Apwyntiadau WGOS 4 yn ôl cyflyrau a ddewiswyd, oedran, ethnigrwydd y claf a bwrdd iechyd
Disgwylir y diweddariad nesaf:Hydref 2027
Diweddariadau
- 8fed Hydref 2026
Diweddariad data ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26
- 9fed Ionawr 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data
- Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
- Ffynhonnell y data
- Cyflwyno Ffurflenni Microsoft
- Cyfnod amser dan sylw
- Ebrill 2024 i Mawrth 2026
- ID y set ddata
- 7b051cd5-b269-4e58-9647-f7c6cb88369f
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae'r set ddata hon yn dangos nifer yr apwyntiadau ar gyfer Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol Cymru (WGOS) 4 yng Nghymru. Mae WGOS 4 yn wasanaeth lle mae cleifion, a fyddai'n flaenorol wedi cael eu hatgyfeirio i'r Gwasanaeth Llygaid mewn Ysbyty, neu eu rheoli ganddo, yn hytrach yn aros o dan ofal sylfaenol ar gyfer asesiad gwell pellach fel rhan o lwybr mireinio neu fonitro atgyfeirio y cytunwyd arno.
Mae'r data yn cael eu dadansoddi yn ôl grŵp oedran y claf, grŵp ethnig eang, a chyflyrau llygaid a ddewiswyd. Mae'r dadansoddiadau hyn yn cael eu cyflwyno yn ôl bwrdd iechyd a blwyddyn ariannol.
Mae'r set ddata yn rhoi mewnwelediad i nifer yr apwyntiadau ar draws gwahanol grwpiau cleifion, cyflyrau, a rhanbarthau dros amser.
- Cyfrifo neu gasglu data
Caiff hawliadau WGOS 4 eu cyflwyno'n electronig drwy ffurflenni Microsoft i Bartneriaeth Cydwasanaethau'r GIG a'u lanlwytho i'w system taliadau K2.
Caiff y data eu grwpio a'u cyfrif ar wahân yn ôl grŵp oedran y claf, grŵp ethnig eang, a chyflyrau llygaid a ddewiswyd. Mae cofnodion sydd â gwerthoedd coll ar gyfer y nodweddion hyn wedi'u heithrio. Caiff y niferoedd eu cyfuno yn ôl bwrdd iechyd, blwyddyn ariannol, a nodwedd. Yna, cyfunir y setiau data wedi'u grwpio i ffurfio'r set ddata gyffredinol.
- Ansawdd ystadegol
Nid yw data blwyddyn ariannol 2024 i 2025 yn uniongyrchol gymaradwy â data blwyddyn ariannol 2025 i 2026 ymlaen, gan fod WGOS 4 wedi’i gyflwyno ar adegau gwahanol ar draws byrddau iechyd yn ystod blwyddyn ariannol 2024 i 2025.
Bob blwyddyn, ceir rhai apwyntiadau lle nad yw oedran, ethnigrwydd neu gyflwr y claf yn hysbys.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.iechyd@llyw.cymru