Amcangyfrifon stoc anheddau yn ôl deiliadaeth ac ardal awdurdod lleol

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Ardal
26 o 26 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Cyfnod
27 o 27 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Deiliadaeth
7 o 7 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Rhagfyr 2026

Diweddariadau

4ydd Mehefin 2026

Wedi'i ddiweddaru gan gynnwys data hyd at 31/03/2025

15fed Ionawr 2026

.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol achrededig
Darparwr data
Llywodraeth Cymru
Ffynhonnell y data
Amcangyfrifon o'r Stoc Anheddau
Cyfnod amser dan sylw
Mawrth 2001 i Mawrth 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Amcangyfrifon o nifer yr anheddau yng Nghymru, ar 31 Mawrth bob blwyddyn. Mae'r amcangyfrifon yn ymwneud â diwedd pob blwyddyn ariannol h.y. mae amcangyfrifon ar gyfer 2011-12 yn ymwneud â 31 Mawrth 2012. Amcangyfrifir y dadansoddiad o amcangyfrifon stoc anheddau yn ôl deiliadaeth o wybodaeth Cyfrifiad 2001, 2011 a 2021 a gwybodaeth o'r Arolwg Poblogaeth Blynyddol, ffurflenni awdurdodau lleol a ffurflenni landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (RSL).

Cyfrifo neu gasglu data

Mae amcangyfrifon o nifer yr anheddau yn seiliedig ar ddata cyfrifiadau poblogaeth 2001, 2011 a 2021, sy'n cael eu diweddaru bob blwyddyn i gyfrif y stoc anheddau newydd a gwblheir ynghyd ag unrhyw enillion neu golledion trwy addasiadau a dymchweliadau.

Mae'r dull hwn o greu amcangyfrifon treigl ar sail ffigurau cyfrifiad yn rhoi amcangyfrifon rhwng cyfrifiadau. Ond ar ôl creu amcangyfrifon am 10 mlynedd, mae anghysondebau fel arfer i’w gweld rhwng yr amcangyfrifon a ffigurau nesa’r cyfrifiad. Er mai’r amcangyfrifon treigl hyn yw’r dull amcangyfrif gorau rhwng cyfrifiadau, pella’n y byd yw’r amcangyfrif o flwyddyn y cyfrifiad, lleia’ dibynadwy y bydd yr amcangyfrif hwnnw. I gael rhagor o wybodaeth am y gwahaniaeth rhwng yr amcangyfrif o anheddau a chyfrif y cyfrifiad, cyfeiriwch at atodiad yr adroddiad Stoc anheddau: ar 31 Mawrth 2022 ac amcangyfrifon stoc anheddau: cyfrif cyfrifiad 2011 ac amcangyfrifon wedi'u rholio ymlaen, a geir mewn adroddiadau cysylltiedig.

Amcangyfrifwyd y rhaniad yng Nghymru rhwng anheddau perchen-feddiant ac anheddau rhent preifat trwy ddefnyddio gwybodaeth o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth (APS). Gweler manylion llawn y fethodoleg yn y datganiad ystadegol.

Ansawdd ystadegol

Mae data perchen-feddiant a rhent preifat ar gyfer 2023 a 2024 wedi'i ddiwygio i gyfrif am y data APS 2024 a gyhoeddwyd. Mae'r data perchen-feddiant a rhent preifat ar gyfer 2024 a 2025 yn ddata dros dro a bydd yn cael ei ddiwygio unwaith y bydd data APS 2025 ar gael. Mae'r APS wedi gweld gostyngiad mewn meintiau sampl dros y blynyddoedd diwethaf ac mae'r ansicrwydd ystadegol ar gyfer amcangyfrifon wedi cynyddu. Felly, mae'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR) wedi cytuno y dylid atal ei achrediad ystadegau swyddogol dros dro ac mae rhifyn 2025 o'r set ddata yn ystadegau swyddogol yn cael eu datblygu; mae'r dull yn destun newid wrth i faterion ansawdd mewn ffynonellau arolygon gael eu hystyried, ac yn dibynnu ar adborth defnyddwyr.

Yn dilyn cyhoeddi data anheddau Cyfrifiad 2021, mae amcangyfrifon stoc anheddau wedi’u haddasu ar sail ffigur anheddau Cyfrifiad 2021 i sicrhau cysondeb â’r cyfrifiad blaenorol a’r cyfrifiad diweddaraf. Ceir rhagor o fanylion yn y datganiad ystadegol.

Talgrynnu wedi'i wneud

Oherwydd ansicrwydd am yr amcangyfrifon, mae’r ffigurau wedi’u talgrynnu i’r 100 agosaf.

Oherwydd y modd y defnyddiwyd cyfraddau Arolwg Blynyddol y Boblogaeth, ni fydd cyfanswm Cymru yn cyfateb i swm yr awdurdodau lleol ar gyfer rhai daliadaethau. Cyfrifwyd y ffigyrau rhanbarthol fel swm yr awdurdodau lleol.

Am eu bod wedi’u talgrynnu, ni fydd rhai canrannau deiliadaeth yn dod i 100.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.tai@llyw.cymru