Data nifer y hawlwyr budd-daliadau yn ôl ardal leol yng Nghymru a mis (heb ei addasu'n dymhorol)

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Dyddiad
154 o 154 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Geograffeg
28 o 28 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Rhyw
3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:21 Mai 2026

Diweddariadau

23ain Ebrill 2026

Diweddariad misol

24ain Mawrth 2026

Diweddariad misol

19eg Chwefror 2026

Diweddariad misol

22ain Ionawr 2026

Diweddariad misol

18fed Rhagfyr 2025

Diweddariad misol

13eg Tachwedd 2025
16eg Hydref 2025
16eg Hydref 2025
14eg Hydref 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol yn cael eu datblygu
Darparwr data
Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)
Ffynhonnell y data
System weinyddu'r Ganolfan Byd Gwaith
Cyfnod amser dan sylw
Mehefin 2013 i Mawrth 2026

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r gyfres hon yn cyfrif nifer y bobl sy'n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith ynghyd â'r rhai sy'n derbyn Credyd Cynhwysol am resymau diweithdra.

Cyfrifo neu gasglu data

Caiff y data eu cyhoeddi bob mis ac nid ydynt wedi'u haddasu'n dymhorol. Y nifer o hawlwyr nad ydynt wedi'u haddasu'n dymhorol yw nifer yr hawlwyr sy'n byw mewn ardal fel canran o'r boblogaeth 16-64 oed sy'n byw yno.

Ansawdd ystadegol

O fis Mai 2013 ymlaen, mae'r ffigurau hyn wedi'u dynodi fel ystadegau swyddogol sy'n cael eu datblygu. Mae ystadegau swyddogol sy'n cael eu datblygu yn ystadegau swyddogol sydd yn y broses o gael eu profi ac nad ydynt wedi'u datblygu'n llawn eto; efallai y bydd mwy o ansicrwydd yn perthyn i'r rhain.

Mae'r nifer sy'n hawlio yn cyfrif pawb sy'n hawlio budd-daliadau sy'n gysylltiedig â diweithdra. Nid yw'n seiliedig ar samplau felly, sy'n golygu y gellir ei ddadansoddi'n fanwl iawn. Fodd bynnag, nid yw'n cynnwys y rhai sy'n ddi-waith nad ydynt yn gymwys i hawlio (er enghraifft unigolion di-waith y mae eu partner yn gweithio), a'r rhai nad ydynt yn dymuno hawlio.

Mae hyn yn wahanol i fesur diweithdra y Sefydliad Llafur Rhyngwladol, sy'n cyfrif y rhai sy'n ddi-waith ac eisiau swydd, sydd wedi cymryd camau gweithredol i gael gwaith yn ystod y 4 wythnos diwethaf ac sydd ar gael i ddechrau gweithio yn ystod y bythefnos nesaf, yn ogystal â'r rhai sy'n ddi-waith, wedi dod o hyd i swydd ac yn aros i ddechrau yn ystod y bythefnos nesaf, sy'n fesur mwy cynhwysfawr o ddiweithdra.

Talgrynnu wedi'i wneud

Mae'r holl ffigurau yn y tabl wedi'u talgrynnu i'r lluosrif agosaf o 5

Adroddiadau cysylltiedig

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.marchnadlafur@llyw.cymru