Cyfaint cyfartalog presgripsiynau ar gyfer meddyginiaethau ymhlith y meddyginiaethau 'basged 28 diwrnod' bob mis

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Mis
78 o 78 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ardal
8 o 8 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewiswch newidyn ar gyfer colofnau'r tabl

Bydd gwerthoedd y newidyn hwn yn mynd ar draws brig eich tabl. Er enghraifft, ar gyfer newidyn sy'n cynnwys blynyddoedd, byddai gan bob blwyddyn ei golofn ei hun. Gallwch ddewis newidyn yn y ddewislen 'Hidlyddion newidynnau' i weld pa werthoedd sydd ynddo.

Disgwylir y diweddariad nesaf:Medi 2026

Diweddariadau

6ed Hydref 2025
2ail Hydref 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data
Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Ffynhonnell y data
Gwasanaethau Presgripsiwn
Cyfnod amser dan sylw
Ebrill 2019 i Mawrth 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r set ddata hon yn seiliedig ar eitemau sy'n cael eu presgripsiynu gan unrhyw aelod o staff practis cyffredinol yn Nghymru sy'n gymwys i wneud hynny, sy'n cael eu cyflenwi wedyn yn y gymuned yn y DU. Mae 'eitemau' yn cyfeirio at bob un eitem wahanol o feddyginiaeth neu gyfarpar a restrir ar bresgripsiwn, waeth beth fo'r swm neu'r cyfaint. Dim ond eitemau sy'n cael eu cyflenwi sy'n cael eu cyfrif. Ym mis Hydref 2022, argymhellodd Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru y byddai cleifion, practisau meddygon teulu a fferyllfeydd cymunedol i gyd yn elwa o gyfnodau presgripsiynu hirach, pan fo hynny'n briodol yn glinigol. Er enghraifft, os yw claf yn cael presgripsiwn am feddyginiaeth mewn cyfnodau o 28 diwrnod, gellid defnyddio cyfnodau 56 diwrnod yn lle hynny, a fyddai'n lleihau'r amser gweinyddu a'r costau i ddarparwyr gofal iechyd ac yn golygu nad oes rhaid i rywun gasglu meddyginiaeth y claf mor aml. Gan y gellir presgripsiynu'r un eitemau ar wahanol ffurfiau (hylif/tabledi/powdr) ac mewn gwahanol gyfeintiau, nid oes modd mesur cyfaint yr eitemau a bresgripsiynwyd yn fanwl. Fodd bynnag, gellir defnyddio sampl o 54 o feddyginiaethau, a elwir yn feddyginiaethau 'basged 28 diwrnod', fel brasamcan ar gyfer cyfeintiau presgripsiynau. Mae'r 54 o feddyginiaethau hyn fel arfer yn cael eu cymryd mewn un dos y dydd, felly gall cyfanswm y dosau wedi'u rhannu â'r nifer o weithiau y rhoddir yr eitem ar bresgripsiwn roi arwydd o nifer cyfartalog y diwrnodau o driniaeth a bresgripsiynwyd

Cyfrifo neu gasglu data

Daw'r data am bresgripsiynau i law oddi wrth Wasanaethau Presgripsiynu Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ac maent yn seiliedig ar yr wybodaeth ar ffurflenni presgripsiwn a anfonir gan bresgripsiynwyr i gael eu talu.

Ansawdd ystadegol

Mae nodiadau manwl, cefndir a diffiniadau i'w gweld yn y datganiad ystadegol a'r adroddiad ansawdd cysylltiedig.

Adroddiadau cysylltiedig

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru