Meddygon teulu cwbl gymwysedig (cyfrif pennau) yn ôl rhyw a gwaith llawn amser a rhan-amser
Disgwylir y diweddariad nesaf:Ionawr 2027
Diweddariadau
- 30ain Mehefin 2026
Mae’r diweddariad hwn yn cynnwys cyhoeddi data Medi 2025
- 17eg Mawrth 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data 1
- Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
- Ffynhonnell y data 1
- Locum Hub Wales (LHW)
- Darparwr data 2
- Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
- Ffynhonnell y data 2
- System Gwybodaeth am y Gweithlu Gofal Sylfaenol
- Darparwr data 3
- Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
- Ffynhonnell y data 3
- System Adrodd Genedlaethol ar gyfer Gweithlu Cymru (WNWRS)
- Cyfnod amser dan sylw
- Rhagfyr 2021 i Medi 2025
- ID y set ddata
- 73c77570-4ac3-4b14-90ca-8bae3a577bab
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae hyn yn dangos nifer (cyfrif pennau) y meddygon teulu cwbl gymwysedig a gyflogir mewn practisau cyffredinol yn ôl rhyw a gwaith llawn amser a rhan-amser, ar ddyddiad pob ciplun chwarterol ers 31-Rhag-21.
- Cyfrifo neu gasglu data
Ar ôl i'r holl oriau contract gael eu crynhoi ar gyfer pob meddyg teulu, mae hyn yn dangos nifer y meddygon teulu rhan-amser (llai na 37.5 awr yr wythnos) yn ôl rhyw.
Meddygon teulu cwbl gymwysedig: mae hyn yn cynnwys partneriaid, darparwyr, meddygon teulu cyflogedig, meddygon teulu wrth gefn a meddygon teulu locwm yn unig.
Caiff staff locwm eu cyfrif os oedd unrhyw waith wedi'i gofnodi drwy Locum Hub Wales ar unrhyw adeg yn ystod y chwarter a ddaeth i ben ar ddyddiad y ciplun yn unig. Ar gyfer yr holl fathau eraill o feddygon teulu, mae'n seiliedig ar cyfrif pennau ar ddyddiad y ciplun.
- Ansawdd ystadegol
Gweler yr adroddiad ansawdd ystadegol am ragor o wybodaeth am ystadegau gweithlu practisau cyffredinol.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.iechyd@llyw.cymru