Busnesau sy'n arloesi weithredol yn ôl blwyddyn
Disgwylir y diweddariad nesaf:Mai 2026
Diweddariadau
- 30ain Hydref 2025
- 25ain Medi 2025
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data
- Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
- Ffynhonnell y data
- Arolwg Arloesedd y DU (UKIS)
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae’r data hwn yn dangos canran y busnesau sy'n arloesi weithredol. Mae diffiniad y Deyrnas Unedig o arloesi yn seiliedig ar ddiffiniad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), a amlinellir yn Llawlyfr Oslo 2018.
Ystyrir bod busnesau yn arloesol os ydynt:
• Yn cyflwyno cynnyrch newydd neu wedi ei wella’n sylweddol (nwyddau neu wasanaeth) neu broses;
• Yn rhan o brosiectau arloesi sydd heb eu cwblhau eto neu wedi eu gadael;
• Wedi meithrin trefniadaeth, strwythurau busnes neu arferion newydd sydd wedi’u gwella’n fawr, a chysyniadau neu strategaethau marchnata.
- Cyfrifo neu gasglu data
Cafodd Arolwg Arloesedd y DU ei ariannu gan yr Adran Fusnes a Masnach. Cynhaliwyd yr arolwg ar ran yr Adran gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Roedd yr arolwg yn wirfoddol ac wedi’i gynnal ar ffurf holiadur electronig a chyfweliad ffôn gyda busnesau nad oedd eto wedi rhoi ymateb electronig. Daw y sampl o Gofrestr Busnes Rhyngadrannol ONS.
- Ansawdd ystadegol
Gan fod y data'n dod o arolwg, mae'r canlyniadau'n amcangyfrifon wedi'u seilio ar samplau ac felly'n destun graddau gwahanol o amrywioldeb samplu, h.y. mae'r gwir werth ar gyfer unrhyw fesur mewn ystod wahanol o amgylch y gwerth amcangyfrifedig. Mae'r ystod neu amrywioldeb samplu hwn yn cynyddu wrth i'r manylder yn y data gynyddu, er enghraifft mae mwy o amrywioldeb yn nata awdurdodau lleol unigol nag yn y data ar gyfer Cymru.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.economi@llyw.cymru