Gwerth Ychwanegol Crynswth yn ôl diwydiant (SIC2007), ardal a blwyddyn
Disgwylir y diweddariad nesaf:Ebrill 2026
Diweddariadau
- 24ain Medi 2025
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol achrededig
- Darparwr data
- Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
- Ffynhonnell y data
- Cyfrifon Rhanbarthol
- Cyfnod amser dan sylw
- Ionawr 1998 i Rhagfyr 2023
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae'r Gwerth Ychwanegol Crynswth (GYC) yn amcangyfrif o gyfanswm allbwn yr economi. Mae'r set ddata hon yn darparu dadansoddiad o GYC yn ôl diwydiant ar gyfer rhanbarthau ar Lefel Diriogaethol Ryngwladol (ITL) a blwyddyn.
Mae dau fesur gwahanol ar gael ar gyfer pob ardal, sef symiau'r Gwerth Ychwanegol Gros mewn £ miliwn a'r ganran o 'Werth Ychwanegol Gros pob diwydiant' ar gyfer pob diwydiant.
O dan System Cyfrifon Ewropeaidd 1995 (ESA95), mae'r term Gwerth Ychwanegol Gros yn cael ei ddefnyddio i ddynodi amcangyfrifon a arferai gael eu galw'n Gynnyrch Domestig Gros ar brisiau sylfaenol. O dan ESA95, mae'r term Cynnyrch Domestig Gros yn dynodi Gwerth Ychwanegol Gros gyda threthi (namyn cymorthdaliadau) ar gynhyrchion h.y. am brisiau'r farchnad. Mae Cyfrifon Rhanbarthol yn cyhoeddi ffigurau ar eu prisiau sylfaen ac felly wedi mabwysiadu'r term Gwerth Ychwanegol Gros (GYG) yn hytrach na Chynnyrch Domestig Gros (CDG).
- Cyfrifo neu gasglu data
Cyfrifir GYC (gwerth ychwanegol crynswth) Rhanbarthol ar sail prisiau sylfaenol cyfredol gan ddefnyddio'r dull cytbwys.
- Ansawdd ystadegol
Mesurir Gwerth Ychwanegol Gros ar sail prisiau cyfredol, sy'n golygu bod cynnydd dros amser yn adlewyrchu chwyddiant yn ogystal â thwf go iawn. Ni ellir dadansoddi tueddiadau mewn cyfanswm Gwerth Ychwanegol Gros neu Werth Ychwanegol Gros y pen yn hawdd heb ddadchwyddo'r data. Ar gyfer dadansoddi tueddiadau mewn GYG, byddem yn cynghori defnyddio'r mesurau cyfaint cadwyn a gyhoeddwyd gan ONS (Saesneg yn unig).
Mae amcangyfrifon o Werth Ychwanegol Gros rhanbarthol ar brisiau sylfaenol a gyflwynwyd yma yn gyson â rhifyn 2024 o UK National Accounts - The Blue Book.
Gwybodaeth am ddiwygiadau:
Yn 2025, diweddarodd ONS y fframwaith daearyddiaeth Lefelau Tiriogaethol Rhyngwladol (ITL). Mae hyn wedi arwain at newidiadau i'r dosbarthiadau isranbarthol ar gyfer Cymru ar lefelau ITL2 ac ITL3.
Gyda chymaint o newidiadau daearyddol, mae'r grwpiau diwydiant hefyd wedi'u diweddaru i osgoi datgelu gwybodaeth gyfrinachol.
Felly, ni allwn nodi pa ddata sydd wedi'i ddiwygio o'r diweddariad 2024, bydd nodiadau adolygu yn cael eu hadfer gyda chyhoeddiad 2026.
- Talgrynnu wedi'i wneud
Mae'r ffigurau wedi'u talgrynnu ac felly mae'n bosibl y bydd rhai mân anghysondebau ymddangosiadol rhwng swm yr eitemau sy'n rhan ohonynt a'r cyfansymiau fel y'u dangosir.
- Adroddiadau cysylltiedig
- Llywodraeth Cymru - Cynnyrch domestig gros rhanbarthol a gwerth ychwanegol gros (Saesneg)
- Llywodraeth Cymru - Cynnyrch domestig gros rhanbarthol a gwerth ychwanegol gros (Cymraeg)
- SYG – Gweithgarwch economaidd rhanbarthol yn ôl cynnyrch domestig crynswth (Saesneg)
- SYG – Gweithgaredd economaidd rhanbarthol yn ôl gwybodaeth am ansawdd cynnyrch domestig crynswth a methodoleg (Saesneg)
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.economi@llyw.cymru