Tystysgrifau Nam ar y Golwg (CVI) WGOS 3 a roddwyd i drigolion Cymru yn ôl achos a bwrdd iechyd

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Achos yr ardystio
3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn
14 o 14 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ardal
10 o 10 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewiswch newidyn ar gyfer colofnau'r tabl

Bydd gwerthoedd y newidyn hwn yn mynd ar draws brig eich tabl. Er enghraifft, ar gyfer newidyn sy'n cynnwys blynyddoedd, byddai gan bob blwyddyn ei golofn ei hun. Gallwch ddewis newidyn yn y ddewislen 'Hidlyddion newidynnau' i weld pa werthoedd sydd ynddo.

Disgwylir y diweddariad nesaf:Hydref 2027

Diweddariadau

8fed Hydref 2026

Ychwanegwyd data newydd (dros dro) ar gyfer 2025-26. Mae data 2024-25 hefyd wedi'i ddiweddaru i gynnwys trigolion Cymru a ardystiwyd yn Lloegr.

30ain Medi 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data 1
Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Ffynhonnell y data 1
Ffurflen Tystysgrif Nam ar y Golwg
Darparwr data 2
Ysbyty Llygaid Moorfields
Ffynhonnell y data 2
Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
Cyfnod amser dan sylw
Ebrill 2012 i Mawrth 2026
ID y set ddata
96de9c9f-deee-4c02-b1ed-72982ab911e0

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r set ddata hon yn dangos nifer y trigolion yng Nghymru a gafodd eu hardystio'n newydd fel rhai â nam difrifol ar eu golwg neu â nam ar eu golwg drwy dystysgrif nam ar y golwg (CVI), o ganlyniad i ddirywiad macwlaidd sy'n gysylltiedig ag oedran, glawcoma neu glefyd llygaid diabetig.

Mae Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol Cymru (WGOS) 3 yn galluogi cleifion, a fyddai'n elwa ar gymhorthion optegol ac anoptegol, yn ogystal â chymorth a chyngor adsefydlu cyfannol (gan gynnwys cofrestru amhariad ar eu golwg), i gael mynediad at wasanaeth golwg gwan yn eu man preswylio neu'n agos ato. Mae WGOS 3 hefyd yn cynnwys Tystysgrif Amhariad ar y Golwg (CVI).

Mae'r data yn cael eu dadansoddi yn ôl yr achos a ddewiswyd dros yr amhariad ar y golwg, bwrdd iechyd, a blwyddyn ariannol. Mae ardystio yn broses ffurfiol sy'n nodi unigolion â cholled golwg sylweddol a allai fod yn gymwys i gael cymorth ychwanegol. Mae'r set ddata yn rhoi mewnwelediad i brif achosion ardystiadau newydd ar draws gwahanol fyrddau iechyd a thros amser.

Cyfrifo neu gasglu data

Ar gyfer 2023-24 ymlaen, caiff data eu hechdynnu o'r system golwg gwan a gynhelir gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ac sy'n seiliedig ar ddata a gesglir o ffurflen Tystysgrif Amhariad ar y Golwg gan y Bartneriaeth. Darparwyd y data sy'n cwmpasu cyfnodau hyd at 2022-23 gan Ysbyty Llygaid Moorfields ac fe'u hechdynnwyd o'r Gronfa Ddata ar gyfer Data Epidemiolegol ar Dystysgrifau Amhariad ar y Golwg (DEVICE).

Mae'r niferoedd yn seiliedig ar breswylwyr Cymru sydd newydd eu hardystio ar ffurflenni Cymraeg a Saesneg. Ar ôl i Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru gymryd drosodd yr ymarfer casglu data o 2023-24 ymlaen, mae data ar gyfer preswylwyr Cymru sydd wedi'u hardystio yn Lloegr yn cael eu darparu ar wahân gan Ysbyty Llygaid Moorfields.

Dim ond unigolion uwchlaw trothwyon oedran ar gyfer cyflyrau penodol sy'n cael eu cynnwys yn y niferoedd: y rhai 12 oed a hŷn ar gyfer clefyd diabetig y llygaid, y rhai 40 oed a hŷn ar gyfer glawcoma, a'r rhai 65 oed a hŷn ar gyfer dirywiad macwlaidd sy'n gysylltiedig ag oedran.

Ansawdd ystadegol

Ar gyfer pob achos, mae'r niferoedd yn cynnwys colli golwg oherwydd pob achos fel y prif achos, neu os nad oes prif achos yna fel achos cyfrannol, a allai arwain at unigolion yn cael eu cyfrif eto o dan gyflyrau eraill os oes mwy nag un achos cyfrannol.

Mae niferoedd llai na phump wedi'u hatal, ac mae ataliad eilaidd wedi'i gymhwyso lle bo angen i atal datgeliad drwy dynnu.

Mae'r data ar gyfer y flwyddyn ddiweddaraf yn eithrio preswylwyr Cymru sydd wedi'u hardystio yn Lloegr. Mae hyn oherwydd bod y data hyn yn cael eu darparu gan Ysbyty Llygaid Moorfields yn ddiweddarach yn y flwyddyn ac felly, bydd y data ar gyfer y flwyddyn ddiweddaraf yn cael eu diweddaru i gynnwys preswylwyr Cymru sydd wedi'u hardystio yn Lloegr yn y cyhoeddiad nesaf.

Ar 1 Ebrill 2019, symudodd y cyfrifoldeb am wasanaeth iechyd preswylwyr Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Newidiodd enwau'r byrddau iechyd hefyd: Daeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, a daeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Gweler yr adran dolenni gwe am ddatganiadau swyddogol.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru