Cyfraddau casglu ardrethu annomestig yn ôl awdurdod
Disgwylir y diweddariad nesaf:Mehefin 2026
Diweddariadau
- 16eg Hydref 2025
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol achrededig
- Darparwr data
- Awdurdodau Lleol
- Ffynhonnell y data
- Casgliad data am gasglu'r dreth gyngor (CTC)
- Cyfnod amser dan sylw
- Ebrill 1996 i Mawrth 2025
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Ardrethi a delir i awdurdodau bilio gan yr holl fusnesau yn ardal yr awdurdod hwnnw yw ardrethi annomestig.
Ers 1 Ebrill 1990, mae'r rhain wedi eu seilio ar ardreth fusnes unffurf ledled Cymru a elwir yn buntdal cenedlaethol sengl a osodir gan lywodraeth ganolog. Defnyddir y puntdal cenedlaethol hwn gyda gwerth ardrethol pob eiddo annomestig i benderfynu ar y bil ar gyfer yr eiddo hwnnw.
Mae awdurdodau bilio yn talu'r ardrethi annomestig a gesglir i gronfa ganolog a chânt eu rhannu i ddechrau rhwng cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol ac awdurdodau heddlu ac yna eu hailddosbarthu rhwng pob awdurdod yn unol â chyfrannau o'r boblogaeth sy'n oedolion. Disodlodd hon y system flaenorol pan yr oedd awdurdodau bilio yn gosod eu cyfraddau eu hunain ac yn cadw'r ardrethi a oedd yn berthnasol i'r holl fusnesau yn eu hardal.
- Cyfrifo neu gasglu data
Mae'r data y gofynnir amdanynt gan awdurdodau lleol, yn ofynnol o dan ddeddfwriaeth.
- Ansawdd ystadegol
Cesglir y data drwy gyfrwng arolwg 100% felly ni chaiff unrhyw amcangyfrif o'r ffigurau ei gyfrifo, ac o'r herwydd, nid oes unrhyw wall samplu.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.cyllid@llyw.cymru