Cymorth i Brynu: Nifer y ceisiadau Cymru yn ôl statws cwblhau

Defnyddir Llawfer safonol yn y tabl hwn: [t] = cyfanswm.

Dewisiadau gweld

Hidlwyr

Disgrifiad o’r data ( o 11 wedi'u dewis11 dewis y mae modd eu dewis)

Ardal ( o 1 wedi'u dewis1 dewis y mae modd eu dewis)


Gwerthoedd dataDisgrifiad o’r dataArdal
1 [t]Achosion newydd eto i'w hasesu'n llawnCymru
53 [t]Awdurdod i fwrw ymlaen cyhoeddiCymru
57 [t]Awdurdod i gyfnewid cyhoeddiCymru
34 [t]Contractau wedi eu cyfnewidCymru
7468 [t]Heb ei ad-dalywdCymru
7471 [t]Ad-daluCymru
14939 [t]Pryniannau wedi eu cwblhauCymru
1559 [t]Dirywio neu beidio bwrw ymlaenCymru
10 [t]Wedi holiCymru
16653 [t]Holl ceisiadauCymru
155 [t]Ceisiadau ar y gweill Ceisiadau ar y gweillCymru

Prif wybodaeth

Diweddariad mwyaf diweddar
15 Hydref 2025
Disgwylir y diweddariad nesaf
Chwefror 2026
Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data
Llywodraeth Cymru
Ffynhonnell y data
Data Cymorth i Brynu Cymru

Nodiadau data

Diwygiadau
  • 15 Hydref 2025
  • 9 Hydref 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Cynllun benthyciadau ecwiti a rennir yw Cymorth i Brynu Cymru. Ei nod yw cefnogi pobl i ddod yn berchen ar gartref, ysgogi gweithgarwch adeiladu a rhoi hwb i'r sector tai a'r economi ehangach. Mae Cymorth i Brynu Cymru ar gael i bawb sy'n dymuno prynu cartref newydd (nid prynwyr cartref tro cyntaf yn unig) ond a allai fod yn wynebu rhwystrau wrth wneud hynny – er enghraifft, o ganlyniad i ofynion o ran blaendaliadau – ond y gellid disgwyl iddynt ad-dalu morgais fel arall. Ar 10 Rhagfyr 2015, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn buddsoddi hyd at £290 miliwn arall yn ail gam Cymorth i Brynu Cymru. Mae'r cyllid ychwanegol hwn yn anelu at gefnogi'r gwaith o adeiladu mwy na 6,000 o gartrefi newydd eraill yng Nghymru erbyn 2021. Ar 18 Medi 2020 cyhoeddwyd y byddai'r cynllun Cymorth i Brynu yn parhau am flwyddyn arall tan fis Mawrth 2022 gyda'r posibilrwydd o barhau ymhellach tan fis Mawrth 2023. Cadarnhawyd yr estyniad pellach hwn mewn datganiad ysgrifenedig ar 24 Mawrth 2021. Ym mis Ebrill 2021, cyflwynodd trydydd cam y cynllun rai newidiadau gan gynnwys gostwng uchafswm y pris prynu i £250,000. Ym mis Rhagfyr 2022, cyhoeddodd y Gweinidog Newid Hinsawdd y byddai'r cynllun yng Nghymru yn parhau tan fis Mawrth 2025. Yn ogystal, bydd angen i bob cartref sy'n cael ei werthu drwy'r cynllun feddu ar sgôr Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) o B o leiaf a bydd y cap ar brisiau prynu yn codi o £250,000 i £300,000. Ym mis Rhagfyr 2024 penderfynwyd ymestyn ymhellach y cynllun benthyciadau ecwiti a rennir Cymorth i Brynu Cymru tan fis Medi 2026.

Cyfrifo neu gasglu data

Mae'r data'n deillio o ddetholiad o drafodion o dan gynllun Cymorth i Brynu yng Nghymru, ac fe'i darperir i Lywodraeth Cymru gan Help to Buy Wales Ltd bob mis.

Mae data'n cael ei echdynnu o Client Relationship Management System (CRM) Help to Buy (Wales) Ltd. Mae'r holl wybodaeth yn cael ei chadw'n ddiogel ar y system ac yn cael ei mewnbynnu gan staff prosesu Help to Buy (Wales) Ltd. Mae'r holl wybodaeth a gedwir ar y CRM, mewn perthynas ag eiddo Cymorth i Brynu Cymru, yn cael ei darparu gan y prynwr neu ei gyfreithiwr/trawsgludwr fel rhan o'r Ffurflen Gwybodaeth Eiddo, Ffurflen Trawsgludwyr 1 neu Ffurflen Trawsgludwyr 2. I gael mwy o fanylion am y broses mae prynwyr yn mynd trwyddi, a'r dogfennau y mae'n ofynnol iddynt ei gwblhau er mwyn cael gafael ar fenthyciad rhannu ecwiti ewch i wefan y cynllun (gweler y dolenni gwe).

Ansawdd ystadegol

Gallwch weld y wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol cysylltiedig trwy ddilyn y ddolen we a roddir.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.tai@llyw.cymru

Dewis y set ddata gyfan neu wedi'i hidlo i'w lawrlwytho

Dewis fformat lawrlwytho

Yn cynnwys y set ddata yn unig
Yn cynnwys y set ddata yn unig
Yn cynnwys y set ddata yn unig

Dewis fformat rhifau

Mae hyn yn cynnwys talgrynnu i leoedd degol a chomas er mwyn gwahanu miloedd
Mae hyn yn cynnwys talgrynnu i leoedd degol a chomas er mwyn gwahanu miloedd

Dewis iaith