Hyd y ffyrdd (Km), fesul dosbarth
Disgwylir y diweddariad nesaf:Awst 2027
Diweddariadau
- 13eg Awst 2026
Mae'r diweddariad hwn yn cynnwys cyhoeddi data 2025-26 a ffigyrau diwygiedig ar gyfer 2023-24 a 2024-25
- 21ain Ionawr 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data
- Llywodraeth Cymru
- Ffynhonnell y data
- Casglu data ar hydoedd ffyrdd
- Cyfnod amser dan sylw
- Ebrill 1995 i Mawrth 2026
- ID y set ddata
- 71410cc6-5acb-4a5e-bb68-7597cd1479dd
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Traffyrdd a Chefnffyrdd yw prif wythiennau trafnidiaeth Cymru, ac sy’n cario’r nifer fwyaf o draffig am bob Km a deithir. Llywodraeth Cymru yw awdurdod priffyrdd y rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd. Yr awdurdod lleol perthnasol sy’n gyfrifol am bob priffordd gyhoeddus arall.
- Cyfrifo neu gasglu data
Mae data’n cael ei gasglu gan awdurdodau lleol.
- Ansawdd ystadegol
Traffordd: Ffyrdd sy’n cael eu hadnabod wrth y llythyren M ar arwyddion ac a neilltuwyd ar gyfer rhai mathau o draffig yn unig. Cynhwysir yr A48(M) yn y grwp hwn. Darperir y data gan Is-adran Rheoli Rhwydwaith Llywodraeth Cymru.
Cefnffyrdd: Cefnffyrdd yw’r rhwydwaith cenedlaethol o ffyrdd strategol sy’n caniatáu symudiad dirwystr ar gyfer traffig sy’n teithio’n bell. Llywodraeth Cymru yw’r awdurdod priffyrdd. Mae’r rhwydwaith yn cynnwys rhai o’r ffyrdd amlbwrpas (ffyrdd A) sy’n agored i bob math o draffig, a ffyrdd arbennig fel traffyrdd (y cyfeirir atynt ar wahân ar y tablau). Ar gyfer pob ffordd gyhoeddus arall, yr awdurdod lleol yw’r awdurdod priffyrdd.
A: ffyrdd sirol neu brif ffyrdd dosbarthiadol: Ffyrdd o bwys strategol rhanbarthol a threfol.
Ffyrdd B ac C: Ffyrdd dosbarthiadol is. Mae’r ffyrdd hyn yn dosbarthu traffig i ardaloedd trefol a gwledig.
Ffyrdd Mân ag wyneb. Neu Ffyrdd di-ddosbarth. Ffyrdd dosbarthu a mynediad lleol.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru