Rhaglen Plant Iach Cymru: canran y plant cymwys sydd â chysylltiadau wedi’u cofnodi, yn ôl chwarter a bwrdd iechyd lleol
Disgwylir y diweddariad nesaf:19 Tachwedd 2025
Diweddariadau
- 25ain Chwefror 2026
Mae’r diweddariad hwn yn cynnwys data’r chwarter diweddaraf.
- 19eg Tachwedd 2025
- 5ed Tachwedd 2025
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Gwybodaeth reoli
- Darparwr data
- Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)
- Ffynhonnell y data
- Cronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD)
- Cyfnod amser dan sylw
- Hydref 2016 i Hydref 2025
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae Rhaglen Plant Iach Cymru yn pennu naw cyswllt â gweithwyr iechyd proffesiynol, ar bwyntiau penodol, ar gyfer plant yng Nghymru rhwng 10 diwrnod oed a 3.5 oed. Dylai byrddau iechyd lleol (BILl) gynnig y cysylltiadau hyn i bob plentyn yng Nghymru.
Ffynhonnell y data yw’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD); yn gronfa ddata a sefydlwyd ac sy'n cael ei rhedeg gan DHCW. Mae'r data'n cael ei echdynnu o gronfeydd data'r System Iechyd Plant a gedwir gan BILlau. Mae’r data ar gyfer pob plentyn: yn cynnwys plant a ddiffinnir fel rhai sy’n derbyn, ac nid sy’n derbyn gwasanaethau Dechrau’n Deg gan ddefnyddio eu cod post Dechrau’n Deg.
- Cyfrifo neu gasglu data
Yn y set ddata hon, mae chwarter yn cyfeirio at chwarter blwyddyn galendr.
O 1 Ebrill 2019, symudodd darpariaeth gwasanaeth iechyd trigolion awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Mae enwau'r byrddau iechyd wedi newid; mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ac mae bwrdd iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bellach yn fwrdd iechyd Bae Abertawe.
- Ansawdd ystadegol
Effeithiwyd ar ddata o Ch1 2020 (Ionawr i Mawrth 2020) ymlaen gan bandemig COVID-19. Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd llawer o ymwelwyr iechyd eu hadleoli i weithio mewn ysbytai, a chynghorwyd byrddau iechyd i flaenoriaethu dim ond y cysylltiadau 10 i 14 o ddiwrnodau, cysylltiadau 6 wythnos, ac yn ddiweddarach, cysylltiadau 6 mis. Cynhaliwyd cysylltiadau eraill pan oedd hynny’n bosibl, yn aml dros y ffôn neu yn rhithwir, ond nid oedd y rhain bob amser yn cael eu cofnodi yn y ffordd arferol. Cadarnhaodd canllawiau, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2020, y blaenoriaethu hwn, a rhoddwyd cyngor pellach ym mis Mai i adfer cysylltiadau ychwanegol yn raddol ac i ddychwelyd i’r amserlen lawn ym mis Awst. Fodd bynnag, wrth i gyfraddau heintio godi eto ym mis Rhagfyr 2020, dywedwyd wrth fyrddau iechyd i asesu’r risg a oedd yn gysylltiedig â lleihau gwasanaethau, wrth barhau i gynnal y cysylltiadau allweddol ar 10 i 14 o ddiwrnodau, 6 wythnos a 6 mis. Dylid dehongli data ar gyfer y cyfnod hwn gan gofio am y newidiadau hyn.
Cynghorir gofal wrth ddehongli data ar gyfer yr apwyntiad meddyg teulu 6 wythnos a'r apwyntiad imiwneiddio 8 wythnos, gan fod problem ansawdd data hysbys. Mae'r data a gyflwynir yn is-gyfrif o'r gweithgarwch gwirioneddol sy'n digwydd. Mae’r mater oherwydd nad yw'r broses casglu data ar bapur yn cael ei gweithredu'n llawn. Cymerwyd camau i wella ansawdd data, a bydd mesurau pellach yn parhau i gael eu gweithredu nes i’r data fod yn fwy dibynadwy.
Mae mater ansawdd data hysbys ar gyfer data Ch2 2022 (Ebrill i Mehefin 2022). Mae canran y plant sy’n cael cyswllt gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ym mhob pwynt cyswllt, ar wahân i’r pwynt 6 wythnos, yn dangyfrif o’r gwir weithgarwch a ddigwyddodd. Mae’r mater hwn wedi’i achosi gan oedi o ran prosesu ffurflenni casglu data yn y bwrdd iechyd ac mae’r bwrdd iechyd yn gweithio i’w ddatrys. Effeithir hefyd ar y ffigurau cyffredinol ar gyfer Cymru. Mae’n bosibl y bydd y data wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad nesaf.
Mae mater ansawdd data yn ystod Ch1 2024 (Ionawr i Mawrth 2024). Bu streiciau gan ymwelwyr iechyd ar 26 Chwefror 2024 ym mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a oedd yn cynnwys peidio â rhoi unrhyw ddata ystadegol ar gyfer y bwrdd iechyd na Llywodraeth Cymru. Efallai bod hyn wedi effeithio ar y ffigurau ar gyfer y Ch1 2024 (Ionawr a Mawrth 2024).
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.iechyd@llyw.cymru