Data dangosyddion Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2019 fesul Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is (AGEHI) ac awdurdod lleol: maes tai

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Cod ardal
1932 o 1932 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Enw ardal
1932 o 1932 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Dangosydd
4 o 4 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Ni ddisgwylir i'r set ddata hon gael ei diweddaru, na'i disodli yn y dyfodol

Diweddariadau

19eg Ionawr 2026
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol achrededig
Darparwr data
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
Ffynhonnell y data
Cyfrifiad 2011

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Nodyn: nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: am y data diweddaraf ewch i Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2025 adroddiad canlyniadau.

Roedd y rhifyn 2019 wedi raddio pob un o’r 1,909 Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (LSOAs a ddiffinnir ar ôl Cyfrifiad 2011) o’r mwyaf (gradd 1) i’r lleiaf (gradd 1,909) difreintiedig. Mae'n cyfuno 47 o ddangosyddion wedi'u grwpio o dan 8 maes sydd â'r pwysau canlynol yn y mynegai cyffredinol: Incwm (22%), Cyflogaeth (22%), Iechyd (15%), Addysg (14%), Mynediad at Wasanaethau (10%), Tai (7%), Diogelwch Cymunedol (5%), a'r Amgylchedd Ffisegol (5%).

Mae'r data sydd yma ar gyfer dangosyddion sylfaenol sy'n bwydo i mewn i fynegai amddifadedd lluosog Cymru 2019.

Mae'r tabl hwn yn cynnwys data ar gyfer y 2 dangosydd sy'n ffurfio'r maes tai. Mae'r dangosydd Gorlenwi wedi'i dalgrynnu i un lle degol tra bod y dangosydd BRE wedi'i dalgrynnu i ddau le degol.

Mae amcangyfrifon dangosyddion awdurdodau lleol wedi'u cynhyrchu lle mae'r data gwreiddiol yn caniatáu i’w hagregu i ddaearyddiaethau uwchben lefel ACEHI. Lle nad yw hyn yn bosibl ar gyfer dangosydd penodol, bydd cofnodion data awdurdod lleol yn dangos [x] yn y golofn Data.

Cyfrifo neu gasglu data

Yn gysyniadol, diben y maes tai yw nodi tai annigonol, o ran cyflwr ffisegol, amodau byw ac argaeledd. Yma, mae amodau byw yn golygu addasrwydd y tai ar gyfer y sawl sy'n byw ynddynt, er enghraifft o ran iechyd a diogelwch, ac addasiadau angenrheidiol. Mae gan y maes bwysoliad cymharol o 7% yn y mynegai cyffredinol. Mae'r ffigur hwn wedi cynyddu o 5% ym mynegai 2014, o ganlyniad i ychwanegu dangosydd wedi'i fodelu newydd ar y tebygolrwydd o dai o ansawdd gwael.

Mae'r maes tai yn cynnwys dau ddangosydd â phwysoliad cyfartal:

  • Mae dangosydd ar gartrefi gorlawn yn mesur canran y bobl sy'n byw mewn cartrefi gorlawn (mesur ystafelloedd gwely yn seiliedig ar Gyfrifiad 2011)
  • Dangosydd wedi'i fodelu newydd ar dai o ansawdd gwael. Mae'n mesur y tebygolrwydd y bydd tai mewn cyflwr gwael neu'n cynnwys peryglon difrifol (er enghraifft, y risg o gwympo neu dai oer), ac fe'i cyfrifwyd gan ddefnyddio cymysgedd o ffynonellau data arolygon a ffynonellau data gweinyddol gan y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BRE).

Ar gyfer y ddau ddangosydd, cafodd pob ACEHI ei rhoi mewn trefn restrol, gyda'r ACEHI fwyaf difreintiedig yn safle 1 a'r ACEHI leiaf difreintiedig yn safle 1,909. Cafodd y safleoedd hyn eu pennu i wasgariad normal (gyda safleoedd isel yn cael gwerth wedi'i normaleiddio isel) cyn cael eu cyfuno â phwysoliad cyfartal. Fel gyda phob maes, cafodd safleoedd terfynol y meysydd eu trawsffurfio'n esbonyddol i roi sgoriau meysydd i'w defnyddio wrth gyfrifo mynegai cyffredinol MALlC 2019.

Ansawdd ystadegol

Mae data MALlC 2019 wedi'u cynhyrchu gan ystadegwyr proffesiynol gan ddefnyddio'r data diweddaraf, dulliau dadansoddol trylwyr, a dilysu annibynnol ar bob cam. Mae MALlC 2019 yn adeiladu ar fersiynau blaenorol i sicrhau cywirdeb a dibynadwyedd, gan gyfuno 47 o ddangosyddion o ffynonellau amrywiol (mae rhai, ond nid pob un ohonynt, yn seiliedig ar ffynonellau ystadegau swyddogol) i leihau rhagfarn a chryfhau cadernid. Roedd sicrhau ansawdd yn cynnwys gwiriadau lluosog, atgynhyrchu canlyniadau, ac adolygiad arbenigol gydag arbenigwyr maes ac awdurdodau lleol.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru