Nifer y gweithgareddau ychwanegol dethol mewn practisau cyffredinol yn ôl ardal a mis

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Gweithgaredd
8 o 8 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ardal
71 o 71 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Dyddiad
45 o 45 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Mawrth 2026

Diweddariadau

26ain Mawrth 2026

Metadata wedi'i ddiwygio

26ain Mawrth 2026

Data newydd wedi'i ychwanegu

16eg Rhagfyr 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol yn cael eu datblygu
Darparwr data
Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)
Ffynhonnell y data
Porth Gwybodaeth Gofal Sylfaenol
Cyfnod amser dan sylw
Gorffennaf 2022 i Mawrth 2026

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae hyn yn dangos data misol ar gyfer gweithgareddau ychwanegol dethol yn ôl mesur (nifer neu nifer cyfartalog fesul diwrnod gwaith) ac ardal (bwrdd iechyd a chlwstwr).

Cyfrifo neu gasglu data

Mae wedi bod yn ofynnol i bractisau cyffredinol gyflwyno data ar gyfer gweithgareddau ychwanegol dethol drwy’r Porth Gwybodaeth Gofal Sylfaenol (PCIP), o 1 Gorffennaf 2022, o ganlyniad i brosiect gwella ansawdd sydd wedi’i gynnwys yn Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd 2021-22 (QAIF).

Mae diffiniadau o bob gweithgaredd i’w cael yn yr adroddiad ansawdd.

Ansawdd ystadegol

Mae rhaglen ar y gweill i gyflwyno un system apwyntiadau i bob practis yng Nghymru, y bwriedir ei chwblhau erbyn haf 2026. Mae hyn yn golygu bod rhai practisau wedi trosglwyddo systemau o amgylch dyddiadau cyfeirio’r data, a allai arwain at faterion ychwanegol o ran ansawdd y data. Pan nodir bod materion o ran ansawdd y data, maent yn cael eu rhannu ag Iechyd a Gofal Digidol Cymru sy'n gweithio gyda’r byrddau iechyd a’r practisau i wella ansawdd y data. Mae'r ystadegau ar gyfer y chwarter mwyaf diweddar yn seiliedig ar y data fel y'u cofnodwyd i gychwyn. Mae data anghywir fel arfer yn cael eu golygu yn y data ffynhonnell ar ôl eu cyhoeddi ac adolygir yr ystadegau wedi hynny yn y cyhoeddiad ar gyfer y chwarter dilynol.

Mae’r data ar gyfer y cyfnod o fis Ionawr i fis Medi 2025 wedi’u hadolygu yn unol â’n polisi ar adolygiadau a gynlluniwyd. Roedd newid o 27.6% ar gyfer y nodiadau ffitrwydd a roddwyd ar lefel Cymru gyfan, o ganlyniad i gywiro data anghywir a gofnodwyd yn y chwarter blaenorol. Roedd y newidiadau ar gyfer yr holl weithgareddau ychwanegol eraill yn fach, gan amrywio rhwng 0.1% ac 1.0%.

Bydd y data ar gyfer y cyfnod o fis Ebrill i fis Rhagfyr 2025 yn cael eu hadolygu yn y cyhoeddiad nesaf.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru