Enillion canolrifol yr awr a gwahaniaeth cyflog rhwng enillion fesul awr gweithwyr yn ôl statws anabledd yng Nghymru a'r DU
Disgwylir y diweddariad nesaf:Ebrill 2027
Diweddariadau
- 14eg Mai 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data
- Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
- Ffynhonnell y data
- Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (APS)
- Cyfnod amser dan sylw
- Ionawr 2014 i Rhagfyr 2025
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae'r tabl hwn yn darparu amcangyfrifon o'r enillion canolrifol fesul awr a'r gwahaniaethau cyflog rhwng enillion canolrifol fesul awr yn achos gweithwyr 16 i 64 oed yn ôl anabledd yng Nghymru a'r DU.
- Cyfrifo neu gasglu data
Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, sy'n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas yn gallu analluogi pobl sydd ag amhariad neu gyflwr iechyd, neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Mae’r APS yn cipio data yn ystod y cyfweliad yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 sy’n defnyddio’r diffiniad meddygol o anabledd ('amhariad corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith sylweddol a hirdymor ar allu person i wneud gweithgareddau o ddydd i ddydd').
Mae amcangyfrifon o enillion canolrifol yr awr a gwahaniaethau cyflog yn ôl statws anabledd yn seiliedig ar weithwyr rhwng 16 a 64 oed oherwydd y ffordd y cesglir data anabledd ar gyfer y rhai o dan 16 oed a'r rhai 65 oed a hŷn.
Cyfrifir canrannau gwahaniaethau cyflog ar sail anabledd drwy rannu’r gwahaniaeth mewn enillion canolrifol fesul awr rhwng gweithwyr anabl a gweithwyr nad ydynt yn anabl â’r enillion canolrifol fesul awr ar gyfer gweithwyr nad ydynt yn anabl.
Mae gweithwyr yn y dadansoddiad hwn yn cyfeirio at yr holl weithwyr, gan gynnwys y rhai sy'n gweithio'n llawn amser neu'n rhan-amser.
- Ansawdd ystadegol
Mae’r data yn amcangyfrifon a seilir ar samplau sy'n deillio o arolwg ac felly’n destun gwahanol raddfeydd o amrywioldeb samplu, h.y. mae gwir werth unrhyw fesur i'w weld mewn ystod amrywiol o bob tu'r gwerth a amcangyfrifir. Mae'r ystod hon neu’r amrywioldeb samplu yn cynyddu wrth i'r manylion yn y data gynyddu, er enghraifft byddai data awdurdodau lleol unigol yn destun amrywioldeb uwch na data Cymru.
Mae'r APS wedi gweld gostyngiad ym maint samplau dros y blynyddoedd diwethaf ac nid yw'r arolwg wedi'i ail-bwysoli eto yn unol â'r amcangyfrifon diweddaraf o'r boblogaeth. Mae'n dal yn briodol defnyddio'r ystadegau hyn, ond dylai defnyddwyr nodi’r ansicrwydd uwch ynghylch amcangyfrifon sy’n deillio o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (APS). Ar lefel genedlaethol, mae amcangyfrifon yn parhau i ddarparu arwydd rhesymol o dueddiadau ar gyfer Cymru. Er hynny, mae amcangyfrifon ar gyfer ardaloedd daearyddol llai neu is-grwpiau o'r boblogaeth yn llai dibynadwy.
I gael rhagor o wybodaeth am ansawdd amcangyfrifon y farchnad lafur o dan APS a'n cyngor ar ddefnyddio'r ystadegau hyn, gweler ein datganiad diweddaraf Ystadegau'r farchnad lafur (Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth).
- Talgrynnu wedi'i wneud
Mae canrannau gwahaniaethau cyflog wedi'u talgrynnu i un lle degol.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.marchnadlafur@llyw.cymru