Llif gweithlu staff practis ehangach blynyddol (cywerth ag amser llawn)
Disgwylir y diweddariad nesaf:Ionawr 2027
Diweddariadau
- 30ain Mehefin 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data 1
- Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
- Ffynhonnell y data 1
- System Adrodd Genedlaethol ar gyfer Gweithlu Cymru (WNWRS)
- Darparwr data 2
- Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
- Ffynhonnell y data 2
- System Gwybodaeth am y Gweithlu Gofal Sylfaenol
- Cyfnod amser dan sylw
- Medi 2023 i Medi 2025
- ID y set ddata
- 63c05287-b486-4efd-8289-078c953eb03c
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Llifoedd gweithlu staff practis ehangach blynyddol (cyfwerth ag amser llawn) yn ôl math o staff
- Cyfrifo neu gasglu data
Mae'r data hwn yn dangos nifer cyffredinol y meddygon leulu cyfwerth ag amser llawn cymwys yn ôl grwp staff ym mlwyddyn 2 yn ôl y grwp staff yr oedd yr un staff yn gweithio ynddo ar yr un dyddiad ym mlwyddyn 1.
Mae dynodwr unigryw pob person wedi'i gysylltu â data o'r flwyddyn flaenorol i nodi'r math o rôl a ddaliwyd ganddynt.
Ni fydd niferoedd ymuno a gadael ar gyfer grwpiau staff ymarfer ehangach yn y set ddata hon o reidrwydd yn cyfateb i'r rhai yn Staff practis ehangach (cyfwerth ag amser llawn) staff sy'n ymuno ac yn gadael yn ôl grŵp staff, rhyw a band oedran oherwydd ychwanegu'r categori rolau staff lluosog. Yn ogystal, diffinnir ymuno a gadael yn y set ddata ar lefel staff ymarfer ehangach, tra yn Staff practis ehangach (cyfwerth ag amser llawn) staff sy'n ymuno ac yn gadael yn ôl grŵp staff, rhyw a band oedran maent wedi'u diffinio ar lefel y grŵp staff. Er enghraifft, pe bai unigolyn wedi'i gontractio i rôl gofal cleifion uniongyrchol ym mlwyddyn 1 ond wedi symud i rôl nyrs ym mlwyddyn 2, byddai llif o 'ofal cleifion uniongyrchol' i 'nyrs' yn y set ddata hon. Fodd bynnag, byddai'r symudiad hwn yn Staff practis ehangach (cyfwerth ag amser llawn) staff sy'n ymuno ac yn gadael yn ôl grŵp staff, rhyw a band oedran yn cael ei gofnodi fel rhywun sy'n gadael gofal cleifion uniongyrchol, a nyrs sy'n ymuno.
- Ansawdd ystadegol
Gweler yr adroddiad ansawdd ystadegol am ragor o wybodaeth am ystadegau gweithlu practisau cyffredinol.
- Talgrynnu wedi'i wneud
Data CALI wedi'u talgrynnu i 1 lle degol
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.iechyd@llyw.cymru