Cleifion sydd wedi’u cofrestru â phractisau cyffredinol yng Nghymru yn ôl band oedran, rhywedd a phractis

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Dyddiad
28 o 28 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ardal
693 o 693 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Oed
20 o 20 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Rhyw
3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Mehefin 2026

Diweddariadau

30ain Ebrill 2026

Mae’r diweddariad hwn yn cynnwys cyhoeddi data Hydref 2025 a Ionawr 2026.

Mae'r data ar gyfer Ebrill 2025 a Gorffennaf 2025 wedi'u diwygio oherwydd bod data anghywir wedi'u darparu'n flaenorol gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ar gyfer practis W91056 (Canolfan Iechyd Coedpoeth). Ar gyfer pob cyfnod cyfeirio, gor-ddatganwyd nifer y cleifion a gofrestrwyd yn y practis hwn cymaint â 75% oherwydd gwall prosesu. Mae'r mater hwn bellach wedi'i ddatrys ac mae wedi arwain at ostyngiad ymylol o 0.2% yn y niferoedd cyffredinol ar lefel Cymru.

O 1 Hydref 2025 ymlaen, unodd clystyrau Gogledd Torfaen a De Torfaen fel Torfaen.

Hysbyswyd Llywodraeth Cymru am y newidiadau i’r clystyrau ar ôl i'r newidiadau ddigwydd. Mae'r newidiadau hyn yn ymwneud ag uno'r clystyrau canlynol:

• Gogledd Rhondda a De Rhondda yn uno fel Rhondda; • Gogledd Merthyr Tudful a De Merthyr Tudful yn uno fel Merthyr Tudful; • Gogledd Taf Elái a De Taf Elái yn uno fel Taf Elái

Nid yw'r union ddyddiadau y daeth y newidiadau hyn i rym yn hysbys; fodd bynnag, cadarnhawyd eu bod wedi bod yn eu lle ers o leiaf 1 Ebrill 2023. Felly, mae'r uno hyn yn cael eu hadlewyrchu yn y data o Ebrill 2023 ymlaen.

22ain Hydref 2025
16eg Hydref 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data
Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Ffynhonnell y data
Gwasanaethau Contractwyr

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae’r wybodaeth a geir yma yn dangos nifer y cleifion sydd wedi cofrestru â phob practis meddyg teulu yng Nghymru yn ôl rhyw, band oedran 5 mlynedd, a phractis meddyg teulu. Mae data ar gael hefyd ar gyfer clystyrau gofal sylfaenol a byrddau iechyd lleol.

Cyfrifo neu gasglu data

Mae’r ciwb StatsCymru hwn yn seiliedig ar ddata sy’n cael eu hechdynnu bob chwarter gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) o system Gwasanaeth Demograffig Cymru sy’n cael eu cyhoeddi wedi hynny ar eu gwefan hwythau. Cafodd data cyn mis Hydref 2024 eu hechdynnu o blatfform Gwasanaethau Cymwysiadau a Seilwaith Iechyd Gwladol (NHAIS).

Mae’r data ar gyfer 2016 i 2019 yn cynrychioli’r sefyllfa ar 1 Hydref. Mae’r data chwarterol o fis Ebrill 2020 yn cael eu hechdynnu tua chanol y mis, fel arfer rhwng y 10fed a’r 16eg.

Nid yw’r data ar gyfer cleifion â rhywedd 'amhenodol' wedi'i gynnwys yn y cyfansymiau.

Sylwer bod y ciwb StatsCymru hwn yn cynnwys rhai practisau nad ydynt yn dod o dan y contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (GMS).

Newidiadau i glystyrau: O 1 Hydref 2025 ymlaen, unodd clystyrau Gogledd Torfaen a De Torfaen fel Torfaen.

Hysbyswyd Llywodraeth Cymru am y newidiadau i’r clystyrau ar ôl i'r newidiadau ddigwydd. Mae'r newidiadau hyn yn ymwneud ag uno'r clystyrau canlynol: • Gogledd Rhondda a De Rhondda yn uno fel Rhondda • Gogledd Merthyr Tudful a De Merthyr Tudful yn uno fel Merthyr Tudful • Gogledd Taf Elái a De Taf Elái yn uno fel Taf Elái Nid yw'r union ddyddiadau y daeth y newidiadau hyn i rym yn hysbys; fodd bynnag, cadarnhawyd eu bod wedi bod yn eu lle ers o leiaf 1 Ebrill 2023. Felly, mae'r uno hyn yn cael eu hadlewyrchu yn y data o Ebrill 2023 ymlaen.

Newidiodd clystyrau Dwyfor a Gogledd Meirionnydd a De Meirionnydd ar 1 Ebrill 2021, oherwydd i Ganolfan Goffa Ffestiniog (W94004) a Bron Meirion (W94032) symud o Dde Meirionnydd i Ddwyfor a Gogledd Meirionnydd.

Newidiodd clystyrau Gogledd Cynon a De Cynon yn 2019, oherwydd bod Meddygfa Cwmaman (W95016) a Chanolfan Feddygol Abercwmboi (W95087) yn symud o Ogledd Cynon i Dde Cynon.

Caeodd clwstwr Gogledd Casnewydd ym mis Ebrill 2020 a dyrannwyd practisau i Ddwyrain Casnewydd a Gorllewin Casnewydd. Y practisau oedd Canolfan Feddygol Isca (W93018), Clinig Richmond (W93043), Canolfan Feddygol Westfield (W93045), Canolfan Feddygol Sain Silian (W93049), Canolfan Iechyd Malpas Brook (W93051) a Phractis Tŷ-du (W93061).

Ansawdd ystadegol

Mae’r rhain wedi’u tynnu fel ciplun o’r sefyllfa ar y pryd ac maent wedi’u seilio ar y prif bractis y mae’r meddyg teulu yn gweithio ynddo ar adeg pob ciplun. Felly mae’n bosibl y bydd rhai cleifion yn symud practis os yw meddyg teulu yn gweithio mwy o oriau mewn un practis nag mewn un arall mewn ciplun penodol.

Mae yna fater ansawdd data ar gyfer data Gorffennaf 2024. Mae hyn yn ymwneud â nifer is na’r disgwyl o breswylwyr o Loegr wedi cofrestri â phractis yng Nghymru, o ganlyniad i newidiadau i sut mae’r data ffynhonnell yn cael eu prosesu. Ni fydd data Gorffennaf 2024 yn cael eu diwygio gan nad oes posib adfer data cywir; er hynny mae’r mater ansawdd data wedi’i gywiro a ni fydd yn effeithio ar y data yn y dyfodol.

Nid yw dadansoddiadau yn ôl oedran a rhywedd ar gael ar gyfer practisau sydd â llai na 1,000 o gleifion, gan fod y data hyn yn cael eu hatal gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru er mwyn osgoi datgeliadau.

Adroddiadau cysylltiedig

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru