Lleoliadau plant misol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal
Disgwylir y diweddariad nesaf:Gorffennaf 2026
Diweddariadau
- 5ed Awst 2026
Diweddariad Mehefin 2026
- 3ydd Gorffennaf 2026
Diweddariad Mai 2026
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol yn cael eu datblygu
- Darparwr data
- Awdurdodau Lleol
- Ffynhonnell y data
- Data Capasiti a Chynllunio Gwasanaethau Cymdeithasol
- Cyfnod amser dan sylw
- Mawrth 2024 i Mehefin 2026
- ID y set ddata
- 815e03ae-d136-4824-ac65-ce2bccd7b313
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Nifer y plant/pobl ifanc sy’n derbyn gofal nad ydynt wedi’u lleoli ar hyn o bryd, neu mewn lleoliad byrdymor, ond sydd angen lleoliad hirdymor a nifer y plant/pobl ifanc sy’n derbyn gofal sydd wedi symud lleoliad o ganlyniad i sefyllfa annisgwyl pob mis yn ôl awdurdod lleol o fis Mawrth 2024. Ffynhonnell y data yw'r casgliad Capasiti a Chynllunio Gwasanaethau Cymdeithasol.
Mae'r data Capasiti a Chynllunio Gwasanaethau Cymdeithasol yn seiliedig ar y diffiniadau o wasanaethau a gynhwysir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Datblygwyd y data Capasiti a Chynllunio Gwasanaethau Cymdeithasol gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill yn 2020 mewn ymateb i'r angen i fonitro capasiti awdurdodau lleol yn ystod y pandemig COVID-19. Yna cafodd ei ddiwygio a'i adolygu yn 2022, i'r set ddata sydd bellach wedi'i chyhoeddi.
Bwriad cyhoeddi'r set ddata hon yw rhoi dealltwriaeth i ddefnyddwyr o lefel y galw am wasanaethau cymdeithasol ledled Cymru, a lefel y gwasanaethau gofal a chymorth a ddarperir gan awdurdodau lleol.
Mae'r set ddata hon wedi'i chyfyngu i'r gwasanaethau a ddarperir gan awdurdodau lleol ac felly nid yw'n cynnwys pobl sydd wedi cael mynediad at neu wedi ariannu eu gofal eu hunain heb ymyrraeth neu gymorth awdurdod lleol.
- Cyfrifo neu gasglu data
Mae'r data Capasiti a Chynllunio Gwasanaethau Cymdeithasol yn gasgliad data lefel cyfanredol a gyflwynir yn electronig gan awdurdodau lleol yn fisol i Lywodraeth Cymru, sy'n cwmpasu gwerth mis calendr o ddata.
Mae canllawiau manwl ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Er bod awdurdodau lleol wedi cael canllawiau i gefnogi'r casgliad, oherwydd yr amrywiad lleol yn y cyflenwi, efallai na fydd y data yn gwbl gymharol rhwng awdurdodau lleol.
Mae'r data wedi'i ddilysu trwy ddefnyddio prosesau sicrhau ansawdd mewnol a thrwy ymgysylltu â'r darparwyr data i fynd i'r afael â materion ansawdd data. Mae Llywodraeth Cymru yn craffu data pob mis i archwilio am allanolynnau, data coll neu eitemau data anghyson.
Gofynnwyd am ganiatâd i gyhoeddi'r data hyn gan Gyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol o bob un o'r 22 awdurdod lleol ym mis Ionawr 2026.
Mae'r tabl hwn yn rhan o Gam 2 o gyhoeddi'r data Capasiti a Chynllunio. Mae'r camau fel a ganlyn:
Cam 1: Capasiti'r system Gofal Cymdeithasol i Oedolion
- Cyfanswm nifer y cysylltiadau a gafwyd gan y gwasanaethau oedolion
- Nifer yr asesiadau a gwblhawyd gan y gwasanaethau oedolion
- Nifer yr oedolion sy'n derbyn cymorth gyda llety cartref gofal hirdymor
- Nifer yr oedolion sy'n cael gwasanaethau gofal cartref
- Nifer yr oedolion sy'n cael gwasanaethau ail-alluogi
Cam 2: Gwasanaethau plant a diogelu
- Nifer y cysylltiadau a gafwyd gan y gwasanaethau plant
- Nifer y cysylltiadau â’r gwasanaethau plant a arweiniodd at ymholiadau amddiffyn plant
- Nifer y plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant
- Nifer yr asesiadau a gwblhawyd gan y gwasanaethau plant
- Nifer yr atgyfeiriadau/adroddiadau ar gyfer oedolion yr amheuid eu bod yn wynebu risg o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso
- Nifer y plant nad ydynt wedi’u lleoli ar hyn o bryd, neu mewn lleoliad byrdymor, ond sydd angen lleoliad hirdymor
- Nifer y plant sydd wedi symud lleoliad o ganlyniad i sefyllfa annisgwyl
Cam 3: Aros am wasanaethau ac amseroedd aros
- Nifer yr oedolion sy'n aros am asesiad gan wasanaethau oedolion
- Nifer yr oedolion sy'n aros am wasanaethau gofal preswyl
- Nifer yr oedolion sy'n aros am wasanaethau gofal cartref
- Nifer yr oedolion sy'n aros am wasanaethau ail-alluogi
- Nifer yr oedolion mewn lleoliadau heb eu cynllunio/dros dro
- Nifer yr oedolion sy'n aros mwy na thri mis am asesiad gan y gwasanaethau oedolion
- Nifer yr oedolion sy'n aros mwy na thri mis am wasanaethau gofal preswyl
- Nifer yr oedolion sy'n aros mwy na thri mis am wasanaethau gofal cartref
- Nifer yr oedolion sy'n aros dros bythefnos am wasanaethau ail-alluogi
- Ansawdd ystadegol
Mae'r data wedi'i wirio gydag awdurdodau lleol cyn ei gyhoeddi. Bydd misoedd dilynol yn dilyn y broses ddilysu a ddisgrifir uchod. Oherwydd yr amserlenni byr sy'n gysylltiedig â chasglu a chyhoeddi'r set ddata, gellir gwneud diwygiadau i'r set ddata gyhoeddedig lle mae gwallau wedi'u nodi ar ôl ei chyhoeddi.
Mae'r set ddata Capasiti a Chynllunio Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael ei chynhyrchu o ddata gweinyddol awdurdodau lleol a'i chyhoeddi fel ystadegau swyddogol sy'n cael eu datblygu. Mae'r ystadegau newydd hyn yn cael eu datblygu wrth i ni weithio tuag at eu cynhyrchu o dan safonau'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.
Mae unrhyw ddata coll yn cael ei briodoli gan ddefnyddio gwerth y darparwr o'r mis blaenorol, gan sicrhau parhad mewn cyfansymiau cenedlaethol a chefnogi defnydd dadansoddol parhaus. Gall y broses o adrodd data amrywio rhwng awdurdodau lleol, gyda llawer yn y broses o fabwysiadu offer adrodd newydd; gallai hyn arwain at beth oedi a/neu wallau wrth gyflwyno data.
Gall nifer y cysylltiadau a'r asesiadau ar gyfer blwyddyn adrodd fod yn wahanol i'r hyn a gyhoeddwyd fel rhan o'r allbynnau Gweithgaredd Gwasanaethau Cymdeithasol oherwydd gwahaniaethau yng ngofynion ac amlder adrodd a dilysu a gymhwysir i'r set ddata. Er bod data Capasiti a Chynllunio Gwasanaethau Cymdeithasol yn darparu data mwy amserol, lle mae data yn cael ei gyhoeddi yn y ddwy set ddata, rydym yn argymell defnyddio ffigurau o'r set ddata Gweithgarwch Gwasanaethau Cymdeithasol. Rydym yn awgrymu defnyddio'r set ddata Gweithgarwch Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer dadansoddi tueddiadau tymor hir.
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.gwascymdeithasol@llyw.cymru