Contractau a phractisau deintyddol yn ôl bwrdd iechyd lleol
Disgwylir y diweddariad nesaf:Medi 2027
Diweddariadau
- 27ain Awst 2026
Data 2025-26 wedi'i ychwanegu
- 5ed Mawrth 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data
- Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG
- Ffynhonnell y data
- Gwasanaethau deintyddol
- Cyfnod amser dan sylw
- Ebrill 2022 i Mawrth 2026
- ID y set ddata
- 742f4d33-eac4-4bc8-8d55-559441b32e03
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae'r data hwn yn dangos nifer y contractau a phractisau deintyddol.
- Cyfrifo neu gasglu data
Mae'r data'n deillio o ffurflenni gweithgaredd deintyddol a gyflwynir ar gyfer taliad ac a brosesir gan Wasanaethau Deintyddol Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG.
Mae hyn yn seiliedig ar o leiaf un ffurflen FP17W neu FP17OW yn cael ei chyflwyno drwy gontract mewn practis deintyddol.
Contract deintyddol: ymarferydd deintyddol neu grwp o ymarferwyr deintyddol sy'n ymrwymo i gontract â Bwrdd Iechyd Lleol i ddarparu gwasanaethau deintyddol y GIG. Gall mwy nag un ymarferydd deintyddol gyflawni gwaith deintyddol y GIG o dan yr un contract (er enghraifft, gall yr ymarferydd sy’n ymrwymo i’r contract is-gontractio i ymarferwyr deintyddol eraill i wneud gwaith o dan yr un contract).
Practis deintyddol: y lleoliad daearyddol lle cynhaliwyd triniaeth ddeintyddol. Mae’n bosibl y bydd gwahanol ymarferwyr deintyddol yn gwneud gwaith yno os ydynt wedi ymrwymo i gontractau deintyddol ar wahân â’r Bwrdd Iechyd Lleol.
- Ansawdd ystadegol
Os yw deintydd yn nodi ID lleoliad sydd wedi dyddio ar y ffurflen FP17W, efallai na fydd y contract a'r practis cysylltiedig yn cael eu cynnwys yn y data ffynhonnell, er gwaethaf cyflwyno FP17W yn ystod y flwyddyn ariannol. Gan fod y mater hwn yn digwydd yn ymarferol, efallai na fydd y data yn cynnwys yr holl gontractau a phractis a gofnododd weithgaredd deintyddol yn ystod y flwyddyn.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.iechyd@llyw.cymru