Genedigaethau yn ôl dull dechrau'r esgor a statws epidwral yn ôl bwrdd iechyd lleol
Disgwylir y diweddariad nesaf:Awst 2026
Diweddariadau
- 4ydd Awst 2026
Mae’r diweddariad hwn yn cynnwys data’r flwyddyn ddiweddaraf ac yn cynnwys diwygiadau i ddata’r flwyddyn flaenorol. Mae pob diwygiad wedi’i nodi â’r cod nodyn [r]. Mae'r diweddariad hwn yn cynnwys newid i deitl y set ddata.
- 19eg Rhagfyr 2025
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol achrededig
- Darparwr data
- Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)
- Ffynhonnell y data
- Set Ddata Dangosyddion Mamolaeth (MIDS)
- Cyfnod amser dan sylw
- Ionawr 2016 i Rhagfyr 2025
- ID y set ddata
- 5eb9315c-d8fa-44c8-9479-b6f9bd184cc9
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Nifer a chanran yr esgoriadau yn ôl dull dechrau genedigaeth a statws epidwrol, wedi’u dadansoddi yn ôl bwrdd iechyd lleol.
Mae’r data hyn yn deillio o’r set ddata Dangosyddion Mamolaeth a ddarperir i Lywodraeth Cymru gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru.
Mae’r set ddata Dangosyddion Mamolaeth yn cyfuno cofnodion o asesiad cychwynnol y fam â chofnod genedigaeth y plentyn.
Mae manylion llawn pob eitem ddata sydd ar gael yn y set ddata Dangosyddion Mamolaeth ar gael yng Ngeiriadur Data GIG Cymru.
Diffinnir y dull o ddechrau esgor fel a ganlyn:
- Naturiol: lle dechreuodd yr esgor yn naturiol;
- Cymell: sy’n cynnwys dulliau cymell meddygol, dulliau cymell llawfeddygol ac achosion lle defnyddiwyd cyfuniad o’r ddau;
- Toriadau Cesaraidd: unrhyw doriad Cesaraidd a wnaed cyn i’r esgor ddechrau; neu doriad Cesaraidd dewisol wedi’i gynllunio ymlaen llaw a gynhaliwyd yn syth ar ôl i’r esgor ddechrau, lle gwnaed y penderfyniad cyn yr esgor.
- Cyfrifo neu gasglu data
Mae’r data o’r set ddata Dangosyddion Mamolaeth dim ond yn cynnwys data asesiadau cychwynnol lle’r oedd yr asesiad cychwynnol a’r enedigaeth wedi digwydd yn yr un bwrdd iechyd, a hynny yng Nghymru yn unig.
Nid yw genedigaethau i famau sy’n byw yng Nghymru a roddodd enedigaeth yn Lloegr neu mewn unrhyw wlad arall y tu allan i Gymru wedi’u cynnwys yn y data.
Mae data ar gyfer pob blwyddyn galendr yn cyfeirio at ba bryd y ganed y babi. Mae’n bosibl bod asesiadau cychwynnol wedi digwydd yn y flwyddyn flaenorol, ond cânt eu cyfrif ym mlwyddyn yr enedigaeth.
- Ansawdd ystadegol
Dull dechrau’r esgor: Rhwng 2016 a 2024, ni wnaeth Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan ddarparu data wedi’u cofnodi’n gywir ar gyfer yr eitem ddata hon, felly mae wedi’i eithrio o’r dadansoddiad. Ni ddarparodd Hywel Dda ddata wedi’u cofnodi’n gywir ar gyfer yr eitem ddata hon rhwng 2016 a 2021 felly mae hefyd wedi’i eithrio o'r dadansoddiad ar gyfer y blynyddoedd hyn. Mae’r data ar gyfer Cymru yn cynrychioli’r 5 bwrdd iechyd sy’n weddill yn 2016 i 2021, a’r 6 bwrdd iechyd sy’n weddill rhwng 2022 a 2024. Gweler yr adroddiad ansawdd i gael rhagor o wybodaeth.
Triniaethau epidwrol: Yn 2024, ni wnaeth Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan ddarparu data wedi’u cofnodi’n gywir ar gyfer yr eitem ddata hon, felly mae wedi’i eithrio o’r dadansoddiad. Mae’r data ar gyfer Cymru yn cynrychioli’r 6 bwrdd iechyd sy’n weddill.
O 1 Ebrill 2019 ymlaen, symudodd darpariaeth y gwasanaeth iechyd ar gyfer preswylwyr awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Fwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg i Fwrdd Iechyd Cwm Taf. Newidiodd enwau’r byrddau iechyd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae data ar gyfer Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Cwm Taf ar gael ar gyfer blynyddoedd blaenorol yn y tabl hwn.
Mae gwybodaeth fanylach am y ffynonellau data a’r dadansoddiadau yn y datganiad ystadegol hwn ar gael yn yr adroddiad ansawdd.
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.iechyd@llyw.cymru