Amcangyfrifon stoc anheddau yn ôl deiliadaeth ac ardal awdurdod lleol

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Awdurdod lleol
26 o 26 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Cyfnod
24 o 24 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Deiliadaeth
10 o 10 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewiswch newidyn ar gyfer colofnau'r tabl

Bydd gwerthoedd y newidyn hwn yn mynd ar draws brig eich tabl. Er enghraifft, ar gyfer newidyn sy'n cynnwys blynyddoedd, byddai gan bob blwyddyn ei golofn ei hun. Gallwch ddewis newidyn yn y ddewislen 'Hidlyddion newidynnau' i weld pa werthoedd sydd ynddo.

Disgwylir y diweddariad nesaf:Rhagfyr 2026

Diweddariadau

15fed Ionawr 2026

.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol achrededig
Darparwr data
Llywodraeth Cymru
Ffynhonnell y data
Amcangyfrifon o'r Stoc Anheddau
Cyfnod amser dan sylw
Mawrth 2001 i Mawrth 2024

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Amcangyfrifon o nifer yr anheddau yng Nghymru, ar 31 Mawrth bob blwyddyn. Mae'r amcangyfrifon yn ymwneud â diwedd pob blwyddyn ariannol h.y. mae amcangyfrifon ar gyfer 2011-12 yn ymwneud â 31 Mawrth 2012. Amcangyfrifir y dadansoddiad o amcangyfrifon stoc anheddau yn ôl deiliadaeth o wybodaeth Cyfrifiad 2001, 2011 a 2021 a gwybodaeth o'r Arolwg Poblogaeth Blynyddol, ffurflenni awdurdodau lleol a ffurflenni landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (RSL).

Cyfrifo neu gasglu data

Mae amcangyfrifon o nifer yr anheddau yn seiliedig ar ddata cyfrifiadau poblogaeth 2001, 2011 a 2021, sy'n cael eu diweddaru bob blwyddyn i gyfrif y stoc anheddau newydd a gwblheir ynghyd ag unrhyw enillion neu golledion trwy addasiadau a dymchweliadau.

Mae'r dull hwn o greu amcangyfrifon treigl ar sail ffigurau cyfrifiad yn rhoi amcangyfrifon rhwng cyfrifiadau. Ond ar ôl creu amcangyfrifon am 10 mlynedd, mae anghysondebau fel arfer i’w gweld rhwng yr amcangyfrifon a ffigurau nesa’r cyfrifiad. Er mai’r amcangyfrifon treigl hyn yw’r dull amcangyfrif gorau rhwng cyfrifiadau, pella’n y byd yw’r amcangyfrif o flwyddyn y cyfrifiad, lleia’ dibynadwy y bydd yr amcangyfrif hwnnw. I gael rhagor o wybodaeth am y gwahaniaeth rhwng yr amcangyfrif o anheddau a chyfrif y cyfrifiad, cyfeiriwch at atodiad yr adroddiad Stoc anheddau: ar 31 Mawrth 2022 ac amcangyfrifon stoc anheddau: cyfrif cyfrifiad 2011 ac amcangyfrifon wedi'u rholio ymlaen, a geir mewn adroddiadau cysylltiedig.

Amcangyfrifwyd y rhaniad yng Nghymru rhwng anheddau perchen-feddiant ac anheddau rhent preifat trwy ddefnyddio gwybodaeth o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth (APS). Gweler manylion llawn y fethodoleg yn y datganiad ystadegol.

Ansawdd ystadegol

Mae data 2022 a 2023 wedi’u hadolygu. Yn dilyn cyhoeddi data anheddau Cyfrifiad 2021, mae amcangyfrifon stoc anheddau wedi’u haddasu ar sail ffigur anheddau Cyfrifiad 2021 i sicrhau cysondeb â’r cyfrifiad blaenorol a’r cyfrifiad diweddaraf. Ceir rhagor o fanylion yn y datganiad ystadegol.

Talgrynnu wedi'i wneud

Oherwydd ansicrwydd am yr amcangyfrifon, mae’r ffigurau wedi’u talgrynnu i’r 100 agosaf.

Oherwydd y modd y defnyddiwyd cyfraddau Arolwg Blynyddol y Boblogaeth, ni fydd cyfanswm Cymru yn cyfateb i swm yr awdurdodau lleol ar gyfer rhai daliadaethau. Cyfrifwyd y ffigyrau rhanbarthol fel swm yr awdurdodau lleol.

Am eu bod wedi’u talgrynnu, ni fydd rhai canrannau deiliadaeth yn dod i 100.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.tai@llyw.cymru