Mynegai gwasanaethau marchnad Cymru yn ôl adran a chwarter

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Cyfnod
140 o 140 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ardal
2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Adran
22 o 22 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Gorffennaf 2026

Diweddariadau

29ain Ebrill 2026

Diweddariad arferol i ychwanegu data newydd a diwygio data presennol lle bo angen.

29ain Ionawr 2026

Diweddariad arferol i ychwanegu data newydd a diwygio data presennol lle bo angen.

30ain Hydref 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol achrededig
Darparwr data
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
Ffynhonnell y data
Dangosyddion allbynnau tymor byr
Cyfnod amser dan sylw
Ionawr 1998 i Rhagfyr 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae’r Mynegai o Wasanaethau Marchnad yn fynegai chwarterol sy’n dangos symudiadau byrdymor yn allbwn camnïau yn sector gwasanaethau marchnad Cymru a’r Deyrnas Unedig.

Mae Mynegai Gwasanaethau'r Farchnad yng Nghymru'n cynnwys naw adran sy'n ymdrin â'r Dosbarthiadau Diwydiannol Safonol (SIC) 2007 canlynol:

  • Adran G: Dosbarthu
  • Adran H: Trafnidiaeth
  • Adran I: Gweithgareddau Llety a Gwasanaeth Bwyd
  • Adran J: Gweithgareddau Gwybodaeth a Chyfathrebu
  • Adran K: Gweithgareddau Ariannol ac Yswiriant
  • Adran L: Gweithgareddau Eiddo Tirol
  • Adran M: Gweithgareddau Proffesiynol, Gwyddonol a Thechnegol
  • Adran N: Gweithgareddau Gweinyddu a Gwasanaethau Cymorth
  • Adran RST: Gweithgareddau Gwasanaeth Eraill

Mae'r data wedi'u cyfeirio at 2023 = 100.

Mae'r data ar gyfer y blynyddoedd yn cyfartaleddau dros y pedwar chwarter ar gyfer y blynyddoedd hynny.

Cyfrifo neu gasglu data

Mae'r data'n cael eu cynhyrchu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Caiff data cymaradwy sy'n rhoi'r mynegeion cyfatebol ar gyfer y DU yn gyfan eu cynnwys yn y set ddata hon hefyd.

Mae Mynegai cyflawn Gwasanaethau Marchnad Cymru yn cynnwys 16 mynegai ar wahân, wedi’u pwysoli ynghyd gan ddefnyddio’n bennaf bwysoli a geir o’r dosbarthiad gwerth ychwanegol gros ar gyfer Cymru.

Mae'r holl fynegeion hyn wedi cael eu haddasu'n dymhorol i waredu unrhyw amrywiad sy'n gysylltiedig â'r adeg o'r flwyddyn ac eithrio JC (Technoleg Gwybodaeth a Gweithgareddau Gwybodaeth eraill), K (Mynegai Gweithgareddau Ariannol ac Yswiriant), L (Mynegai Gweithgareddau Eiddo Tirol), LXOOD (Gweithgareddau Eiddo Tirol heb gynnwys Anheddau Perchen-feddiannaeth) ac OOD (Anheddau Perchen-feddiannaeth). Ychydig o dystiolaeth o batrwm tymhorol cryf mae'r rhain yn ei dangos ac fe'u defnyddir heb eu haddasu.

Ansawdd ystadegol

Oherwydd y fethodoleg addasu'n dymhorol, mae'n bosibl y caiff amcangyfrifon ar gyfer chwarteri blaenorol eu diwygio pan gaiff chwarter arall ei ychwanegu.

Mae'r amcangyfrifon ar gyfer chwarteri unigol yn amrywio oherwydd gwall samplu ar hap ac fel arfer rhoddir pwyslais ar newidiadau yng nghyfartaledd y pedwar chwarter diweddaraf, neu ar y cyfartaleddau blynyddol.

Argymhellwn, wrth edrych ar gyfraddau twf cyfresi anwadal, y dylai defnyddwyr ganolbwyntio ar y newid canrannol rhwng y pedwar chwarter diweddaraf a'r un cyfnod flwyddyn yn ôl (tuedd hirdymor).

Talgrynnu wedi'i wneud

Mae'r ffigurau wedi'u talgrynnu i 1 lle degol.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.economi@llyw.cymru