Tacsis trwyddedig a cherbydau hurio preifat yn ôl awdurdod lleol a blwyddyn yr arolwg
Disgwylir y diweddariad nesaf:2027
Diweddariadau
- 31ain Mawrth 2026
Mae'r diweddariad hwn yn cynnwys cyhoeddi data 2024
- 19eg Ionawr 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol achrededig
- Darparwr data
- Yr Adran Drafnidiaeth
- Ffynhonnell y data
- Arolwg o gerbydau gwasanaethau cyhoeddus
- Cyfnod amser dan sylw
- Ionawr 2005 i Rhagfyr 2024
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae'r set ddata hon yn manylu ar y tacsis trwyddedig a'r cerbydau hurio preifat trwyddedig yn ôl awdurdod lleol ar 31 Mawrth 2024. Cyflwynir y data ar ffurf nifer y cerbydau a'r gyrwyr trwyddedig ar gyfer tacsis, fflydoedd trwyddedig, gyrwyr trwyddedig a gweithredwyr trwyddedig ar gyfer cerbydau hurio preifat, a’r niferoedd â dwy drwydded ym mhob un o awdurdodau lleol Cymru.
- Cyfrifo neu gasglu data
Mae gwybodaeth am gerbydau gwasanaeth cyhoeddus yn dod o'r datganiadau blynyddol a gyflwynir i'r Adran Drafnidiaeth gan sampl o 450 o ddeiliaid trwyddedau gweithredwyr Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus ("yr arolwg o Gerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus"). Mae'r arolwg hwn yn rhoi gwybodaeth am deithiau gan deithwyr, milltiroedd cerbyd, derbyniadau oddi wrth deithwyr a chostau gweithredu. Mae arolygon llai sy'n cael eu rheoli gan yr Adran Drafnidiaeth yn casglu gwybodaeth oddi wrth y gweithredwyr bysiau mwy o faint am newidiadau i brisiau tocynnau, dibynadwyedd gwasanaethau, a nifer y cwsmeriaid fesul chwatrer. Mae manylion llawn y ffynonellau data a'r dulliau a ddefnyddir i'w gweld yn y canllawiau: https://www.gov.uk/government/publications/buses-statistics-guidance.
- Ansawdd ystadegol
Mae'r arolwg o Gerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus yn defnyddio technegau priodoli i bennu ffigurau allweddol ar gyfer gweithredwyr na chawsant eu dewis yn y sampl ar gyfer y flwyddyn honno, neu na wnaeth ymateb. Weithiau, gellir gwella ffigurau priodoledig ar gyfer blynyddoedd cynharach drwy ddefnyddio data gwirioneddol a gyflwynwyd ar gyfer blynyddoedd diweddarach. Gall hynny arwain at fân ddiwygiadau i ôl-ddata, er mai anaml y bydd hynny'n cael effaith fawr ar dueddiadau.
Yn achos y dangosyddion allweddol (teithiau gan deithwyr a milltiroedd cerbyd), mae'r data a ddarperir gan y gweithredwyr yn cynnwys rhyw 90 y cant neu fwy o'r cyfanswm, ac mae'r gweddill yn cael ei briodoli. Drwy gymharu â ffynonellau eraill, gwelir, ar lefel gyfanredol (Prydain), bod yr ystadegau'n rhoi mesur gweddol gadarn o lefelau a thueddiadau cyffredinol.
Er hynny, dylid bod yn ofalus yn achos ffigurau sy'n cynrychioli grwpiau llai o weithredwyr a newidiadau o un flwyddyn i'r llall, a hynny oherwydd ei bod yn fwy tebygol bod camgymeriadau'n cael eu gwneud wrth fesur (er enghraifft, datganiad anghywir gan weithredwr, neu weithredwr yn newid y ffordd y mae'n paratoi'r ffigurau angenrheidiol). Mae camgymeriadau o'r fath yn debygol o fod yn llai amlwg ar y lefel genedlaethol. Dylid bod yn ofalus wrth ddehongli ffigurau rhanbarthol, ac yn enwedig ffigurau ar lefel yr awdurdodau lleol.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru