Y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin: atgyfeiriadau ymlaen yn ôl anhwylder a lleoliad

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn
1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Anhwylder
27 o 27 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Lleoliad atgyfeirio
7 o 7 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:2027

Diweddariadau

12fed Mawrth 2026
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data
Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Ffynhonnell y data
Gwasanaethau Presgripsiwn
Cyfnod amser dan sylw
Ebrill 2024 i Mawrth 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae’r set ddata hon yn dangos atgyfeiriadau a wnaed gan fferyllwyr yn dilyn cynnal ymgynghoriad drwy’r Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin. Gellir gwneud atgyfeiriadau at wasanaethau’r GIG gan gynnwys ymarferwyr cyffredinol, deintyddion, optometryddion, adrannau achosion brys, ymarferwyr cyffredinol y tu allan i oriau, a darparwyr eraill y GIG fel ymwelwyr iechyd a chiropodyddion. Nid yw pob ymgynghoriad yn arwain at atgyfeiriad, a chaiff y data hyn hefyd eu cynnwys yn y tabl.

Cyflwynir data yn ôl anhwylder a lleoliad atgyfeirio.

Cyfrifir canrannau ar gyfer pob anhwylder. Mae hyn yn golygu mai’r rhifolyn yw nifer yr atgyfeiriadau a wnaed i bob lleoliad fesul anhwylder, wedi’i rannu â nifer yr ymgyngoriadau a gynhaliwyd ar gyfer yr anhwylder penodol. Mae’r newidynnau fel a ganlyn: Blwyddyn – y flwyddyn ariannol lle y cofnodwyd yr ymgynghoriad ynddi. Anhwylder – y cyflwr a aseswyd o dan y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin. Lleoliad atgyfeirio – y gwasanaeth y cyfeiriwyd cleifion ato, er enghraifft practis ymarfer cyffredinol neu adran achosion brys. Nifer yr atgyfeiriadau - nifer yr ymgyngoriadau a gynhaliwyd ar gyfer anhwylder a arweiniodd at atgyfeiriad at leoliad penodol. Canran yr ymgyngoriadau a atgyfeiriwyd – canran yr holl ymgyngoriadau ar gyfer yr anhwylder hwnnw a arweiniodd at atgyfeiriad at y lleoliad hwnnw.

Cyfrifo neu gasglu data

Bob tro y cynhelir ymgynghoriad drwy’r gwasanaeth anhwylderau cyffredin, caiff cofnod ei greu ar system fferylliaeth gymunedol Cymru gyfan. Os yw’r ymgynghoriad yn arwain at atgyfeiriad, caiff ei gofnodi ar yr un cofnod. Darperir data ar gyfer pob ymgynghoriad fel cofnod unigol. Mae’r data yn y tablau hyn yn seiliedig ar y data a ddarparwyd ac felly’n cynnwys yr holl ymgyngoriadau a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn. Ni wneir unrhyw addasiadau i’r data ac ni chymhwysir unrhyw fesurau rhag-weld na modelu.

Ansawdd ystadegol

Mae’r data yn seiliedig ar gofnodion gweinyddol. Maent yn adlewyrchu gweithgarwch a gofnodwyd gan fferyllwyr ym mhob ymgynghoriad. Cynhyrchir ystadegau gan ddefnyddio’r data fel y’u cofnodwyd yn yr ymgynghoriad. Gall hyn arwain at nifer bach o anhwylderau neu leoliadau atgyfeirio yn cael eu cofnodi’n anghywir. Gan nad oes unrhyw ffordd ymarferol o wirio manylion ymgyngoriadau, ni chaiff addasiadau eu gwneud i gofnodion sy’n ymddangos fel eu bod wedi’u codio’n anghywir. Mae ansawdd y data yn dibynnu ar gofnodi cywir ar systemau fferyllfeydd. Gall gwahaniaethau lleol mewn arferion cofnodi effeithio ar gymharedd rhwng ardaloedd neu flynyddoedd. Gall newidiadau i gwmpas gwasanaethau neu ganllawiau clinigol effeithio ar dueddiadau dros amser. Gall niferoedd bach fod yn destun rheolaethau datgelu.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru