bractisau ar gyfer cwintelau 1 a 5 ac 74 practisau ar gyfer gweddill y cwintelau. Defnyddir cwintelau i ddadansoddi grwpiau cymharol debyg o bractisau, gyda chwintel practis 1 yn cynnwys y 75 o bractisau sydd â'r poblogaethau mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Ebrill 2023 data: Roedd 382 o bractisau cyffredinol. Gan na ellir rhannu 382 â 5 i rif cyfan, nid yw'r cwintelau'n cynnwys yr un nifer o bractisau yn union. Mae 77 practisau ar gyfer cwintel 1 a 5 ac 76 practisau ar gyfer gweddill y cwintelau. Defnyddir cwintelau i ddadansoddi grwpiau cymharol debyg o bractisau, gyda chwintel practis 1 yn cynnwys y 77 practisau sydd â'r poblogaethau mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Ionawr 2022 data: Roedd 390 o bractisau cyffredinol. Graddiwyd y practisau hyn yn ôl amddifadedd cymharol eu cleifion cofrestredig a'u rhannu'n gyfartal i gwintelau'n cynnwys 78 o bractisau'r un. Defnyddir cwintelau i ddadansoddi grwpiau o bractisau sy'n eithaf tebyg, gyda chwintel practis 1 yn cynnwys y 78 practis sydd â'r poblogaethau mwyaf ac sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Ansawdd ystadegol

Mae cwmpas ac ansawdd y data a ddefnyddir yn y tablau hyn yn dda. Mae pob practis meddyg teulu sydd â chontractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (GMC) ar adeg echdynnu data wedi'i gynnwys. Mae data ar boblogaeth practisau ar gael ar gyfer pob practis. Nid oedd canran fach o ddata wedi'i chynnwys yn y dadansoddiad. Gan fod MALIC yn fesur o amddifadedd sy'n berthnasol i Gymru yn unig, ni ellid cynnwys trigolion Lloegr yn y model. Gan fod gennym ddata wedi'i gasglu ar gyfer practisau cyffredinol yng Nghymru wedi’i gasglu ar sail gyson, nid yw practisau Lloegr wedi'u cynnwys, ac felly ni fydd unrhyw breswylwyr o Gymru sydd wedi'u cofrestru mewn practisau yn Lloegr yn cael eu cynnwys. Er mwyn rhoi cyd-destun, yn yr echdyniad ar Ebrill 2024 roedd 21,067 o gleifion wedi'u cofrestru i bractisau cyffredinol yng Nghymru a oedd yn byw yn Lloegr, ac roedd 13,339 o gleifion wedi'u cofrestru mewn practisau cyffredinol yn Lloegr a oedd yn byw yng Nghymru. Pan fo claf yn byw yn Lloegr ond wedi'i gofrestru i feddygfa yng Nghymru, yn y dadansoddiad hwn cânt eu tynnu oddi ar restr y practis hwnnw o faint y boblogaeth hefyd, er mwyn peidio â chamgyfrif canran y cleifion sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig. Nid yw cleifion sydd wedi'u cofrestru mewn practisau nad ydynt yn rhai GMC wedi'u cynnwys yn y dadansoddiad ychwaith. Mae cleifion sydd wedi'u cofrestru mewn practisau yng Nghymru a oedd â data coll ar lefel LSOA hefyd wedi'u hepgor o'r dadansoddiad; roedd 108 o gleifion yn y data ar gyfer Ionawr 2022, 43 o gleifion yn y data ar gyfer mis Ebrill 2023, 49 o gleifion yn y data ar gyfer mis Ebrill 2024, 1,077 o gleifion yn y data ar gyfer mis Ebrill 2025 a 128 o gleifion yn y data ar gyfer mis Ebrill 2026.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru