Incwm Aelwydydd Crynswth i'w Wario yn ôl ardal a mesur

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn
27 o 27 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ardal
42 o 42 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Cydran
3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Medi 2026

Diweddariadau

15fed Ionawr 2026
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol achrededig
Darparwr data
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
Ffynhonnell y data
Cyfrifon Rhanbarthol
Cyfnod amser dan sylw
Ionawr 1997 i Rhagfyr 2023

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r data'n rhoi amcangyfrifon o incwm gwario gros aelwydydd ar gyfer rhanbarthau a gwledydd y DU, ac is-ranbarthau Cymru ar gyfer y cyfnod 1997 i 2023.

Mae incwm gwario gros aelwydydd yn amcangyfrif o'r swm o arian sydd ar gael i aelwydydd i'w wario ar dreuliant neu ei gynilo. Mae'n gyfwerth â'r gwarged incwm (gan gynnwys enillion, pensiynau, buddsoddiadau, budd-daliadau ac ati) dros wariant sy'n gysylltiedig â'u hincwm (trethi, perchnogaeth eiddo a darparu ar gyfer pensiynau yn y dyfodol).

Cyfrifo neu gasglu data

Incwm gwario gros aelwydydd yw un o'r balansau a ddangosir yn yr adran aelwydydd o'r Cyfrifon Cenedlaethol. Mewn gwirionedd mae'r sector yn cynnwys aelwydydd, unig fasnachwyr a sefydliadau di-elw sy'n gwasanaethu aelwydydd (megis prifysgolion ac elusennau).

Mae incwm gwario gros aelwydydd yn cynnwys balans y prif incymau llai balans yr incymau eilaidd. Mae balans y prif incymau'n ganlyniad i gyfranogiad unigolion yn y broses gynhyrchu, er enghraifft, fel cyflogeion sy'n darparu llafur neu drwy berchnogaeth ar asedau a/neu o hunangyflogaeth llai prif ddefnyddiau sy'n cynnwys incwm eiddo a delir, h.y. rhent ar dir a llog a delir ar forgeisi a benthyciadau eraill. Ceir balans yr incymau eilaidd o ganlyniad i ailddosbarthu incwm, er enghraifft, pensiynau a budd-daliadau llai defnyddiau eilaidd sydd yn bennaf yn daliadau annewisol, h.y. trethi a chyfraniadau cymdeithasol i Yswiriant Gwladol.

Ansawdd ystadegol

I gael rhagor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg y data, gweler adroddiad gwybodaeth am ansawdd a methodoleg Incwm Cartrefi Gros Rhanbarthol y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Talgrynnu wedi'i wneud

Mae'r ffigurau wedi'u talgrynnu ac felly mae'n bosibl y bydd rhai mân anghysondebau ymddangosiadol rhwng swm yr eitemau sy'n rhan ohonynt a'r cyfansymiau fel y'u dangosir.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.marchnadlafur@llyw.cymru