Nifer a chanran y babanod a dderbyniodd unrhyw laeth y fron yn 10 diwrnod oed, mewn ardaloedd Dechrau’n Deg ac ardaloedd nad ydynt yn rhan o Dechrau’n Deg, yn ôl awdurdod lleol

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Awdurdod lleol
23 o 23 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn
9 o 9 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Statws Dechrau’n Deg
3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Statws bwydo ar y fron
5 o 5 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewiswch newidyn ar gyfer colofnau'r tabl

Bydd gwerthoedd y newidyn hwn yn mynd ar draws brig eich tabl. Er enghraifft, ar gyfer newidyn sy'n cynnwys blynyddoedd, byddai gan bob blwyddyn ei golofn ei hun. Gallwch ddewis newidyn yn y ddewislen 'Hidlyddion newidynnau' i weld pa werthoedd sydd ynddo.

Disgwylir y diweddariad nesaf:Hydref 2026

Diweddariadau

8fed Hydref 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data
Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)
Ffynhonnell y data
Cronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD)
Cyfnod amser dan sylw
Ionawr 2016 i Rhagfyr 2024

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r set ddata hon yn darparu data bwydo ar y fron ar gyfer babanod sy'n troi'n 10 diwrnod oed sy'n byw mewn ardaloedd Dechrau'n Deg ac ardaloedd nad ydynt yn rhai Dechrau'n Deg wedi'u rhannu yn ôl awdurdod lleol. Mae hyn yn ôl blwyddyn galendr (mis Ionawr i fis Rhagfyr).

Mae data bwydo ar y fron ar ddiwrnod 10 yn cael eu cofnodi yn y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol ac yn cyfeirio at gofnodion lle cofnodwyd unrhyw fwydo ar y fron. Mae hyn yn cynnwys babanod a fwydwyd yn gyfan gwbl ar laeth y fron a'r rhai a fwydwyd trwy gyfuniad o laeth y fron a llaeth potel.

Rhaglen gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y blynyddoedd cynnar yw Dechrau'n Deg a ddarperir gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Nod y rhaglen yw gwella canlyniadau i deuluoedd sydd â phlant o dan 4 oed yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.

Dechreuodd cam cyntaf rhaglen ehangu pob un o bedair elfen Dechrau'n Deg ym mis Medi 2022. Y pedair elfen oedd: gofal plant rhan-amser a ariennir o safon i blant 2 oed; cymorth rhianta; cymorth gwell gan ymwelwyr iechyd; a chymorth gwasanaethau lleferydd, iaith a chyfathrebu.

Cyfrifo neu gasglu data

Prif ffynhonnell y data a ddefnyddiwyd yn y datganiad ystadegol hwn yw’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol. Mae’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn cynnwys cofnodion dienw ar gyfer yr holl blant a anwyd yng Nghymru, yr holl blant sy’n byw yng Nghymru neu’r holl blant sydd wedi’u trin yng Nghymru ac a anwyd ar ôl 1987. Mae’r set ddata’n cyfuno data a gynhwysir yng nghronfeydd data’r System Iechyd Plant Cymunedol leol a gedwir gan fyrddau iechyd lleol.

Mae ‘unrhyw laeth o’r fron’ yn cynnwys babanod sy’n cael cyfuniad o laeth (llaeth y fron a llaeth artiffisial) yn ogystal â’r rheini sy’n derbyn llaeth y fron yn unig (dim byd arall heblaw dwr).

Dim ond cofnodion y gwyddys eu statws bwydo ar y fron a gaiff eu cofnodi yng nghyfrifiadau'r gyfradd.

Mae rhagor o wybodaeth am ffynonellau data a newidiadau i ddarpariaeth gwasanaethau Dechrau'n Deg oherwydd y pandemig ar gael yn yr adran adroddiad ansawdd.

Ansawdd ystadegol

Mae data bwydo ar y fron ar bob adeg yn destun problemau o ran ansawdd data gan fod gan rai mamau a babanod gofnodion anghyflawn. Caiff data ynghylch bwydo ar y fron ar ddiwrnod 10 eu casglu yn ystod apwyntiadau ymwelydd iechyd a rhai meddyg teulu drwy Raglen Plant Iach Cymru. Pe na bai’r plentyn yn cael cyswllt o’r fath, mae’n bosibl y bydd data’r plentyn ynghylch bwydo ar y fron ar goll ar gyfer y pwynt cyswllt hwnnw.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru