Swyddi gwag yn ôl ardal awdurdod lleol, darparwr, math o swydd wag, argaeledd a hyd
Disgwylir y diweddariad nesaf:Gorffennaf 2026
Diweddariadau
- 4ydd Chwefror 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data
- Llywodraeth Cymru
- Ffynhonnell y data
- Casgliad data am leoedd gwag mewn tai cymdeithasol
- Cyfnod amser dan sylw
- Ebrill 1996 i Mawrth 2024
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn cwmpasu nifer y tai gwag yn stoc dai awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Mae'r wybodaeth yn cael ei chasglu trwy ffurflenni blynyddol gan landlordiaid cymdeithasol Cymru er mwyn monitro tueddiadau dros amser yng nghyfran y stoc dai sy'n dai gwag.
Mae anheddau gwag yn cynnwys:
- Anheddau sy'n destun neu sy'n disgwyl gwaith adfer, trosi neu wella mawr;
- Anheddau gwag sydd wedi derbyn cymeradwyaeth ffurfiol ar gyfer eu gwerthu neu eu dymchwel ar yr amod eu bod yn dal i fod yn rhan o anheddau HRA (Cyfrif Refeniw Tai);
- Yr holl anheddau gwag i'w gwerthu, waeth a ydynt yn disgwyl cael eu gwerthu neu'n cael eu hatgyweirio cyn cael eu gwerthu;
- Anheddau gwag sy'n destun gorchmynion dymchwel neu gau neu sydd wedi'u caffael i'w dymchwel o dan Ran VI neu IX o Ddeddf Tai 1985.
Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn hepgor anheddau gwag lle mae cynnig tenantiaeth wedi'i dderbyn, hyd yn oed os na fydd unrhyw rent yn cael ei dalu ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.
- Cyfrifo neu gasglu data
Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn cael ei chasglu trwy ffurflenni blynyddol gan awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ar 31 Mawrth bob blwyddyn
- Ansawdd ystadegol
Gallwch weld y wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol cysylltiedig trwy ddilyn y ddolen we a roddir:
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.tai@llyw.cymru