Eitemau presgripsiwn a chostau yn ôl cwintelau amddifadedd clwstwr

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Blwyddyn
3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ardal
74 o 74 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Deprivation quintile
6 o 6 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

6 o 6 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Medi 2027

Diweddariadau

16eg Gorffennaf 2026
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data
Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Ffynhonnell y data
Gwasanaethau Presgripsiwn
Cyfnod amser dan sylw
Ebrill 2023 i Mawrth 2026
ID y set ddata
65b420dd-57e4-41ec-8b3d-21463dde5d2e

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r set ddata hon yn seiliedig ar eitemau sy'n cael eu presgripsiynu gan unrhyw aelod o staff practis cyffredinol yn Nghymru sy'n gymwys i wneud hynny, sy'n cael eu cyflenwi wedyn yn y gymuned yn y DU.

Mae 'eitemau' yn cyfeirio at bob un eitem wahanol o feddyginiaeth neu gyfarpar a restrir ar bresgripsiwn, waeth beth fo'r swm neu'r cyfaint. Dim ond eitemau sy'n cael eu cyflenwi sy'n cael eu cyfrif.

Cost net cynhwysion, wedi'i mesur mewn punnoedd sterling, yw cost sylfaenol yr eitem, cyn unrhyw ffioedd ychwanegol (er enghraifft, ffioedd cyflenwi i fferyllfeydd) neu ostyngiadau (adfachiadau'r GIG).

Defnyddir poblogaeth gofrestredig practisau cyffredinol ar gyfer mesurau poblogaeth, gan fod yr eitemau'n cael eu presgripsiynu i boblogaeth practisau cyffredinol yn hytrach nag i boblogaeth gyffredinol Cymru.

Ffordd gydweithredol o ddarparu gwasanaethau iechyd yng Nghymru yw clwstwr, sy'n dwyn ynghyd wasanaethau a ddarperir gan bractisau cyffredinol, gwasanaethau gofal sylfaenol eraill, nyrsys ardal, gwasanaethau cymdeithasol a'r trydydd sector. Nid yw clystyrau'n seiliedig ar union ardaloedd daearyddol, ond maent yn dod â darparwyr gwasanaeth cyfagos at ei gilydd. Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yw'r dull swyddogol o fesur amddifadedd mewn ardaloedd bach yng Nghymru. Mae amddifadedd clwstwr yn seiliedig ar y mesur canlynol: y ganran o boblogaeth y clwstwr sy'n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, wedi'i mesur gan MALlC.

Mae Cwintel 1 yn cynnwys y 13 o glystyrau sydd â'r ganran uchaf o'u poblogaeth yn byw mewn ardal o amddifadedd. Mae Cwintel 5 yn cynnwys clystyrau sydd â'r ganran isaf o'u poblogaeth yn byw mewn ardal o amddifadedd.

Dim ond practisau cyffredinol y gallwn aseinio presgripsiynau iddynt yn hyderus sydd wedi’u cynnwys yn y set ddata hon. Felly, gall nifer yr eitemau a’r costau cysylltiedig fod yn wahanol ar gyfer y set ddata hon o’i chymharu â setiau data presgripsiynau eraill. Mae’r rhain yn cynnwys nifer cymharol fach o eitemau (llai na 0.5% o’r cyfanswm) a gafodd eu presgripsiynu mewn lleoliadau contractwyr gofal sylfaenol, fel gwasanaethau ymataliaeth arbenigol, carchardai a gorsafoedd heddlu.

Mae’r set ddata hon yn defnyddio amddifadedd yn ôl clwstwr meddygon teulu ym mlwyddyn olaf y flwyddyn ariannol (er enghraifft, 2026 ar gyfer blwyddyn ariannol 2025 i 2026), sy’n golygu y bydd data clwstwr meddygon teulu yn adlewyrchu poblogaethau a chwintelau sydd ychydig y tu hwnt i’r flwyddyn ariannol.

Cyfrifo neu gasglu data

Daw'r data am bresgripsiynau i law oddi wrth Wasanaethau Presgripsiynu Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ac maent yn seiliedig ar yr wybodaeth ar ffurflenni presgripsiwn a anfonir gan bresgripsiynwyr i gael eu talu.

Gwasanaeth Data Cyfeirio a Therminoleg Cymru (WRTS) yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru sy'n gyfrifol am gynnal rhestrau o glystyrau, a cheir dull chwilio i baru pob practis cyffredinol â chlwstwr.

Caiff clystyrau eu dyrannu i gwintelau amddifadedd yn seiliedig ar y dull a ddisgrifir yn yr erthygl ystadegol hon: https://www.llyw.cymru/poblogaeth-gweithlu-clwstwr-practisau-cyffredinol-gofal-sylfaenol-yn-ol-amddifadedd-ar-31-rhagfyr-2021

Ansawdd ystadegol

Mae nodiadau manwl, cefndir a diffiniadau i'w gweld yn y datganiad ystadegol a'r adroddiad ansawdd cysylltiedig.

Adroddiadau cysylltiedig

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru