Cyfraddau cyffredinrwydd clefydau yn ôl band oedran a rhywedd

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Dyddiad
6 o 6 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ardal
1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Cofrestr
22 o 22 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Oed
21 o 21 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Rhyw
3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Gorffennaf 2026

Diweddariadau

4ydd Rhagfyr 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data
Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)
Ffynhonnell y data
Audit+
Cyfnod amser dan sylw
Rhagfyr 2020 i Ebrill 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r ciwb StatsCymru hwn yn darparu data ar gyffredinrwydd oed-benodol yn ôl cofrestrau clefydau, h.y. cleifion o grwp oedran penodol sydd ar gofrestr clefyd, fel cyfran o'r holl gleifion o'r grwp oedran hwnnw sydd wedi'u cofrestru â phractis meddyg teulu. Caiff y data hefyd eu dadansoddi yn ôl rhywedd.

Cyfrifo neu gasglu data

Caiff y wybodaeth a gyflwynir yma ei darparu i Lywodraeth Cymru gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

Mae'r data a gyflwynir yn cyfeirio at un adeg benodol. Oherwydd newidiadau i QAIF dros amser, nid yw'r dyddiadau cyfeirio yn union yr un fath ym mhob blwyddyn. Mae'r data ar gyfer 2020 yn berthnasol i 14 Rhagfyr; mae'r data ar gyfer 2021 a 2022 yn berthnasol i 30 Medi; mae'r data ar gyfer 2023 yn berthnasol i 1 Hydref; ac mae'r holl ddata o 2024 ymlaen yn berthnasol i 1 Ebrill.

Mae data ar gyfer cleifion ag unrhyw gyflwr cronig a chleifion ag unrhyw gyflwr iechyd meddwl ar gael o 1 Ebrill 2025 ymlaen.

Claf yw unigolyn sydd ag un neu fwy o gyflyrau cronig os yw'n cael ei gofnodi gydag un neu fwy o'r cyflyrau canlynol:

  • Epilepsi
  • Clefyd Cronig yr Arennau
  • Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint
  • Clefyd Coronaidd y Galon
  • Strôc a Phwl o Isgemia Dros Dro
  • Clefyd y Rhydwelïau Perifferol
  • Diabetes mellitus (gan gynnwys diabetes math 1, diabetes math 2 ar gyfer cleifion 17 oed a hŷn a phob diabetes arall ar gyfer cleifion 17 oed a hŷn)

Claf yw unigolyn ag un neu fwy o gyflyrau iechyd meddwl os yw'n cael ei gofnodi gydag un neu fwy o'r cyflyrau a restrir isod. Sylwch fod hyn yn wahanol i'r gofrestr clefydau ‘iechyd meddwl’ gan ei fod yn cynnwys mân gyflyrau iechyd meddwl fel iselder.

  • Dementia
  • Iechyd meddwl (mae hyn yn cyfeirio at y gofrestr clefydau iechyd meddwl ac yn cwmpasu cyflyrau difrifol yn unig fel sgitsoffrenia)
  • Iselder
  • Iselder ysbryd (pan fydd gan gleifion gofnod o iselder ysbryd a phresgripsiwn amlroddadwy gweithredol am wrth-iselydd)
  • Anhwylder gorbryder (gan gynnwys anhwylderau panig)

Mae data Audit+ ar gyfer 2020 yn cynnwys cofrestrau clefydau a gynhwyswyd yn hanesyddol fel rhan o'r Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau, ond nad ydynt yn cael eu defnyddio mwyach ac nad ydynt mwyach yn rhan o'r Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd. Mae'r rhain yn cynnwys clefyd cardiofasgwlaidd – atal cychwynnol, iselder a smygu (â chyflyrau cronig).

Noder, caiff pob claf y cofnodwyd ei rywedd fel 'ddim yn hysbys' ei gynnwys yn y categori rhywedd 'Pawb'.

Ansawdd ystadegol

Tynnwyd y data cyflwr cronig ac iechyd meddwl ar 1 Hydref 2025 gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru ond adroddwyd arno ar 1 Ebrill 2025 i gyd-fynd â data'r gofrestr clefydau unigol. Mae practisau a gaeodd rhwng 2 Ebrill a 1 Hydref 2025 (W97063 a W93643) wedi'u heithrio. Hefyd, er i'r clystyrau ‘Gogledd Torfaen’ a ‘De Torfaen’ uno i ffurfio ‘Torfaen’ ar 1 Hydref 2025, adlewyrchir ffiniau'r clwstwr cyn uno yn y data.

Gwybodaeth am y ddarpariaeth 2020: Fodd bynnag, daw data Audit+ o 395 allan o 397 o bractisau gweithredol ar 14 Rhagfyr, gan nad oedd dau bractis a ddarparodd ddata ar gofrestrau clefydau'r Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd yn gallu darparu data Audit+.

2021: Mae data Audit+ yn seiliedig ar 390 o’r 392 o bractisau gweithredol ym mis Hydref 2021.

2022: Yn 2022, cyflwynodd pob practis ddata.

2023: Yn 2023, cyflwynodd pob practis heblaw am un (W97048) ddata.

2024: Yn 2024, cyflwynodd pob practis ddata.

2025: Yn 2025, cyflwynodd pob practis ddata.

Talgrynnu wedi'i wneud

Caiff cyfraddau cyffredinrwydd eu talgrynnu i un lle degol.

Adroddiadau cysylltiedig

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru