Cyfnodau’n gorffen ar gyfer plant sy'n derbyn gofal (16 oed a throsodd) yn ystod y flwyddyn yn ôl rhywedd a rheswm dros orffen
Disgwylir y diweddariad nesaf:Rhagfyr 2026
Diweddariadau
- 20ain Gorffennaf 2026
Ychwanegwyd dolen i'r adroddiad ansawdd.
- 16eg Gorffennaf 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data
- Llywodraeth Cymru
- Ffynhonnell y data
- Cyfrifiad Plant sy'n Derbyn Gofal
- Cyfnod amser dan sylw
- Ebrill 2016 i Mawrth 2025
- ID y set ddata
- 8d71987c-0452-43e4-addf-b48f5d990409
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae'r tabl hwn yn dangos y rheswm dros blant 16 oed a throsodd yn rhoi'r gorau i gael gofal yn ôl rhywedd. Mae'n eithrio plant sy'n derbyn gofal mewn cyfres o seibiannau byr yn unig, plant a fu farw neu lle trosglwyddwyd y cyfrifoldeb gofalu i awdurdod lleol arall yn y DU. Pan gafodd plentyn sawl cyfnod o ofal yn ystod y flwyddyn dim ond y cyfnod diwethaf sy'n cael ei gyfrif.
- Cyfrifo neu gasglu data
Caiff data lefel plentyn unigol dienw eu cymryd o systemau gweinyddol awdurdodau lleol a'u dychwelyd yn electronig i'r tîm Casglu Data yn Llywodraeth Cymru gan ddefnyddio system ddiogel o drosglwyddo data ar-lein o'r enw 'Objective Connect’. Yna mae dadansoddwyr Llywodraeth Cymru yn defnyddio cyfres helaeth o wiriadau dilysu i sicrhau bod y wybodaeth a ddarperir yn defnyddio'r codau cywir a'i bod yn gyson yn fewnol.
- Ansawdd ystadegol
Mae'r wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol perthnasol, yn y ddolen i'r we a nodir.
- Talgrynnu wedi'i wneud
Cymerwyd y camau canlynol i leihau'r risg o ddatgelu data personol heb fod eisiau: Mae'r holl ffigurau wedi'u talgrynnu i'r pump agosaf. Pan fo llai na phump o blant mewn unrhyw grwp, mae'r union nifer wedi'i hepgor a'r symbol [c] wedi'i nodi yn ei le.
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.gwascymdeithasol@llyw.cymru