Cleifion mewn ysbytai ac unedau iechyd meddwl yng Nghymru gyda salwch meddwl

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Dyddiad y cyfrifiad
17 o 17 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Bwrdd iechyd lleol
10 o 10 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Grwp oedran
5 o 5 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Rhyw
3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Hydref 2026

Diweddariadau

18fed Rhagfyr 2025

Mae’r set ddata hon wedi’i diweddaru i gynnwys data o’r cyfrifiad a gymerwyd ar 31 Mawrth 2025.

25ain Tachwedd 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data
Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)
Ffynhonnell y data
Cyfrifiad Seiciatrig
Cyfnod amser dan sylw
Mawrth 2009 i Mawrth 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Cleifion mewn ysbytai iechyd meddwl ac unedau iechyd meddwl mewn ysbytai gyda salwch meddwl, yn ôl grŵp oedran, rhyw a bwrdd iechyd lleol.

Mae cyfrifiad yn cael ei gymryd am hanner nos ar 31 Mawrth bob blwyddyn ac yn ymdrin â chleifion yn ysbytai iechyd meddwl y GIG ac unedau iechyd meddwl yn ysbytai’r GIG yng Nghymru a all fod ag arbenigeddau eraill. Nid yw’n cynnwys trigolion Cymru sy’n gleifion mewn ysbytai yn Lloegr, ond gall gynnwys cleifion sy’n byw yn Lloegr.

Mae Deddf Iechyd Meddwl 1983 (deddfwriaeth y DU), a ddiwygiwyd yn 2007, yn caniatáu i bobl ag anhwylder meddwl gael eu derbyn i’r ysbyty, eu cadw a’u trin heb eu cydsyniad - boed hynny er lles eu hiechyd, eu diogelwch eu hunain, neu er mwyn amddiffyn pobl eraill.

Gall pobl gael eu derbyn, eu cadw a’u trin o dan adrannau gwahanol o’r Ddeddf Iechyd Meddwl. Cyfeirir at bobl sy’n cael eu derbyn yn ffurfiol i’r ysbyty fel cleifion ‘ffurfiol’ a chyfeirir at bobl sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty pan fyddant yn sâl heb ddefnyddio pwerau gorfodol fel cleifion ‘anffurfiol’.

Cyfrifo neu gasglu data

Bob blwyddyn (am hanner nos ar 31 Mawrth) mae cyfrifiad yn cael ei gymryd o’r bobl yn ysbytai’r GIG ac unedau i bobl â salwch meddwl neu anabledd dysgu. Mae’r Byrddau Iechyd Lleol yn rhoi’r data i Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW).

Mae’r data’n ymwneud â cleifion mewn ysbytai iechyd meddwl ac unedau iechyd meddwl mewn ysbytai a all fod ag arbenigeddau eraill.

Nid yw’r cyfrifiad yn cynnwys preswylwyr o Gymru sy’n gleifion mewn ysbytai yn Lloegr.

Ansawdd ystadegol

O 1 Ebrill 2019 ymlaen, symudodd darpariaeth y gwasanaeth iechyd ar gyfer preswylwyr awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Mae enwau’r byrddau iechyd wedi newid; gelwir Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf bellach yn Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a gelwir Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bellach yn Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Ni chasglwyd unrhyw ddata yn 2020 oherwydd yr ymateb i bandemig COVID-19 ac effeithiwyd hefyd yn gryf ar ddata 2021 a 2022 yn sgil y pandemig. O ganlyniad, dylid osgoi cymharu’n fanwl y data ar gyfer y blynyddoedd hyn â’r amserlen ehangach. Adroddodd rhai ysbytai am newid mewn ymarfer i leihau nifer y cleifion preswyl mewn cyfleusterau iechyd meddwl ar hyn o bryd, gyda mwy o wasanaethau a ddarperir yn y gymuned.

Mae’r ystadegau sy’n cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn cadw at y Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy’n ategu piler Ansawdd y Cod Ymarfer Ystadegau ac egwyddorion ansawdd y System Ystadegau Ewropeaidd ar gyfer allbwn ystadegol.

Mae data’n cael eu casglu yn ôl blwyddyn ariannol ac yn destun gwiriadau dilysu gan ystadegwyr Llywodraeth Cymru a bydd ymholiadau’n cael eu cyfeirio at y byrddau iechyd lleol os oes angen cyn cyhoeddi. Fodd bynnag, cyfrifoldeb y sefydliadau hyn yw sicrhau bod y ffigurau wedi’u casglu’n gywir yn unol â’r diffiniadau a chanllawiau canolog.

Mae’r safonau a’r diffiniadau y cytunwyd arnynt yng Nghymru yn rhoi sicrwydd bod y data yn gyson ar draws byrddau iechyd lleol. Bob blwyddyn mae’r data’n cael eu casglu or un ffynonellau ac yn cadw at y safon cenedlaethol, sy’n golygu y dylent fod yn ystyrlon o fewn ac ar draws y sefydliad.

Yna caiff y datganiad ystadegol ei ddrafftio a ceir sicrwydd ansawdd gan uwch ystadegwyr a’i gyhoeddi yn unol â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau’r DU).

Ein nod yw defnyddio Plain English ym mhob un o’n hallbynnau a bod pob allbwn yn cyd-fynd â pholisi hygyrchedd Llywodraeth Cymru. Yn ogystal, caiff ein holl benawdau eu cyhoeddi yn Gymraeg a Saesneg.

Ceir diffiniadau o’r termau a ddefnyddir yng Ngeiriadur Data GIG Cymru.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru