Mesur y cynnydd o ran targed Llywodraeth Cymru o ddarparu 20,000 o unedau ychwanegol i’w rhentu yn y sector cymdeithasol yn ystod 2021 i 2026
Disgwylir y diweddariad nesaf:Ni ddisgwylir i'r set ddata hon gael ei diweddaru, na'i disodli yn y dyfodol
Diweddariadau
- 27ain Hydref 2026
Diweddariad olaf
- 13eg Tachwedd 2025
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol achrededig
- Darparwr data
- Awdurdodau Lleol
- Ffynhonnell y data
- Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
- ID y set ddata
- 7a0b53e9-166d-4692-8984-333aec20cd62
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Er mwyn mesur cynnydd, rydym yn cynnwys cartrefi ar gyfer rhent cymdeithasol, rhent canolradd a rhenberchnogaeth. Caiff yr unedau yma eu darparu gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, awdurdodau lleol, a darparwyr sector preifat (a gyfeirir atynt fel 'eraill'). Mae'r ffigurau hefyd yn cynnwys unedau tai a roddwyd ar les am fwy na blwyddyn er mwyn darparu tai i deuluoedd di-gartref (er nad ydynt yn cwrdd yn llawn â diffiniad TAN 2). Nid yw’r ffigur targed yn cynnwys unedau tai fforddiadwy lle rhennir yr ecwiti.
- Cyfrifo neu gasglu data
Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn cael ei chasglu trwy ffurflenni blynyddol gan landlordiaid cymdeithasol Cymru (awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig) ar y ddarpariaeth tai fforddiadwy wirioneddol yn ystod pob blwyddyn. Mae'r casgliad hefyd yn gofyn am yr amcangyfrif o'r ddarpariaeth ar gyfer y flwyddyn ddilynol.
- Ansawdd ystadegol
Mesur cynnydd yn erbyn ymrwymiad y llywodraeth flaenorol i ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i'w rhentu yn y sector cymdeithasol rhwng 2021 a 2026:
Mae’r Rhaglen Lywodraethu, a gyhoeddwyd gan y llywodraeth flaenorol ym mis Mehefin 2021 ac a ddiweddarwyd ym mis Rhagfyr 2021, ynghyd â Datganiad Ysgrifenedig y Gweinidog Newid Hinsawdd ar y pryd ar Dai Cymdeithasol yng Nghymru (15 Mehefin 2021), yn nodi ymrwymiad i ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i'w rhentu o fewn y sector cymdeithasol yn ystod tymor y llywodraeth rhwng 2021 a 2026. Yr ystadegau swyddogol hyn yw'r ffynhonnell a ddefnyddiwyd i fonitro cynnydd yn erbyn y targed hwn. Y cyfnod targed ar gyfer cyflawni'r ymrwymiad hwn oedd rhwng 1 Mai 2021 a 30 Ebrill 2026. Mae hyn yn wahanol i'r cyfnod adrodd ar gyfer yr ystadegau swyddogol hyn, sy'n cael eu casglu ar sail blwyddyn ariannol (1 Ebrill i 31 Mawrth).
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.tai@llyw.cymru